Skip page header and navigation

Peirianneg Sifil (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn Amser
96 o Bwyntiau UCAS

Caiff y cwrs gradd Peirianneg Sifil ei adeiladu o gwmpas pum prif faes: defnyddiau, strwythurau, geotechneg, arolygu a rheoli adeiladu. Caiff yr holl feysydd hyn eu nodi’n bynciau craidd sydd eu hangen yn y cwricwlwm peirianneg sifil, yn ôl y Cydfwrdd Cymedrolwyr ar gyfer rhaglenni gradd achrededig, os ydych yn bwriadu dilyn llwybr tuag at ddod yn beiriannydd siartredig.

Mae gan staff amrywiaeth eang o gysylltiadau â’r diwydiant adeiladu a ddatblygwyd fel ymarferwyr, ac fel aelodau o gyrff proffesiynol, yn ogystal â thrwy prosiectau cydweithredol diwydiannol a phrosiectau ymchwil mewn gwahanol feysydd peirianneg sifil.

Datblygir cysylltiadau agos gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) a’r sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) Mae hyn yn darparu ystod eang o wybodaeth a phrofiad i gefnogi’ch cwrs, a rhagolygon cyflogadwyedd da fel peirianwyr sifil gyda’r cyfle i arallgyfeirio i feysydd cysylltiedig fel syrfewyr adeiladu a safleoedd.

Caiff pynciau fel peirianneg seilwaith trafnidiaeth neu beirianneg amgylcheddol eu hystyried mewn modylau penodol. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o ddysgu seiliedig ar brosiectau gan ddefnyddio astudiaethau achos a senarios go iawn, ymweliadau â safleoedd, ymarferion arolygu ymarferol a phrofion labordy.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CEN1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglen cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
02
Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE a CITB.
03
Mae’n Ganolfan Ragoriaeth ac arloesi i Gymru a’r De-orllewin (CWIC).
04
Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
05
Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
06
Prosiectau adeiladu cynaliadwy gyda Down to Earth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Fel y dywed Caroline Gumble (Prif Swyddog Gweithredol y CIOB yn 2020) “Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da” ac mae’n mynd ymlaen i ddweud bod adeiladu yn ddiwydiant hynod gymhleth ond hynod gyffrous ac arloesol.

Mae’r rhai sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu yn cyfrif am 6% o allbwn economaidd y DU, ond os ychwanegwch chi hefyd y gwasanaethau megis syrfewyr meintiau, penseiri a pheirianwyr, yn ogystal â hurio planhigion a chyflenwyr adeiladu, mae’r allbwn bron yn ddwywaith cymaint â hynny.  Mae hon yn ganran fawr o allbwn economaidd y DU.  Mae’r diwydiant adeiladu yn darparu swyddi ar gyfer tua 2.3 miliwn o bobl, sef dros 7% o gyfanswm y DU. Mae swyddi adeiladu hefyd yn ennill 5% yn fwy na diwydiannau eraill ar gyfartaledd, a chaiff graddedigion yn y maes hwn gyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil. 

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Tirfesur Digidol

(20 credydau)

Gweithio gyda Thechnolegau Digidol a Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM)

(20 credydau)

Mathemateg a Strwythurau Peirianneg

(20 credydau)

Sgiliau Proffesiynol ac Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu

(20 credydau)

Cynllunio Prosiect ar gyfer Adeiladu

(20 credydau)

Technoleg Geodechnegol a Sylfaen

(20 credydau)

Peirianneg Deunyddiau

(20 credydau)

Technoleg Peirianneg Sifil

(20 credydau)

Prosiect Seiliedig ar Waith

(20 credydau)

Rheoli Adeiladu

(20 credydau)

Technoleg Adeiladu a Pheirianneg Sifil Uwch

(20 credydau)

Dylunio Strwythurol

(20 credydau)

Prosiect Unigol

(20 credydau)

Prosiect Grŵp Integredig

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Peirianneg Sifil (BSc)
    Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol)

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

    Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag  amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

    Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd  i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’u cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb. 

    Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru’n bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

    Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd technegol a hyfforddiant ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

    Mae’r llwybr Peirianneg Sifil a Rheoli’r Amgylchedd wedi’i drefnu er mwyn darparu graddedigion ag ystod o sgiliau a wnaiff eu galluogi i gael swyddi o fewn sefydliadau cleientiaid a sefydliadau contractio. Mae natur amrywiol y llwybr sy’n ffocysu ar faterion amgylcheddol a materion peirianneg sifil yn cynnig i fyfyrwyr amrywiaeth o yrfaoedd posib yn y meysydd hyn.

    Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Mwy o gyrsiau Civil Engineering and Architecture

Chwiliwch am gyrsiau