Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Technoleg Bensaernïol (BSc, HND, HNC)
Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi profiad addysgol cyfoethog gyda phwyslais arbennig ar eich paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn technoleg bensaernïol, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’n helpu hefyd i greu llwybr ar gyfer dilyniant eich gyrfa, trwy amrywiaeth o lwybrau achredu, a sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnig dewisiadau i chi ar gyfer y dyfodol.
Nod y rhaglen, trwy ysgogiad deallusol, cymhwyso ymarferol a datblygu sgiliau addas, yw sicrhau eich bod yn dod yn berson graddedig gwybodus a chymwys sydd wedi'i baratoi'n dda ar gyfer eich rôl ddewisol yn y dyfodol ym maes yr amgylchedd adeiledig.
Mae ymgynghori â grwpiau cyswllt diwydiannol wedi helpu i ddatblygu rhaglen sy'n cyd-fynd mor agos â phosibl â gofynion y diwydiant adeiladu, mewn cydweithrediad â chyrff proffesiynol a sefydliadau'r diwydiant.
Bydd y radd Technoleg Bensaernïol hon yn rhoi’r sgiliau i chi ddelio â’r heriau hyn mewn meysydd fel agweddau cyfreithiol, technegol, rheolaethol, economaidd, cymdeithasol a chynaliadwy ar brosiectau adeiladu. Mae modylau craidd yn galluogi myfyrwyr i ddysgu trwy gydweithio a datrys problemau’n greadigol. Bydd myfyrwyr yn datblygu arbenigedd mewn dylunio, technoleg adeiladu, Modelu Gwybodaeth Adeiladu, dylunio â chymorth cyfrifiadur, arferion arolygu a thrin data.
Technoleg Bensaernïol (BSc)
Cod UCAS: 38VW
Gwnewch gais trwy UCAS
Technoleg Bensaernïol (HND)
Cod UCAS: 3L1V
Gwnewch gais trwy UCAS
Technoleg Bensaernïol (HNC)
Cod UCAS: ATG9
Gwnewch gais trwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Cynigwn ddilyniant unigryw o raglenni cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd ac atebion ar gyfer problemau diwydiannol.
- Mae'r Ysgol wedi'i gwreiddio yn niwydiant adeiladu Cymru ac mae ganddi gysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol, e.e. RIBA, CIOB, RICS, CABE, CITB, ac mae’n edrych ar gael achrediad gan CIAT ar hyn o bryd.
- Canolfan ragoriaeth ac arloesi i Gymru a de-orllewin Prydain (CWIC).
- Prosiectau a chysylltiadau uniongyrchol â TRADA.
- Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.
- Ymarferwyr o’r diwydiant yn addysgu’n Ddarlithwyr â phrofiad helaeth.
- Cyfradd gyflogadwyedd uchel ymhlith ein myfyrwyr ar ddiwedd eu hastudiaethau.
- Addysgu ac ymchwil trawsddisgyblaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Rhaglenni MSc mewn Rheolaeth Eiddo a Chyfleusterau, Adeiladu Cynaliadwy a Chadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglenni hyn mewn Technoleg Bensaernïol yn ymwneud ag adeiladau a’u perfformiad.
Mae'r ddisgyblaeth yn canolbwyntio ar ddylunio a manylebau adeiladau; mae hefyd yn cynnwys rheoli prosiect, ffactorau cyfreithiol, diwylliannol, hanesyddol ac economaidd, yn ogystal â materion amgylcheddol.
Amcanion y dyfarniadau yw:
- eich galluogi i asesu amrywiaeth o broblemau technolegol yn gywir wrth ddarparu atebion pragmatig priodol
- darparu dealltwriaeth fanwl o'r agweddau technegol, economaidd, cyfreithiol a threfniadol a gwmpesir yn y proffesiwn Technoleg Bensaernïol
- rhoi casgliad o sgiliau i chi sy'n ofynnol gan dechnolegwyr naill ai wrth weithio mewn ymarfer proffesiynol neu mewn sefydliadau mawr.
Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys rhai modylau a gyflwynir ar y cyd â rhaglenni cysylltiedig eraill yn yr Ysgol, h.y. Pensaernïaeth, Arolygu Adeiladau, Arolygu Meintiau, Rheolaeth Eiddo, Rheolaeth Prosiect ac Adeiladu ac ati, ond dim ond lle mae’r rhain yn darparu’r hanfodion neu lle mae angen defnyddio dull rhyngddisgyblaethol fel sy'n gyffredin o fewn meysydd disgyblaeth broffesiynol yr amgylchedd adeiledig.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BSc)
- Stiwdio Pensaernïaeth 1A (Sgiliau Dylunio) (20 credyd; gorfodol)
- Stiwdio Pensaernïaeth 1B (Gofod a Ffurf) (20 credyd; gorfodol)
- Hanfodion Technoleg Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Gontractau a Chyfrifoldebau Cyfreithiol yn yr Amgylchedd Adeiledig (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddor Defnyddiau a Gwasanaethau Adeiladu (20 credyd; gorfodol)
- Gweithio gyda Thechnolegau Digidol a BIM (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BSc)
- Stiwdio Bensaernïol 2A (20 credyd; gorfodol)
- Stiwdio Pensaernïaeth 2C (20 credyd; gorfodol)
- Adeiladu Modern a Thraddodiadol: Rheoli’r broses Ddylunio ac adeiladu (20 credyd; gorfodol)
- Proffesiwn a Busnes 1 (20 credyd; gorfodol)
- Rheoli Prosiect a Gweinyddu Contractau (20 credyd; gorfodol)
- Rheolaeth Adeiladu Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)
- Uwch Wasanaethau Adeiladu a Dylunio Amgylcheddol (20 credyd; gorfodol)
- Uwch Dechnoleg Peirianneg Adeiladu a Sifil (20 credyd; gorfodol)
- Stiwdio Pensaernïaeth 3B (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Prosiect Grŵp Integredig (20 credyd; gorfodol).
Mae'r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn fel arfer yn ffurfiannol neu'n grynodol. Yn achos y cyntaf, mae’r asesu wedi'i gynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o'u cryfderau a'u gwendidau.
Fel arfer, bydd y cyfryw asesiadau ar ffurf ymarferion ymarferol lle bydd dull mwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr mewn perthynas ag amrywiaeth o weithgareddau.
Cynhelir asesiadau ffurfiol traddodiadol â therfyn amser penodol trwy gyfrwng profion ac arholiadau sy’n para dwy awr fel arfer. Mae arholiadau yn ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw'r gwaith a gynhyrchir.
Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyrwyr, mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu yn unigol, gan alluogi’r darlithydd i fonitro cynnydd. Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weledol i’r darlithydd a’u cyfoedion, i’w ddilyn gan sesiwn holi ac ateb.
Mae’r cyfryw strategaethau asesu’n cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle mai’r bwriad yw creu gwaith a yrrir gan y myfyrwyr yn bennaf, sy’n unigol, yn adfyfyriol a lle’n briodol, yn canolbwyntio ar yrfa. Rhoddir adborth i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio a bydd yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio er mwyn ychwanegu mwy o werth at ddysgu'r myfyrwyr.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Campws Newydd Sbon ar y Glannau
Gwybodaeth allweddol
- Ryan Stuckey – Cyfarwyddwr Rhaglen
- Ian Standen
- Trevor Francis
- Allan Lee Nantel
Technoleg Bensaernïol (BSc)
Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS o ganlyniadau Safon Uwch neu gyfwerth (240 pwynt tariff UCAS)
Technoleg Bensaernïol (HND)
Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS o ganlyniadau Safon Uwch neu gyfwerth (240 pwynt tariff UCAS)
Dulliau mynediad amgen i Safon Uwch
Cwblhau Cwrs Mynediad priodol yn llwyddiannus
neu
Brofiad galwedigaethol proffesiynol
Yn arbennig, rydym yn croesawu myfyrwyr hŷn sydd â phrofiad galwedigaethol perthnasol, neu wirfoddol hyd yn oed, yn sector yr amgylchedd. Bydd y gofynion mynediad yn amrywio yn dibynnu ar eich cefndir. Weithiau gallwn ofyn i chi ddilyn cwrs Mynediad i’ch paratoi ar gyfer astudio, neu fe allwn eich derbyn yn seiliedig ar eich profiad yn unig.
