Skip page header and navigation
students walking through carmarthen town

Ein Campws Gweithgar

Darganfod yr Awyr Agored

Dewch i dref farchnad hardd Caerfyrddin i ddechrau pennod newydd yn eich stori. Ydych chi’n barod am antur? Byddwch yn heini ac yn egnïol yn un o leoliadau gorau’r byd ar gyfer caiacio môr, arfordira, beicio mynydd a dringo creigiau. Yn y dref hon ar lannau afon Tywi, byddwch o fewn hanner awr i Fannau Brycheiniog a thraethau hardd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. 

Mae’r lleoliadau hyn yn gefndir perffaith i’n cyrsiau cyffrous – p’un ai y byddwch chi’n astudio chwaraeon, iechyd, addysg awyr agored neu’r diwydiannau perfformio. 

Pam Caerfyrddin

Myfyriwr yn eistedd ac yn edmygu'r olygfa

‘Cartref oddi cartref’

Mae Campws Caerfyrddin yn lle arbennig. Mae’n amgylchedd dysgu gofalgar a chymuned glos a diogel sy’n ‘gartref oddi cartref’ i ryw 1500 o fyfyrwyr, lle mae pawb yn cael eu hadnabod wrth eu henwau yn hytrach na’u gweld fel rhif ar restr.

Mae’r teimlad o berthyn yn nodwedd allweddol – byddwch yn perthyn i deulu’r Drindod, yn perthyn i hanes a threftadaeth y campws, ac yn perthyn i brifysgol fywiog a blaengar.

Mae’r campws yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, a’i adeiladau wedi’u codi dros dair canrif wahanol – gydag ysblander yr Hen Goleg, a godwyd yn 1848, ar y naill law a Chanolfan S4C Yr Egin, y ganolfan greadigol newydd a adeiladwyd yn 2018, ar y llaw arall.

Cael eich ysbrydoli

Myfyrwyr yn adeiladu set llwyfan

Cael eich ysbrydoli

Cewch eich ysbrydoli ar y campws hwn, byddwch yn cael eich grymuso ac yn derbyn pob cefnogaeth i wireddu eich potensial.

Rydyn ni eisiau i chi lwyddo yma, rydyn ni eisiau i chi ffynnu a datblygu ystod o wahanol sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i chi yn y dyfodol. Ac rydyn ni eisiau i chi wneud hyn oll mewn amgylchedd hapus a chefnogol.

Students outside S4C building

Cymuned yn Gyntaf

Dewiswch gymuned a fydd yn eich croesawu. Mae cymuned glos Caerfyrddin yn amgylchedd gofalgar lle cewch chi ffynnu - cymuned lle bydd pawb yn gwybod eich enw. 

Gallwch ymgolli ym mywyd y campws, gan ganfod eich hun a pharatoi ar gyfer llwyddiant academaidd, llwyddiant personol, a llwyddiant proffesiynol. Rydych chi’n gwybod eich bod ar y trywydd iawn pan fyddwch chi’n teimlo eich bod yn perthyn.

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Myfyrwyr yn perfformio ar lwyfan

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Yma, gallwch ddarganfod amrywiaeth o gyrsiau ymarferol ac egnïol, gan gynnwys Busnes, Chwaraeon ac Iechyd, y Celfyddydau Perfformio, Ieuenctid a Chymunedau, Astudiaethau Addysg a Gwneud Ffilmiau Antur. 

Ewch allan o’r ystafell ddosbarth. Hawliwch eich lle ar ganol y llwyfan. Ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf. Cyfrannwch at gymdeithas. A dysgwch y sgiliau a’r wybodaeth fydd yn eich helpu i ffynnu yn eich gyrfa ac yn eich bywyd.

Visit us at an Open Day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Sut i gyrraedd ein campws yng Nghaerfyrddin

students walking through carmarthen town

Sut i gyrraedd ein campws Caerfyrddin

Mae ein Campws yng Nghaerfyrddin o fewn pellter cerdded i ganol y dref.  Dyma dref llawn hud a hanes.  Gyda’i chastell hardd uwch Afon Tywi, bydd harddwch Caerfyrddin yn ysbrydoliaeth drwy gydol eich amser yma.