Mae Campws Caerfyrddin yn sbesial! Mae’n ‘gartre’ oddi cartre’ i dros 1500 o fyfyrwyr, yn gymdogaeth glos a diogel ac yn gymuned ddysgu ofalgar lle mae pawb yn adnabod ei gilydd.
Mae’r teimlad o berthyn yn bwysig yma – perthyn i deulu’r Drindod, perthyn i hanes a threftadaeth y campws a pherthyn i brifysgol sydd â’i bys ar byls y genedl.
Mae’r campws yn gyfuniad o’r hen a’r newydd gydag adeiladau sy’n rhychwantu tair canrif - ysblander yr Hen Goleg, sy’n dyddio ‘nôl i 1848 ar y naill law a harddwch eiconig Canolfan S4C Yr Egin, canolfan greadigol newydd a adeiladwyd yn 2018, ar y llaw arall.
Mae’n gampws lle cewch eich ysbrydoli, lle cewch eich ymbweru a lle cewch bob cefnogaeth i gyflawni eich potensial.
Ry’ ni am eich gweld chi’n llwyddo yma, ry’ ni am eich gweld chi’n blodeuo yma gan ddatblygu ystod o sgiliau a fydd o werth i chi yn y dyfodol. A ry’ ni am eich gweld chi’n cael cyfle i wneud hynny oll mewn awyrgylch hapus a chefnogol.
Ein nod yw datblygu graddedigion a fydd, gydag amser, yn gallu dylanwadu’n bositif ar gymdeithas. Trwy astudio yng Nghaerfyrddin cewch gyfle i ddeall pwysigrwydd cynaliadwyedd a diogelu’r byd o’ch cwmpas, i ddatblygu eich sgiliau creadigol, eich sgiliau arwain a chyfathrebu, i gryfhau eich gallu i feddwl yn feirniadol gan archwilio am gyfleoedd i gyfrannu at les cymdeithas. Yn syml iawn, rydym am greu’r genhedlaeth nesaf o unigolion sy’n mynd i allu newid cymdeithas er gwell, unigolion creadigol sy’n barod i fentro ac unigolion sy’n barod i chwarae rôl weithredol o fewn eu cymunedau yn y pen draw.
Ry’ ni am eich galluogi chi i fod yr hyn ry’ch chi eisiau bod gan sicrhau bod y sgiliau gennych i lwyddo yn eich dewis alwedigaeth, lle bynnag y bydd hynny’n y dyfodol.
Mae Campws Caerfyrddin wedi ei leoli mewn man delfrydol:
- Dau gan metr yn unig o archfarchnad fechan.
- Llai na milltir o ganol tref Caerfyrddin a’i siopau stryd fawr ac annibynnol, caffis a llefydd bwyta di-ri a marchnad o dan do.
- Llai na milltir o sinema aml-sgrîn.
- Llai na milltir o ganolfan fowlio da do.
- Milltir yn unig o glybiau pêl-droed, rygbi, hoci a chriced y dref.
- Milltir o ganolfan hamdden y dref, yn cynnwys pwll nofio, trac athletau, campfa a chyrtiau sboncen.
- Milltir yn unig i’r orsaf drên a’r orsaf fysiau.
- Wyth milltir i draeth tywodlyd Llansteffan.
- Tua naw milltir i Goedwig Brechfa a’i llwybrau beicio mynydd adnabyddus.
- Taith hanner awr yn unig yn y car i lwybrau cerdded ym Mannau Brycheiniog a thraethau godidog Sir Benfro.
- Taith 50 munud yn y trên i Abertawe a 90 munud i Gaerdydd.
- Trênau uniongyrchol o Gaerfyrddin i Lundain yn ddyddiol.