Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Meysydd Pwnc  -  Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar  -  Tystebau Myfyrwyr

Naomi Rosser - BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Naomi Rosser Testimonial

Pam gwnest ti ddewis y cwrs?

Yn wreiddiol, fy nod oedd dod yn athrawes Gymraeg ond ar ôl archwilio’r amrywiaeth o gyrsiau yn y Drindod Dewi Sant, roeddwn i’n gwybod mai’r radd Blynyddoedd Cynnar oedd yr un i mi. Mae natur amlddisgyblaethol y radd wedi fy ngalluogi i ddod i gysylltiad â nifer o yrfaoedd yn y maes gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd fel Cynorthwyydd Meithrin, Cynorthwyydd Addysgu a dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Sicrhaodd y darlithwyr fy mod i’n datblygu fy sgiliau ymchwil a’m sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, yr oedd eu hangen arnaf i ddyfnhau fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o blant ifanc, a hefyd yn datblygu fy hyder ar gyfer cyfweliadau a gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Sut beth yw’r darlithoedd?

Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol yn fyfyriwr y Blynyddoedd Cynnar, mae angerdd ac ymrwymiad y staff i’w darlithoedd a’u gyrfa wedi bod yn amlwg i mi. Maen nhw’n darparu amgylcheddau cefnogol, difyr a diddorol lle maent yn ein hannog ni fel myfyrwyr i ddatblygu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn profiadau newydd. Mae diddordeb angerddol yr Ysgol ym maes y Blynyddoedd Cynnar yn cael ei adlewyrchu ynom ni ac yn rhoi’r hyder i ni werthfawrogi pwysigrwydd hawliau a chwarae plant ifanc, pwysigrwydd gwrando a pharchu syniadau a phenderfyniadau plant. Mae’r darlithoedd yn ymarferol a gweithredol gan gynnig nifer o gyfleoedd i ni fod yn ddychmygus a chreadigol ac i gysylltu theori ac ymarfer. 

Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?

Rydw i wedi mwynhau archwilio’r amrywiol fodylau dysgu ymarferol, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys agweddau ar ddysgu yn yr awyr agored, diogelu ac arweinyddiaeth. Rydw i wedi gallu defnyddio fy syniadau a’m menter fy hun i ymgymryd â thasgau dysgu a dangos fy nghryfderau ym maes y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r Ysgol wedi rhoi cyfleoedd i mi hyrwyddo’r cwrs a gweithio gyda’r darlithwyr trwy ysgrifennu blogiau, gweithio ar ddiwrnodau agored, bod yn gynrychiolydd cwrs ac ymweld ag ysgolion a mannau yn yr ardal leol. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi’i fwynhau a byddaf yn parhau i wneud hynny tan i mi raddio. Byddwn yn argymell i unrhyw fyfyrwyr newydd fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Pa sgiliau wyt ti wedi’u meithrin?

  • Hyder
  • Empathi
  • Sgiliau cymdeithasol
  • Sgiliau trefnu 
  • Ymroddiad
  • Rheoli amser

Sut oedd y profiad ar leoliad?

Mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau. Dewisais i’r radd BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Nid oedd yn ofynnol ymgymryd â lleoliad ar gyfer y radd hon ond roedd y darlithwyr yn ein hannog i feddwl am leoliad. Gan fod cysylltiadau agos rhwng yr Ysgol Blynyddoedd Cynnar a’r Feithrinfa Gymraeg ar y campws, cefais gyfle i gysylltu’r hyn roeddwn wedi’i ddysgu yn y Brifysgol â materion go iawn yn y gweithle.

Unrhyw ymweliadau neu deithiau neu siaradwyr gwadd da?

  • Llundain – Meithrinfa Rachel McMillan 
  • Pentre Bach
  • Teithiau awyr agored - Trysordy, Down to Earth a Llansteffan
  • Sweden
  • Canada
  • Siaradwr gwadd  - Siân Owen

Cynlluniau i’r dyfodol?

Ar ôl cwblhau fy mhedwaredd flwyddyn gyda’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar, rwy’n gobeithio ehangu fy ngwybodaeth ddamcaniaethol ar Ddiogelu a’i roi ar waith. Felly, fy nod yw ymuno â’r Heddlu lle byddaf yn dod ar draws deddfau, gweithdrefnau, trosedd a diogelu plant mewn sefyllfaoedd ymarferol.  Yn ogystal byddwn yn hoffi agor fy nghartref gofal fy hun i blant, neu leoliad rhwng cenedlaethau i blant ifanc a hen bobl.

Pam byddet ti’n awgrymu i rywun arall ddewis y radd hon?

Byddwn i’n argymell y radd hon i ddarpar fyfyrwyr eraill am ei bod yn gwrs amlddisgyblaethol a fydd yn eich galluogi i weithio gyda phlant a theuluoedd mewn amrywiol feysydd. Mae gan y darlithwyr ystod amrywiol o arbenigedd o’u gyrfaoedd blaenorol ac maent i gyd yn gefnogol, yn frwdfrydig ac yn ofalgar. Gyda’u profiad a’u hagwedd gadarnhaol tuag at y rhaglen, maent yn cyflwyno darlithoedd ardderchog sy’n rhoi gwybodaeth berthnasol i ni ar gyfer ein haseiniadau a’n harfer yn y dyfodol.  Mae’r rhaglen wedi fy rhoi ar ben y ffordd i ddatblygu fel y person yr hoffwn fod, ac i ddod yn fwy hyderus. Mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu pwy ydw i ac i fynd ymlaen â’m haddysg mewn gyrfa llawn potensial y mae gennyf wir angerdd amdani. Oherwydd hyn, penderfynais astudio am radd Meistr Integredig gyda’r rhaglen. Ymhellach mae cyfleoedd hefyd i ymgymryd â chyrsiau ychwanegol â thystysgrif, megis Cymorth Cyntaf, Gwobr John Muir, Diogelu ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.


Chloe Thomas- BA Early Years Education