Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104 o Bwyntiau UCAS

Cysyniadau datblygu meddalwedd a dylunio meddalwedd yw’r themâu a bwysleisir ar y rhaglen hon. Wedi graddio, byddwch yn fedrus ac yn wybodus yn agweddau technegol datblygu meddalwedd. Bydd swyddi’n debygol o fod o fewn sefydliadau meddalwedd arbenigol, neu o fewn sefydliadau sy’n rhoi o’u hadnoddau i ddatblygu systemau meddalwedd technegol iawn, gan weithio fel aelod o dîm, yn synio, dylunio, datblygu a gweithredu systemau meddalwedd cymhleth.

Nod y rhaglen yw meithrin dealltwriaeth o agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â datblygu meddalwedd, y mae rhai ohonynt ar reng flaen y ddisgyblaeth.

Byddwch yn dysgu i ddod o hyd i’r technolegau, technegau ac offer cywir i’w defnyddio, a’u cymhwyso. Cewch eich annog i adnabod problemau neu dasgau a chymhwyso egwyddorion peirianneg meddalwedd wrth ddylunio cymwysiadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r angen am ansawdd gyda dogfennaeth briodol sy’n dangos gallu i ddefnyddio tystiolaeth ategol.

Yn ystod eich astudiaethau cewch y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddadansoddi technolegau datblygu meddalwedd a dysgu am y technegau a ddefnyddir i ddatrys problemau, neu wrth ddatblygu cymwysiadau, i fodloni gofynion y byd go-iawn. Hefyd, caiff eich sgiliau cyflogaeth trosglwyddadwy eu meithrin.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
145S
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
BCS The Chartered Institute for IT Logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’n rhoi ichi’r holl sgiliau sydd eu hangen i fynd i weithio yn y diwydiant peirianneg meddalwedd.
02
Ewch ar y llwybr carlam i statws Peiriannydd Siartredig (CEng) trwy gwblhau ein cwrs sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS).
03
Dysgwch sgiliau rhaglennu sy’n berthnasol i’r diwydiant peirianneg meddalwedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal datrysiadau meddalwedd ansawdd uchel. Bydd y myfyriwr yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar raglennydd proffesiynol i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth. Bydd yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu datrysiadau meddalwedd yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd Uwch

(20 credydau)

Egwyddorion a Phrofi Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Gwasanaethau Gwe yn y Cwmwl

(20 credydau)

Rhaglennu a Natur Gydamserol Socedi

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:

    • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
    • Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Lleoliad

    Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel: Rhaglennydd Ffiseg, Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd, Profwr Meddalwedd a Rheolwr Adeiladu TG.

Mwy o gyrsiau Computing

Chwiliwch am gyrsiau