Skip page header and navigation

Seicoleg (Llawn asmer) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd Seicoleg wedi’i llunio iddarparu dealltwriaeth feirniadol o sut y gall seicoleg hybu dealltwriaeth o faterion yn yr 21ain ganrif, ochr yn ochr â datblygu sgiliau trosglwyddadwy cryf sy’n hanfodol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno cymryd eu gwybodaeth am seicoleg i mewn i’r gwaith neu ddysgu pellach. Mae’r ffocws ar ddatblygu sgiliau ymarferol ynghyd â datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol yn ei wneud yn wahanol i lawer o gyrsiau israddedig sy’n gysylltiedig â seicoleg.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r holl barthau gwybodaeth a ddisgwylir gan gwrs a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain: Seicoleg Gymdeithasol, Ddatblygiadol, Fiolegol a Gwybyddol; Gwahaniaethau Unigol; Dulliau Ymchwil; a Materion Cysyniadol a Hanesyddol. Fodd bynnag, rydym ni’n mynd yn bellach na hynny, gyda modylau a luniwyd i ddarparu sgiliau trosglwyddadwy byd go iawn cryf ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol.

Mae ffocws y rhaglen ar ddatblygu myfyrwyr yn wyddonwyr seicolegol sydd â llythrennedd gwyddonol yn unigryw. Yn aml nid yw ein dull ni o addysgu a dysgu agos yn bosibl mewn sefydliadau mwy. Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn dewis o blith ystod o fodylau i deilwra eich gradd i’ch maes diddordeb.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
3UC3
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
The British Psychological Society

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’n datblygu ystod o sgiliau datrys problemau ac ymarferol trwy weithio ochr yn ochr â darlithwyr seicoleg yn ein labordai Seicoleg pwrpasol.
02
Mae’n ffocysu ar gymhwyso gwybodaeth a meddwl beirniadol seicolegol i ystod o faterion byd go iawn sy’n berthnasol i ystod o yrfaoedd yn y dyfodol ac opsiynau ôl-raddedig.
03
Mae’n cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trwy gyfrwng y rhaglen anrhydedd sengl fe gewch wybodaeth gynhwysfawr a sgiliau i ddeall sut a pham mae pobl yn ymddwyn fel y gwnânt, a’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth honno mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd unigol a grŵp.

Byddwch yn archwilio’r cyswllt rhwng damcaniaeth, ymchwil ac arfer seicolegol, gyda ffocws ar lunio dealltwriaeth wyddonol o’r cysylltiadau rhwng y meddwl, yr ymennydd, ymddygiad a phrofiad, a sut y gallwn geisio dylanwadu ar y prosesau hyn i wella iechyd a llesiant unigolion, sefydliadau a’r gymdeithas.

Mae pwyslais cryf o fewn y rhaglen ar ddatblygu sgiliau ymchwil seicolegol a dealltwriaeth o foeseg ymchwil, gan arwain at brosiect ymchwil annibynnol yn y flwyddyn olaf.

Bydd y rhaglen yn archwilio materion megis:

  • Sut mae pobl yn cyfathrebu mewn cymdeithas a sut mae hyn yn newid yn wyneb technoleg a chyfryngau cymdeithasol?
  • Sut mae’r ymennydd dynol yn dylanwadu ar y ffyrdd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn?
  • Sut gallwn ni gymhwyso ein gwybodaeth o’r ffyrdd mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn er mwyn mynd i’r afael â phroblemau mewn cymdeithas?
  • Sut gallwn ni hyrwyddo llesiant corfforol a seicolegol ac annog unigolion i ymddwyn mewn ffordd fwy iach?
  • Beth ellir ei wneud i helpu trin salwch meddwl?

Yn ogystal, bydd y radd anrhydedd sengl hon mewn Seicoleg yn rhoi casgliad cryf o sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddol a sgiliau datrys problemau i fyfyrwyr, ynghyd â nifer o sgiliau trosglwyddadwy eraill y bernir bod galw amdanynt gan gyflogwyr a chyrsiau ôl-raddedig.

Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau TG a rhifedd cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu beirniadol cryf. Bydd natur yr asesiadau o fewn y radd anrhydedd sengl yn rhoi profiad i fyfyrwyr o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau megis cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig. Cefnogir datblygiad sgiliau gweithio fel tîm a dysgu annibynnol yn ofalus drwy gydol y radd.

