Skip page header and navigation

Celf Liw Nos

Cyrsiau Nos yn Abertawe

Image of UWTSD Alex building with a glass entrance with ALEX in white letters at dusk

Cynhelir y rhaglen Celf Liw Nos drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys dylunio a chelfyddydau cymhwysol, ffotograffiaeth, ffilm, cyfryngau digidol a chelf gain.

Caiff ein holl gyrsiau eu hachredu i Lefel4 (10 credyd) ac fe’u lluniwyd i weddu dechreuwyr neu’r rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau creadigol a’u gwybodaeth.

Hefyd, mae Celf Liw Nos yn gyfle gwych o bobl sy’n ystyried mynd ymlaen i astudio ymhellach ond a fyddai’n hoffi archwilio pynciau, adnabod cryfderau a datblygu portffolios.Caiff myfyrwyr fynediad i gymorth rhagorol, offer a chyfleusterau o safon y diwydiant.

Cynhelir ein holl raglenni yng Nghyfnewidfa Ddylunio Alex a Chanolfan Celf, Dylunio a Chyfryngau Dinefwr.

Cost: £220 am 10 wythnos.

Cyrsiau 2024

  • Tecstilau Digidol ar gyfer Photoshop
  • Paentio Gwydr 
  • Sgwrio â Thywod ar Wydr
  • Gwneud Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Darlunio 2

Cysylltu â Ni

Am ragor o wybodaeth ac i ymuno â’r rhestr bostio, e-bostiwch artafterdark@pcydds.ac.uk.

Ar hyn o bryd, cynhelir ein holl raglenni naill ai yng Nghanolfan Celf, Dylunio a Chyfryngau Dinefwr neu yng Nghyfnewidfa Ddylunio Alex.

Mae’r ddau adeilad yng nghanol Abertawe felly mae’n hawdd eu cyrraedd ar drên, ar fws, mewn car neu ar droed!

Adeilad modern gyda phaneli gwydr lluosog yn ymestyn o'r drysau mynediad i'r to ac sy’n darllen Coleg Celf Abertawe (SCA).

Campws Dinefwr
De la Beche St
Abertawe SA1 3EU

Drws Fictoraidd gyda Swansea College of Art mewn llythrennau aur yn y ffenest linter; yn y cefndir yr estyniad gwydr modern.

Cyfnewidfa Ddylunio Alex
Ffordd Alexandra
Abertawe SA1 5DU