Hafan YDDS - Bywyd Myfyrwyr - Gwybodaeth Hanfodol i Fyfyrwyr - UCAS Extra
UCAS Extra
Mae'r Drindod Dewi Sant yn deall pa mor bwysig yw hi i ddarparu'r holl wybodaeth sydd angen ar fyfyrwyr wrth iddynt wneud cais drwy UCAS Extra.
Beth yw UCAS Extra?
Mae UCAS Extra ar gyfer myfyrwyr sydd heb fod yn llwyddiannus yn un o’u ceisiadau prifysgol. Mae UCAS Extra 2016 yn dechrau ddiwedd mis Chwefror ac yn cau ar ddechrau mis Gorffennaf 2016.
Pwy sy’n gymwys?
Mae myfyrwyr yn gymwys am UCAS Extra os ydynt wedi:
- Defnyddio’u pump cais;
- Bod yn aflwyddiannus yn y pump cais (wedi cael eu gwrthod);
- Ildio’u lle/tynnu yn ôl yn ffurfiol o gynnig prifysgol;
- Dileu eu dewisiadau a heb gadw lle prifysgol;
- Derbyn ymateb gan bob un o’r pump dewis ac wedi gwrthod pob cynnig.
Bydd myfyrwyr sy’n gymwys i wneud cais drwy UCAS Extra yn gweld botwm yn ymddangos yn UCAS Track o dan yr adran ddewisiadau.
Pan fydd myfyrwyr yn gymwys, byddant yn gallu chwilio am gyrsiau drwy chwilotydd UCAS yn ôl eu harfer a dewis cwrs.
Mae angen cofio wrth chwilio am Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn chwilotydd UCAS i ddefnyddio’r talfyriad Saesneg o’n henw “UWTSD” i ddod o hyd i’n cyrsiau (boed yn gyrsiau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg).
Y Datganiad Personol
Nid oes modd uwchlwytho datganiad personol newydd wrth wneud cais drwy UCAS Extra. Bydd y datganiad personol gwreiddiol yn cael ei anfon at y brifysgol gyda’r cais UCAS Extra.
Os yw’r pwnc astudio wedi newid yn aruthrol, argymhellir cysylltu gyda’r brifysgol o’u dewis i ofyn a cânt anfon datganiad personol mwy priodol yn uniongyrchol atynt.
Gwneud cais i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS Extra?
Os oes gan fyfyrwyr sy’n gwneud cais i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant unrhyw gwestiynau am y broses, neu am fywyd myfyrwyr neu unrhyw agwedd o fywyd prifysgol, mae ein staff cyfeillgar a chefnogol yma i ateb eu cwestiynau.
Ebost - derbyniadau@pcydds.ac.uk
Ffôn - 0300 500 50 54
YouTube - www.youtube.com/ucasonline
Twitter - www.twitter.com/ucas_online
Facebook - www.facebook.com/ucasonline
UCAS - www.ucas.com