Cymelliadau hyfforddi athrawon


Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion Hyfforddi Athrawon bob blwyddyn. Caiff symiau’r bwrsariaethau sydd ar gael a’r pynciau y maent yn gysylltiedig â nhw eu pennu’n flynyddol mewn ymateb i anghenion y sector addysg.

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi argaeledd, y pynciau sy’n cael eu cynnwys a lefelau’r cymhellion hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) TAR a fydd yn berthnasol yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd yma.

Isod, cewch dabl sy’n dangos manylion y cymhellion ariannol sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr TAR sy’n cychwyn ym is Medi. Mae’r ffigurau dros dro hyn ar gyfer 2022/2023 dal yn aros i gael eu cwblhau gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion pellach i’w gweld ar eu gwefan Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr.

Cymhwyster graddPynciau blaenoriaeth uchel

Bioleg  Cemeg
Cymraeg  Ffiseg
Mathemateg  Ieithoedd Modern
TGCh – gwyddorau cyfrifiadurol

Anrhydedd dosbarth 1af a/neu PhD neu gradd £15,000
2:1 £15,000
2:2 £15,000

Prosesir bwrsarïau ym mis Medi unwaith yr ydych wedi cofrestru ar y cwrs.