Mae cerdded i’n campws yn ffordd dda o gadw’n iach ac mae hefyd yn arbed arian ac yn lleihau’ch ôl troed carbon.
O’r Orsaf Fysiau
1.0 filltir (20 munud ar droed)
O’r Orsaf Drenau
1.2 filltir (27 munud ar droed)
Cewch ddefnyddio Cynlluniwr Taith Traveline Cymru i'ch helpu cynllunio’ch taith.
Mae Campws Caerfyrddin yn hygyrch o Lwybr Beicio Cenedlaethol 4 ac mae llawer o barthau ar gael ar y campws i gloi’ch beic.
Ydych chi’n gyrru i gampws Caerfyrddin, y cod post yw SA313EP.
Parcio
Parcio i Ymwelwyr
Mae gan ein campysau ni gysylltiadau gwych o ran cludiant cyhoeddus. Gweler yr adrannau Bws, Trên a Beic uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd ein campws trwy gludiant cyhoeddus.
Parthau Parcio
Er mwyn sicrhau ateb ymarferol o ran rheoli parcio, mae’r lleoedd ar y campws wedi eu rhannu’n barthau, fel y gwelir ar y map: Dyraniad Parcio Caerfyrddin.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Adrannau a ddynodwyd i’r staff
- Meysydd a ddynodwyd ar gyfer deiliaid bathodyn glas (wedi eu marcio yn y meysydd parcio)
- Adrannau cyffredin i’r staff ac ymwelwyr
- Adrannau dynodedig ar gyfer myfyrwyr preswyl (parcio'n ddi-dâl)
- Adrannau parcio diwrnod dynodedig (di-breswyl) i fyfyrwyr (parcio'n ddi-dâl)
Gellir cyrraedd ein campws yng Nghaerfyrddin yn hawdd drwy’r bysiau rheolaidd sy’n stopio wrth y safleoedd bws ar Heol y Coleg a Heol Ffynnon Jôb.
227 (College Road)
226 (College Road)
228 (College Road)
Cewch ddefnyddio Myunijourney i'ch helpu cynllunio’ch taith.
Mae gan Orsaf Drenau Caerfyrddin gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau'n rhedeg yn rheolaidd o ac i Abertawe, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Manceinion Piccadilly.
Mae’n campws ond yn 27 munud o’r orsaf ar droed, neu cewch ddal ein bws Parcio a Theithio. Gallwch lawrlwytho amserlen y gwasanaeth isod.
Cewch gynllunio’ch taith tren yma.
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn llai na dwy awr o gampws Caerfyrddin, neu mae'r bws T9 yn teithio rhwng y Maes Awyr a Chaerdydd bob 20 munud ac mae trenau rheolaidd rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae gwasanaeth casglu o'r maes awyr ar gael drwy lenwi ffurflen gofrestru ar-lein.