Gwneud cais ar ôl Dyddiad Cau UCAS

Os byddwch chi’n methu dyddiad cau cyntaf UCAS (15fed Ionawr), gallwch wneud cais am Raddau Israddedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o hyd.

Gellir gwneud cais trwy gofrestru ar UCAS a chwblhau’r broses o wneud cais yn www.ucas.com

Am ragor o wybodaeth am ein proses gwneud cais ewch i’n tudalen Sut i Wneud Cais.

Bydd ceisiadau a wneir ar ôl 30ain Mehefin yn cael eu rhoi’n awtomatig yn y broses clirio.