Os ydych yn frwd dros yr amgylchedd ond â chefndir addysgol ansafonol, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich lle.
Mae'r rhaglenni hyn yn cyfuno astudiaeth academaidd â chymhwyso sgiliau a chymwyseddau proffesiynol. Bydd yn rhoi cysylltiad i chi â'r gofynion addysgol angenrheidiol i amgyffred safonau uchaf y diwydiant ac mae’n golygu datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn perthynas â thechnolegau cadwraeth ac adfer, yn ogystal â meysydd cyfreithiol a rheoli sy'n berthnasol i bob adeilad.
Bydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith fel cadwraethwr adeiladau ac i ymgeisio am aelodaeth o brif gyrff proffesiynol yr amgylchedd adeiledig, gan gynnwys y Sefydliad Technoleg Bensaernïol Siartredig (CIAT), y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC) a'r Sefydliad Adeiladu Siartredig. Yn ogystal â’r sgiliau proffesiynol a thechnegol sy’n benodol i gadwraeth adeiladau, ymdrinnir yn ogystal â sgiliau cyflwyno, cyfathrebu a gwaith tîm, sydd mor hanfodol mewn busnesau o ddydd i ddydd.
Rhoddir opsiynau argraffu fformat mawr A1 i fyfyrwyr, ond bydd gofyn prynu deunyddiau ac offer ar gyfer gwneud modelau yn y modylau stiwdio pensaernïaeth ynghyd â llyfrau braslunio ac offer lluniadu. Mae gwerth yr eitemau hyn yn gwbl ddibynnol ar ofynion y myfyrwyr eu hunain.
Dr Juan A. Ferriz Papi, Uwch Ddarlithydd: PhD Adeiladu, Technoleg, Ymchwil a Datblygu
“Yr asesiad BREEAM yw un o’r asesiadau cynaliadwy allweddol ar gyfer y diwydiant adeiladu a gydnabyddir ledled y byd. Addysgir Asesiad Adeiladu Adeiladau newydd BREEAM UK ar y rhaglen Technoleg Bensaernïol. Mae hyn yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr Technoleg Bensaernïol wella eu dealltwriaeth o asesu adeiladu cynaliadwy ac i wella opsiynau cyflogadwyedd, nid yn unig fel aseswr BREEAM ond hefyd i ennill sgiliau er mwyn ymdrin ag asesiadau cynaliadwyedd yn rhan o dimau a thimau rheoli dylunio.”
Shane Elderfield, Technoleg Bensaernïol, BSc (Anrh)
“Dewisais ddilyn Technoleg Bensaernïol oherwydd roeddwn i eisiau mynd oddi ar y safle a symud i faes mwy technegol gan ddefnyddio Dylunio CAD / 3D. Rydym wedi cael cyfle i weithio ar brosiectau byw, megis ein syniadau ar gyfer gofod mewn Eglwys Gymunedol leol, edrych ar gydymffurfiaeth â rheoliadau adeiladu a chynnal arolygon i wirio amodau. Pan fyddwch yn ymweld â lle, mae'n haws deall y ddamcaniaeth a ddysgwyd mewn darlithoedd – byddai hefyd yn anodd dweud ble mae'r beddau, er enghraifft, wrth osod gwasanaethau heb ymweld â'r safle a thynnu eich lluniau eich hun. Mae’n gwneud yr hyn rydym wedi’i ddysgu’n berthnasol ac mae dysgu gan ddarlithwyr sydd â phrofiad o addysgu a meysydd arbenigedd yn ei wneud yn fwy perthnasol fyth.”
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.