Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)

Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r sector TG yn cynnig gyrfaoedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau cyfrifiadura yn cynnwys peirianneg meddalwedd, rheolaeth data, AI, rhwydweithio, seiberddiogelwch, profiad defnyddwyr a thechnolegau gwe. Drwy astudio’r rhaglen hon, byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol cysylltiedig â chyfrifiadura cymhwysol. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfleoedd i astudio technolegau a ddefnyddir ar draws y sector cyfrifiadura.

Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin a thrafod gwybodaeth, yn cynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Yn ogystal, yn un o raddedigion y rhaglen hon, byddwch wedi dysgu sgiliau i’ch galluogi i arwain timau a rheoli prosiectau.

Rydym yn cydnabod ei fod yn bosibl nad yw myfyrwyr eto wedi adnabod maes o ddiddordeb ac yn hytrach eu bod yn dymuno astudio amrywiaeth o bynciau cyn ffocysu ar thema ddewisol. Lluniwyd y rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol ar gampws Abertawe i fodloni’r angen hwn ac mae’r rhaglen yn cynnig detholiad helaeth o bynciau dewisol wedi’u tanategu gan sylfaen o fodylau craidd, bydd tiwtoriaid profiadol yn eich tywys wrth ddewis modylau sy’n gysylltiedig â’ch dewis arbenigedd.

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i’n holl raglenni gradd yn Abertawe drwy ein Blwyddyn Sylfaen yn rhan o’n hymrwymiad i “Ehangu Mynediad”. Llwybr mynediad yw hwn at gyfer myfyrwyr sy’n ceisio newid gyrfa neu’r rheiny sydd angen diweddaru eu sgiliau er mwyn bodloni’r gofynion mynediad.

BCS- the Chartered Institute for IT Logo  Cisco Networking Academy Logo EC Council Academia Partner Logo

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Cyfrifiadura

BSc | Rhaglen Radd 3 Blynedd (Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 588S 
Gwnewch gais drwy UCAS

HND | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 858T 
Gwnewch gais drwy UCAS

HNC | Rhaglen 1 Flywddyn (Lefel 4)
Cod UCAS: 456H
Gwnewch gais drwy UCAS

BSc | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen (Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: 3ALF
Gwnewch gais drwy UCAS


CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
E-bost Cyswllt: computing@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Tim Bashford


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i ddylunio i gynhyrchu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn niwydiant systemau cyfrifiadura a gwybodaeth y DU sy’n tyfu’n gyflym.
  2. Mae’r rhaglen yn cynnwys cysyniadau, egwyddorion a thechnegau traddodiadol datblygu meddalwedd, cronfeydd data a systemau gwybodaeth ond yn cymhwyso’r rhain o fewn cyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
  3. Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.
  4. Dyluniwyd y cwrs hwn i roi i’r myfyrwyr yr hyblygrwydd mwyaf wrth ddewis modylau sy’n bodloni eu goliau personol eu hunain. Mae’r ymagwedd hon yn rhoi i fyfyrwyr gwell gyfle i ddatblygu’r sgiliau sydd wedi’u halinio fwyaf i’w profiad ac anghenion diwydiannol eu hunain.
  5. Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth ayb.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae twf enfawr y Rhyngrwyd, ymlediad rhwydweithiau cyfrifiadurol, dyfeisiau rhaglenadwy a systemau gwybodaeth yn eu gwahanol ffurfiau, a’r gyfradd newid gyflym yn sicrhau galw parhaus am weithwyr sydd â sgiliau a chymwysterau cysylltiedig â chyfrifiadura cyfoes. 

Mae’r Rhyngrwyd, yn arbennig, yn chwildro technolegol mawr sy’n cael ac a fydd yn parhau i gael effaith enfawr ar gymdeithas. Mae’r newid radical a thrawsffurfiol a welwyd ym maes cyfrifiadura a dibyniaeth sefydliadau ar dechnoleg er mantais cystadleuol yn rhesymau cymhellol dros ymgorffori syniadau newydd, paradigmau a thechnolegau i mewn i raglenni cysylltiedig â chyfrifiadura.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau cyffredin â nifer o gyrsiau o fewn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach ac yn caniatáu hyblygrwydd wrth ddewis modylau sy’n bodloni goliau personol myfyrwyr eu hunain. Mae’r ymagwedd hon yn rhoi i fyfyrwyr gwell gyfle i ddatblygu’r sgiliau sydd wedi’u halinio fwyaf i’w profiad ac anghenion diwydiannol eu hunain. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n darparu ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Bydd yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu datrysiadau meddalwedd yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.

Pynciau Modylau

Modylau Blwyddyn 1 - MComp/BSc/HND/HNC

  • Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd (20 credyd)
  • Pensaernïaeth a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol (20 credyd)
  • Peirianneg Gwybodaeth (20 credyd)
  • Technoleg a Diogelwch Rhyngrwyd (20 credyd)
  • Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
  • Modwl dewisol (20 credyd)

Modylau Blwyddyn 2 - MComp/BSc/HND

  • Prosiect Grŵp Menter ac Arloesi (20 credyd) (Nodyn: Myfyrwyr llawn amser yn unig)
  • Prosiect seiliedig ar Waith Llywodraethu, Deddfwriaeth a Moeseg (20 credyd) (Nodyn: Myfyrwyr rhan amser yn unig)
  • Rheoli Prosiect a Dulliau Ymchwil (20 credyd)
  • Modylau dewisol (80 credyd)

Modylau Blwyddyn 3 - MComp/BSc

  • Prosiect Mawr (40 credyd)
  • Modylau dewisol (80 credyd)

Meistr Integredig 4 Blynedd - MComp

Mae MComp Cyfrifiadura yn rhaglen israddedig pedair blynedd a ariennir yn llawn, sy’n arwain at gymhwyster lefel Meistr.  Byddai disgwyl i chi ymuno â chyflogwyr ar lwybr carlam at reolaeth drwy ddysgu sgiliau arbenigol mewn:

  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
  • Prosiect Grŵp (60 credyd)
  • Modylau dewisol (40 credyd)
Asesiad

Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth.  Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau.  Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Cysylltiedig

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

MComp Cyfrifiadura – 4 Blynedd Llawn Amser – COD UCAS: 123R

112 pwynt tariff UCAS (300 cynt) gan gynnwys:

  • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
  • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas, Pas; neu
  • Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod; neu
  • NVQ Lefel 3 - Pas

Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Cyfrifiadura, TGCh, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu debyg.
Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

BSc Cyfrifiadura – 3 Blynedd Llawn Amser – COD UCAS: 588S

104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:

  • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
  • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
  • Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
  • NVQ Lefel 3 - Pas

Sylwer y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

HND Cyfrifiadura – 2 flynedd Llawn Amser – COD UCAS: 858T

48 pwynt tariff UCAS (120 cynt)

HNC Cyfrifiadura – COD UCAS 456H

40 pwynt tariff UCAS (100 cynt)

Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau. 

Mynediad Blwyddyn Sylfaen:

Blwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg

Cyfleoedd Gyrfa

Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth ayb.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

Dyfyniadau Myfyrwyr

Paul Roderick MSc Cyfrifiadura Cymhwysol

Gwnes fwynhau popeth am y cwrs a byddaf yn gweld eisiau John Rees yn fwy na dim.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor

Llety

Ewch i adran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.