Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104 o Bwyntiau UCAS

Tair prif thema’r rhaglen hon yw Llwybro a Switsio, Diogelwch a Gwaith Fforensig. Byddwch yn ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydwaith pan fyddwch yn graddio o’r rhaglen hon. Fel arfer, byddai disgwyl i chi allu gweithredu a gweinyddu seilwaith rhwydwaith ar gyfer sefydliad.

Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol gan gynnal trylwyredd academaidd. Mae hyn yn gwneud y rhaglen yn hollol wahanol i raddau cyfrifiadura traddodiadol.

Nod y rhaglen yw datblygu dealltwriaeth o agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â seilwaith a gwasanaethau rhwydwaith. Byddwch yn dysgu i ddewis y technolegau, technegau ac offer cywir i’w defnyddio, a’u cymhwyso’n briodol. Byddwch hefyd yn adnabod problemau, llunio datrysiadau, a dadansoddi technolegau rhwydweithio a chysyniadau a gymhwysir wrth ddatrys problemau wedi’u diffinio’n fras neu wrth ddatblygu datrysiadau rhwydwaith i fodloni gofynion yn y byd go iawn.

Mae’r rhaglen yn cynnwys y deunydd sydd ei angen ar gyfer cymhwyster Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA).

Gall myfyrwyr weithio tuag at y cymhwyster hwn a gydnabyddir ar draws y byd, ochr yn ochr â’u gradd BSc.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
233S
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i addysgu gan staff sydd ag ardystiadau academaidd a diwydiannol perthnasol.
02
Ceir profiad ymarferol gyda llwybryddion, switsys, waliau tân a meddalwedd Cisco a ddefnyddir o fewn y diwydiant rhwydweithio a diogelwch.
03
Wedi’i gyfuno ag ardystiad Llwybro a Switsio CCNA y mae galw mawr amdano.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nod y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth a sgiliau trylwyr ym maes arbenigol rhwydweithio. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’u harbenigedd i ddylunio, gweithredu a datrys problemau seilwaith rhwydwaith cymhleth. Mae’r Ysgol yn Academi Cisco, yn Ganolfan Cymorth Academi a Chanolfan Hyfforddi Hyfforddwyr. Mae’r Ysgol wedi bod yn cyflwyno rhaglen Academi Rhwydweithio Cisco ers 1999.

Caiff y rhaglen israddedig ei chyfuno â chwricwlwm Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA). Cisco yw prif weithgynhyrchwr dyfeisiau rhwydwaith y byd ac mae’r CCNA yn gymhwyster proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant rhwydweithio.

Gorfodol 

Dadansoddi a Delweddu Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Gorfodol 

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Rhwydweithio Uwch

(20 credydau)

Rhaglenadwyedd Rhwydweithiau

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Fforenseg Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Switsio, Llwybro a Di-wifr

(20 credydau)

Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomatiaeth

(20 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Ddiwydiant

(20 credydau)

Seiberddiogelwch Uwch

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:

    • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
    • Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Sylwer y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg.

    Mae TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch yn ddymunol.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. 

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol seilweithiau rhwydwaith. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn pwysleisio pedair thema allweddol o fewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol: llwybro a switsio, technolegau rhwydwaith sy’n dod i’r amlwg, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.

    Bydd graddedigion yn gallu ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio.

    Rhagwelir bod graddedigion ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol (RhC) yn gallu dod o hyd i waith mewn nifer o wahanol feysydd o RhC, gan gynnwys llwybro a switsio, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.

    Disgwylir i raddedigion chwilio am swyddi fel:

    • Gweinyddwyr Rhwydwaith
    • Cymdeithion Rhwydwaith
    • Peirianwyr Rhwydwaith
    • Gweinyddwr System

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau