Hafan YDDS - Y Brifysgol - Campysau, Canolfannau a Lleoliadau - Canolfannau Dysgu Caerdydd
Hafan YDDS - Y Brifysgol - Campysau, Canolfannau a Lleoliadau - Canolfannau Dysgu Caerdydd
Mae canolfannau dysgu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig addysg celfyddydau perfformio arbenigol ym mhrifddinas fywiog Cymru.
Barod i gymryd canol y llwyfan? Does dim lleoliad gwell i chi ddewis eich stori na PCYDDS Caerdydd - campws arddull conservatoire ar gyfer dawnswyr, cantorion, cyfarwyddwyr a pherfformwyr y dyfodol. Wedi'i leoli yn Nhŷ Haywood, bydd ein graddau mewn Perfformio Lleisiol i Theatr Gerddorol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sbotolau. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang o'r diwydiannau creadigol o Gymru i'r byd, gyda chysylltiadau cryf â chwmnïau blaenllaw yn y brifddinas a'r tu hwnt.
Os ydych yn berfformiwr, neu'n caru'r celfyddydau, y lle cywir i chi yw Caerdydd. Mae'n ganolbwynt prysur o fathau o theatr - yn gorlifo gyda chreadigrwydd a bwrlwm parhaus cyn y sioe. Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau, i riot cynnig ar rywbeth newydd ac i gwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg i chi. Oherwydd dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i ysbrydion creadigol eraill a fydd yn dod yn ffrindiau gorau am oes i chi.
Dewiswch eich stori ar y llwyfan neu yn yr esgyll. Gyda graddau mewn Perfformio Lleisiol, Perfformio a Theatr Gerddorol, byddwch yn dysgu gan arbenigwyr o fri yn y diwydiant a fydd yn mireinio eich talent ac yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol. Mae Caerdydd yn ymwneud yn llwyr ô pharch a chydweithio - mae einmyfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu hug a lledrith. A chyda chysylltiadau â Theatr Genedlaethol Cymru, S4C, Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru, BBC Cymru, Opera Canolbarth Cymru a mwy, rydych chi'n gwybod y byddwch yn cael cymeradwyaeth gyda phawb ar ei draed wrth raddio.
Ewch am dro ar hyd y glannau sydd newydd gael eu hadfywio, ewch i glybio yn hen warysau diwydiannol Caerdydd, a mwynhewch y diwylliant mewn amgueddfeydd, orielau a theatrau o fri rhyngwladol.
Hefyd, mae castell canoloesol, stadiwm rhyngwladol gyda 76,000 o seddi a’r holl siopau, bwytai a chaffis y gallech fod eu heisiau mewn dinas.
Ac os ydych chi am archwilio canolbwyntiau trefol eraill, rydych chi lai nag awr i ffwrdd o Abertawe a Bryste, a llai na dwy awr o Lundain a Birmingham.
Academi unigryw sy'n cynnig rhaglenni arbenigol a fydd yn darparu’r myfyrwyr gyda thechneg gadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn bair o greadigrwydd, gan ddatblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae moeseg gwaith yr Academi yn seiliedig ar barch a chydweithio, mae ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr o’r diwydiant i fireinio eu sgiliau yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd.
Ewch i'n dudalen Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru i wybod mwy.