Gorfodol  
 

Dulliau Ymchwil I

(20 credyd; craidd)

Archwilio Emosiwn a Chyfathrebu

(20 credyd; gorfodol)

Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg

(20 credyd)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credyd)

Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Seicoleg ar Waith

(20 credyd; gorfodol)

Gorfodol  

Dulliau Ymchwil II

(20 credyd; craidd)

Yr Ymennydd, Bioleg a Gwybyddiaeth

(20 credyd; gorfodol)

Ymchwil ar Waith

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Gymdeithasol a Diwylliannol

(20 credyd; gorfodol)

Seicoleg Datblygiad a Gwahaniaethau Unigol

(20 credyd)

Seicoleg Sefydliadol

(20 credyd; gorfodol)

Gorfodol  

Prosiect Empirig Seicoleg

(40 credydau)

Moeseg, Gwerthoedd, a’r Hunan Proffesiynol

(20 credyd; gorfodol)

Dewisol

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credyd)

Niwrowyddoniaeth Biolegol a Gwybyddol

(20 credyd; dewisol)

Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc

(20 credyd; dewisol)

Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau Gwybyddol Newydd

(20 credyd; dewisol)

Gwybodaeth a Hunaniaeth Gymdeithasol

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credyd; dewisol)

Gwybyddiaeth ar Waith

(20 credyd; dewisol)

Ecoseicoleg

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg, Iechyd a Salwch

(20 credyd; dewisol)

Seicopatholeg ac Iechyd Meddwl

(20 credyd; dewisol)

Seicoleg Addysg a Heneiddio

(20 credyd; dewisol)

Mae pob myfyriwr yn dewis tri o’r un ar ddeg modwl dewisol (Lefel 6).

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gwneir cynigion nodweddiadol o 112 pwynt tariff ar gyfer y rhaglen BSc Seicoleg. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at y rhai sy’n gadael ysgol â chymwysterau Safon Uwch a’r rhai sydd wedi gadael addysg ac sydd bellach yn dymuno dychwelyd.

    Nid oes disgwyliad y bydd ymgeiswyr wedi Safon Uwch Seicoleg ac, er y byddent fel arfer wedi astudio gwyddor (gymdeithasol) ar lefel Safon Uwch, croesewir myfyrwyr â chymysgedd o bynciau ar draws y sbectrwm Safon Uwch.

    Yma yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar annog myfyrwyr mynediad ansafonol sydd â sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd i ymuno â’n cwrs. Mae cymorth ychwanegol gyda sgiliau astudio ar gael ar gyfer unrhyw fyfyrwyr sydd angen hyfforddiant un i un. Mae natur yr asesiadau a’r adborth yn y flwyddyn gyntaf yn rhoi digon o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu hyder a’u harddull academaidd.

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu gwahanol i roi cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog dysgu annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau asesu arloesol megis posteri academaidd, asesiadau sgiliau yn y dosbarth, cyflwyniadau grŵp a chynigion ymchwil, yn ogystal ag asesiadau traddodiadol megis traethodau academaidd ac arholiadau.

    Bydd eich marciau terfynol ar gyfer eich dosbarthiad gradd yn cael eu cyfrifo o Flwyddyn Dau a Thri eich astudiaethau. Cyfrifir y dosbarthiad hwn ar sail 33% ar Lefel 5 a 67% ar Lefel 6.

  • Efallai bydd rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.

    Rhaid i fyfyrwyr gael 10 ddiwrnod o brofiad o leoliad ymarferol mewn lleoliad sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr brofi amrywiaeth o brosesau a systemau, ac efallai y bydd angen DBS (gweler uchod) ar gyfer hwn. Bydd y lleoliad hwn hefyd yn galw am gostau teithio a lluniaeth y bydd rhaid i’r myfyriwr eu talu.

    Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, neu dramor. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr sy’n graddio ag o leiaf anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) yn gymwys am Sail Raddedig Aelodaeth Siartredig (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain. Dynoda hyn fod myfyrwyr wedi bodloni’r gofynion cwricwlwm sy’n deillio o ddatganiad meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2007) ar gyfer Seicoleg, ac yn aml mae’n rhagofyniad pwysig ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno mynd yn eu blaenau i ddilyn astudiaeth neu hyfforddiant ôl-raddedig mewn seicoleg.

    Dros y pedair blynedd diwethaf mae nifer o’n myfyrwyr wedi mynd yn eu blaenau i raglenni hyfforddiant ôl-raddedig cam II y BPS (gyda rhaglenni Meistr mewn Seicoleg Glinigol/Annormal, Seicoleg Alwedigaethol a Seicoleg Iechyd yn llwybrau poblogaidd), yn ogystal â’n MSc ein hunain mewn Seicoleg Gymhwysol Iechyd a Chymdeithas a gynigir yn y Drindod Dewi Sant.

    Ar gyfer y rhai nad ydynt yn dymuno dilyn gyrfa mewn seicoleg, cydnabuwyd bod graddedigion y pwnc o werth i nifer o sefydliadau y tu hwnt i Seicoleg megis Adnoddau Dynol, Hysbysebu, y Cyfryngau, Ymchwil a Datblygu ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau