Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BSc)
Nod y rhaglen Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yw eich troi’n fyfyriwr graddedig â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio ym maes chwaraeon, iechyd a ffitrwydd a fydd yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o bwysigrwydd cynnal ffordd o fyw iach.
Mae’r pandemig Covid diweddar wedi amlygu ymhellach bwysigrwydd iechyd personol a llesiant gan gynyddu’r angen am arbenigwyr ym meysydd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau datrys problemau, dadansoddi, ac ymchwilio’n annibynnol ac yn dysgu i ddod yn ddysgwr gydol oes annibynnol ac yn ymarferydd adfyfyriol.
Rhoddir pwyslais ar berthnasedd galwedigaethol, ac fe’ch anogir yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol wrth i chi astudio. Yn ogystal â’r cyfleoedd i gasglu dyfarniadau galwedigaethol allanol, fel y cymwysterau hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol a chymorth cyntaf, mae nifer o fodylau’n caniatáu i chi gael profiad o weithio gyda chleientiaid mewn lleoliad proffesiynol. Mae dyfarniadau galwedigaethol wedi’u hymgorffori yn y rhaglen hon, fel hyfforddwr campfa a hyfforddwr personol, gan wella’ch cyflogadwyedd.
Hefyd, bydd cyfleoedd i chi gael profiad o weithgareddau asesu iechyd a rhagnodi ymarfer corff sy’n berthnasol i broblemau yn y byd go iawn. Cewch eich cynnwys mewn gweithgareddau dysgu i reoli ar eich cyfer chi eich hunain, a gweithgareddau cydlynu. Un o gryfderau’r rhaglen yw’r cyfle i weithio gyda chleientiaid a datblygu sgiliau galwedigaethol a phroffesiynol ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol.
Ar ôl blwyddyn gyntaf gyffredin, gall myfyrwyr ddewis parhau ar y llwybr generig, neu ddewis un o’r llwybrau a ganlyn: Maetheg ar gyfer Chwaraeon, Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol, Hyfforddiant Personol neu Ffitrwydd Awyr Agored.
Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dylai ymgeiswyr llawn amser sy'n dymuno dechrau ym mis Medi wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Cod UCAS: 125L
Gwnewch gais drwy UCAS
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheiny sydd â diddordeb mewn chwaraeon, iechyd a gweithgarwch corfforol sy’n dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o swyddogaethau’r corff dynol.
DipAU Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Cod UCAS: SCS5
Gwnewch gais drwy UCAS
TystAU Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Cod UCAS: SES6
Gwnewch gais drwy UCAS
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg Chwaraeon)
Cod UCAS: 129L
Gwnewch gais drwy UCAS
DipAU Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg Chwaraeon)
Cod UCAS: SEH5
Gwnewch gais drwy UCAS
TystAU Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg Chwaraeon)
Cod UCAS: SEH6
Gwnewch gais drwy UCAS
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Yn y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr.
- Cyfle i fod ar y Gofrestr Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff (REPs).
- Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff.
- Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
- Ystod o fodylau dewisol ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc.
- Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Blwyddyn Un:
Mae blwyddyn gyntaf yr astudiaethau’n generig ar draws y portffolio o lwybrau gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy'n rhoi i fyfyrwyr sylfaen gre ym mhrif egwyddorion y pwnc, yn ogystal â'r amser i benderfynu p'un ai ydynt yn dymuno arbenigo mewn un llwybr penodol.
Tri phwnc craidd ffisioleg, seicoleg a biomecaneg yw'r sylfaeni, a chyflwynir y rhain drwy gyfuniad o ddarlithoedd damcaniaethol wedi'u dilyn gan gyfle i gymhwyso'r wybodaeth honno'n ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon llawn offer.
Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddefnyddio offer fel dadansoddwyr nwy, giatiau golau, platfformau grym, meddalwedd dadansoddi symudiad a dadansoddwyr cyfansoddiad y corff.
Ochr yn ochr â’r pynciau craidd, rhydd y flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr y cyfle i astudio egwyddorion hyfforddi ac ymarfer corff, ac i gael dyfarniadau galwedigaethol fel Hyfforddwyr Campfa a Hyfforddwyr Personol ochr yn ochr â'u hastudiaethau, pe baent yn dymuno hynny.
Hefyd, caiff hanfodion maetheg ar gyfer chwaraeon eu datblygu, yn ogystal â dealltwriaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd a lles.
Blwyddyn Dau:
Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth o bynciau sylfaen ffisioleg, biomecaneg a seicoleg, ochr yn ochr â datblygu eu gallu i ddeall a chynnal ymchwil.
Mae dau fodwl dewisol yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis a dethol o blith ystod eang o fodylau ar draws yr ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored. Gallai’r modylau hyn fod o un o ystod o bynciau fel: maeth; atgyfeirio ymarfer corff; hyfforddi; ffyrdd o fyw awyr agored; a hybu iechyd.
Blwyddyn Tri:
Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dyfnhau eu gwybodaeth yn eu maes arbenigol drwy gynnal eu hastudiaeth ymchwil arbrofol annibynnol eu hunain, ochr yn ochr ag adolygiad manwl o’r llenyddiaeth.
Gan adeiladu ar y ddwy flynedd gyntaf, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn meysydd penodol fel ffisioleg eithafol, uwch ddulliau hyfforddi a seicoleg chwaraeon cymhwysol, gan hefyd gael opsiynau i ddewis modylau ar draws yr ysgol.
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Blwyddyn 1 (Tyst AU, Dip AU a BSc)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ffisioleg a Ffitrwydd Dynol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Cinesioleg (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Hyfforddiant Personol (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn 2 (Dip AU a BSc)
- Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anaf (20 credyd; gorfodol)
- Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ffisioleg Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn 3 (BSc)
- Ffisioleg Ymarfer Corff Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Addysgeg Hyfforddi (20 credyd; dewisol)
- Arfer seiliedig ar Dystiolaeth mewn Gwyddor Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Ymarfer Corff a Phoblogaethau Penodol (20 credyd; dewisol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Arfer Proffesiynol mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol).
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg Chwaraeon)
Blwyddyn 1 (Tyst AU, Dip AU a BSc)
- Ffisioleg a Ffitrwydd Dynol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Maeth er mwyn Iechyd (20 credyd; gorfodol)
- Hyfforddiant Personol (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddor Maeth (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn 2 (Dip AU a BSc)
- Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anaf (20 credyd; dewisol)
- Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dadansoddiad Dietegol (20 credyd; gorfodol)
- Ffisioleg Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; dewisol).
Blwyddyn 3 (BSc)
- Ffisioleg Ymarfer Corff Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Cynllunio Dietegol ar gyfer Athletwyr (20 credyd; gorfodol)
- Arfer seiliedig ar Dystiolaeth mewn Gwyddor Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Arfer Proffesiynol mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol).
Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Caerfyrddin Iach, Cwrdd â’r Tîm a Llwyddiant Graddedigion
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dysgwch ragor am ein portffolio BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wrth ein darlithwyr Geraint Forster a David Gardner
Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?
Gwybodaeth allweddol
- Alison Connaughton
- Chris Cashin
- David Gardner
- Dylan Blain
- Geraint Forster
Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS (Tariff 2017) gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.
Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:
- Ymchwil academaidd
- Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
- Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
- Hyfforddwr personol
- Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
- Hyfforddwr cryfder a chyflyru
- Addysgu
- Chwaraeon ieuenctid
- Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.
- Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.
- £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
- Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
Menna Jones, Myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
“Nid yn unig roedd dychwelyd i’r Drindod i astudio ar ôl gadael gyrfa addysgu 15 mlynedd y penderfyniad mwyaf brawychus rwyf wedi’i wneud, roedd hefyd yr un mwyaf boddhaus. Mae ymgymryd â’r BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn rhan amser wedi fy ngalluogi i jyglo astudio a gweithio ar yr un pryd â bod yn fam i’m dau fachgen bach.
“Tiwtoriaid y cwrs â’i wnaeth yn arbennig i mi. Nid yn unig y maent yn hynod o wybodus, ond maent hefyd yn hawdd iawn siarad â nhw. Maent yn weithwyr proffesiynol hynod o effeithiol sy’n cyflwyno’r cydbwysedd iawn o ddamcaniaeth ynghyd â phrofiad ymarferol yn ystod darlithoedd.
“Dros y blynyddoedd, rwyf wedi datblygu fy sgiliau profi yn y labordy drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer ac wedi cael cymwysterau allanol mewn Hyfforddiant Personol. Mae hyn wedi fy ngalluogi i weithio gyda chleientiaid cyn i mi raddio.
“Wedi dewis y llwybr ‘Ffitrwydd Awyr Agored’, cawsom ein difetha gan y lleoliadau anhygoel ar gyfer sesiynau ymarferol: Fforest Brechfa, Llwybr Arfordir Sir Benfro, Bannau Brycheiniog. Nid yn unig y mae’r cwrs wedi dysgu cymaint i mi’n academaidd, ond mae e hefyd wedi rhoi cyfleoedd a phrofiadau anhygoel i mi y byddaf yn eu trysori... seiclo trwy gefn gwlad Ffrainc, rhedeg ar hyd arfordir Sbaen, deffro i weld yr haul yn codi dros y Preseli, heicio trwy eira ar Ben-y-Fan.
“Rwy’n mynd i mewn i’m 5ed blwyddyn, sef y flwyddyn olaf, y flwyddyn nesaf ac er fy mod wedi dewis yr opsiwn rhan amser, o reidrwydd yn hytrach na dewis, mae’r dywediad yn wir – mae amser yn hedfan pan fyddwch yn cael hwyl.”
Jonathon Nicholson, Myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Fy enw yw Jonathon, ac rwy’n fyfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn fy nhrydedd flwyddyn (Ffitrwydd Awyr Agored) ar gampws Caerfyrddin. Dewisais y cwrs am ei gymysgedd unigryw o’r awyr agored a sut i ddefnyddio agylcheddau fel ffordd i hyfforddi, gan ddysgu am ffisioleg a seicoleg gwahanol orchwyl awyr agored.
“Mae’r campws mewn lleoliad perffaith i unrhyw un sy’n mwynhau’r awyr agored; y mae wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad ac mae fforestydd, traethau, llwybrautroed di-rif o fewn taith fer mewn car, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r cwrs wedi rhoi i mi’r cyfle i archwilio a gwella fy sgiliau mewn amrywiaeth o leoliadau bendigedig.
“Mae’r ymagwedd ymarferol at y graddau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yma yn YDDS wedi fy ngalluogi i gymryd rhan mewn profion ffisiolegol, ymarfer hyfforddi technegau ymarfer cryfhau, dysgu am y rhinweddau sydd eu hangen i fod yn hyfforddwr da, a threulio amser o gwmpas myfyrwyr a staff eraill o’r un meddylfryd. Mae’r cyfleusterau yma wedi fy ngalluogi i gydbwyso fy ymarfer dy hun gyda gwaith Prifysgol, ac wedi fy ngalluogi i hyfforddi eraill ar yr un pryd, yn ogystal â rhoi i mi’r cyfle i weithio ar bwnc traethawd hir sydd o ddiddordeb i mi.
“Fy mhrif ddiddordeb yw syrffio, a’m nod o ran gyrfa yw gweithio fel hyfforddwr cryfder a chyflyru i syrffwyr proffesiynol. I helpu i weithio tuag at y od hwn, ers bod ar y cwrsrwyf wedi cael y cyfle i gael cymwysterau ffitrwydd galwedigaethol, a astudiwyd am semester ym Mhrifysgol Fullerton yng Nghalifforni, a chael interniaeth fel hyfforddwr cryfder a chyflyru i Nofio Cymru.
“Ar ôl dwy fynedd a hanner yma, rwy’n teimlo’n fwy cyfar ac yn fwy hyderus, yn barod i weithio gyda chleientiaid a rolau na fuaswn wedi gallu eu gwneud cynt. Rwy’n hapus iawn fy mod wedi cael y cyfle i ddod i astudio yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Ewch i'n tudalennau Ysgoloriaethau a Bwrsarïau am ragor o wybodaeth. Mae myfyrwyr sy'n dewis astudio rhannau o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn gymwys am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ewch i dudalen Cangen Y Drindod Dewi Sant am ragor o wybodaeth.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio dramor yn y DU, ym California State University, Fullerton, neu Brifysgol Greensboro, Gogledd Carolina
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Darperir yr holl offer sydd ei angen i astudio’r radd hon gan y Brifysgol o fewn y Clinigau Anafiadau Chwaraeon, Labordy Perfformiad Dynol, labordy cyfansoddiad y corff, pwll nofio, a chyfleusterau ffitrwydd a hyfforddi.
Cynhelir nifer o ddiwrnodau agored drwy gydol y flwyddyn. Anogir darpar fyfyrwyr i ddod i drafod y cwrs gyda staff academaidd. Rhestrir dyddiadau’r diwrnodau agored a diwrnodau blasu ar wefan y Brifysgol / Ysgolion.