Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Rheolaeth Iechyd a Gofal (BSc, Dip AU, Tyst AU)

Rheolaeth Iechyd a Gofal (BSc, DipAU, CertAU)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Prif nod y rhaglen hon yw eich galluogi i ymuno â’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymdrechu i hyfforddi a datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu bodloni amcanion strategol y llywodraeth a bod yn barod ar gyfer gyrfa gydol oes yn y sector iechyd a gofal.

Mae’r ddisgyblaeth Iechyd a Gofal Digidol wedi ymateb i newid sylweddol o ran cyd-destun a strategaeth yn y maes trwy ddiweddaru rhaglenni i ymgorffori eich opsiynau yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol sy’n esblygu’n gyflym.

Cewch gymhwyster addysg uwch sy’n gysylltiedig â rheolaeth o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, trwy archwilio’n gynyddol bynciau sy’n berthnasol i yrfaoedd ym mhrif swyddogaethau rheolaeth.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle ar gyfer datblygiad personol ac academaidd, gan barchu ac adeiladu ar astudiaeth neu brofiad galwedigaethol perthnasol blaenorol. Ein nod yw cyfoethogi eich gallu i arfer grymoedd ymchwiliol, adfyfyriol, dadansoddol a rhesymu mewn cyd-destun ac i roi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau i ymestyn eich astudiaethau a’ch hyfforddiant ar ôl i chi raddio.

Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Cynigir ein holl raglenni ar ffurf AMSER LLAWN a RHAN-AMSER.

Rydym hefyd yn cynnig dau opsiwn dros DDWY neu DAIR BLYNEDD – mae hyn yn dibynnu ar lefel bresennol eich cymwysterau a’ch profiad cyflogaeth (gweler y meini prawf mynediad isod).

Sylwer: bydd cwblhau rhaglen DWY FLYNEDD yn llwyddiannus yn arwain at flwyddyn astudio ‘ar ben’ ddiamod er mwyn i chi sicrhau eich BSc.

Rheolaeth Iechyd a Gofal (BSc) (3 years)
Cod UCAS: HCM1
Gwnewch gais drwy UCAS

Rheolaeth Iechyd a Gofal (DipAU) (2 years)
Cod UCAS: HCM5
Gwnewch gais drwy UCAS

Rheolaeth Iechyd a Gofal (CertAU) (1 year)
Cod UCAS: HCM6
Gwnewch gais drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

5 Rheswm dros astudio Rheolaeth Iechyd

  1. Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd
  2. Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio
  3. Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
  4. Mae gennym bartneriaethau gwaith gyda sefydliadau sy’n gallu cynnig rolau gwaith â thâl a gwirfoddol
  5. Rydym yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r profiad sydd gennych yn barod wrth wneud eich cais

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs yn darparu trosolwg o’r sector iechyd a gofal cyfunol ochr yn ochr â modylau rheoli iechyd arbenigol i uwchsgilio a gwneud cynnydd yn y sector iechyd a gofal.

Mae myfyrwyr blaenorol wedi defnyddio’r radd hon i gael swyddi uwch yn eu rolau presennol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Hefyd, mae myfyrwyr blaenorol wedi defnyddio’r cwrs hwn yn blatfform ar gyfer astudio pellach.

Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau a phobl allweddol presennol  o fewn y sector iechyd. Rydym hefyd yn darparu lefel uchel o gymorth academaidd ar draws y brifysgol gyfan i helpu cryfhau eich sgiliau academaidd. 

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, DipAU a BSc)

  • Cwnsela, Cyfathrebu a’r Berthynas Therapiwtig (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol (20 credyd; gorfodol)
  • Seicoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol).

 Blwyddyn Dau – Lefel 5 (DipAU a BSc)

  • Arwain a Rheoli Timau Iechyd a Gofal (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwil Annibynnol (20 credyd; gorfodol)
  • Economeg Iechyd (20 credyd; gorfodol)
  • Egwyddorion Arfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol).
  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion .

 Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)

  • Hwyluso Newid a Rheoli Canlyniadau o Ansawdd mewn Ecosystemau Iechyd (20 credyd; gorfodol)
  • Hyfforddi, Mentora a Datblygiad Proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal (20 credyd; gorfodol)
  • Iechyd, Llesiant a Datblygu Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Trawsnewid Digidol yn y Proffesiynau Iechyd a Gofal (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Mae’r asesiadau; traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.  Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Staff
  • Dr Jodie Croxall
  • Kalee Thomas
  • Amanda Owens
  • Donna Morgan
  • Dr Ben Duxbury
  • Felicity Peacock
  • Corey Edwards
  • Joanna Fender
  • Neil Hapgood
Meini Prawf Mynediad

Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Costau Ychwanegol

Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth