Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Canolfan BRIDGES UNESCO

Canolfan BRIDGES UNESCO

A narrow golden footbridge is supported by the grip of a vast stone hand.

| Ffoto gan Doruk Yemenici ar Unsplash

Ynglŷn â’r Ganolfan

Yn 2015 atgoffodd UNESCO y byd bod angen edrych eto ar addysg ac ymchwil fel y gall dynoliaeth roi sylw i heriau cynhwysfawr ein hoes.

Er gwaethaf nifer o fentrau, gan gynnwys COP 26 yn 2021, yn ôl y consensws nid yw dynolryw hyd yn hyn wedi cymryd y camau i ymateb yn effeithiol i achosion cyfredol o ansicrwydd. Nawr, yn fwy nag erioed efallai, mae’n bryd gweithredu ar y cyd yn fyd-eang gan fynd i’r afael â ‘thrais araf newid hinsawdd a’r gwenwyno amgylcheddol diwydiannol’ (Hartman et al 2020) a symud ymlaen at greu ‘cymuned arfer’ (Ibid.) a all greu mewnwelediadau newydd i’r byd eu rhannu. Ar ôl degawdau o’r hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel cynnydd araf, mae’r amser o osgoi’r gwirionedd wedi dod i ben; mae angen arloesi dewr, beiddgar sy’n ysbrydoli ailfeddwl llawn gofal i gynhyrchu’r newidiadau dilys, parhaol a chyfiawn sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030 a thrawsnewid ein byd yn ôl i fan lle gall bywyd yn ei holl weddau ffynnu.

Mae BRIDGES, a gafodd ei ffurfioli o dan Raglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST) UNESCO, yn rhan o sector Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol UNESCO. Mae’n hyrwyddo gwyddor cynaliadwyedd, sef integreiddio’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wrth ymateb i heriau cynaliadwyedd byd-eang a hybu trawsnewid. Mae Canolfannau BRIDGES UNESCO  yn ffurfio cynghrair ryngwladol a rhwydwaith o arbenigwyr sy’n ymwneud â Datblygu’r Gallu i Amddiffyn Amgylcheddau a Chymdeithasau Byd-eang’ (Building Resilience in Defence of Global Environments and Societies.) Yn un o 5 canolfan yn fyd-eang, bydd y ganolfan yn y Drindod Dewi Sant yn hyrwyddo ymchwil, addysgu a mentrau sy’n defnyddio Gwyddor Cynaliadwyedd i chwilio am atebion cyfiawn a pharhaol i broblemau cyfredol.



Gwyddor Cynaliadwyedd: Meithrin Cydweithio, Ailddychmygu Gwybodaeth

Mae Gwyddor Cynaliadwyedd yn faes datblygol a fwriadwyd i greu atebion i’r trafferthion cymhleth sy’n bodoli lle mae prosesau’r byd yn croestorri.

Wedi'i sbarduno gan ddirywiad a hyd yn oed gwymp systemau daearol a chymdeithasol a'r risgiau cynyddol amlwg i fywyd, mae’n ymwneud yn weithredol â chyfuno gwybodaeth a dulliau'r Dyniaethau â'r Celfyddydau a'r Gwyddorau, i esgor ar atebion gwreiddiol a all fynd i'r afael â chwestiynau dybryd heddiw. Felly, drwy annog deialog, rhannu dulliau, a chydweithredu, mae Gwyddor Cynaliadwyedd yn cynnig llwybr i greu'r newidiadau y mae dulliau unigol yn ei chael hi'n anodd eu cyflawni ar eu pen eu hunain.

Mae'r Ganolfan yn annog ac yn cymeradwyo mentrau, ymchwil ac addysgu sy'n osgoi parhau i ddifrodi ac yn rhoi sylw mewn modd arloesol i’r cymhlethdodau cymdeithasol brys sy’n croestorri, sef tlodi, anghydraddoldeb, mudo, llygredd, diffyg maeth, diogelwch dŵr, iechyd y cyhoedd, llesiant a llifogydd, sychder, tanau gwyllt ac effeithiau eraill newid yn yr hinsawdd, ac wrth gwrs cynnal heddwch. Bydd yn cefnogi syniadau newydd i egino a lluosogi ar draws ei rhwydwaith aml-randdeiliaid a rhagwelir y bydd yn cynhyrchu'r math o wybodaeth ac arloesedd sy'n dilyn pan fydd gwahanol ontolegau yn cael eu hannog i gyfathrebu, cydweithredu, a chydweithio'n rhyngwladol, ar draws ffiniau disgyblaeth a diwylliannau.

Cysylltwch â Despoina ar d.tsimprikidou@uwtsd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.