Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Tystysgrif Addysg Uwch  -  Gofal (TystAU)

Gofal (TystAU)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â phrofiad o weithio ym mae iechyd a gofal sydd ag angen ennill cymwysterau ffurfiol er mwyn symud ymlaen. Os oes gennych chi’r egni a brwdfrydedd i symud ymlaen yn y sector iechyd a gofal drwy lwyddo yn y Brifysgol, yna mae’r cwrs yma ar eich cyfer chi.

Mae cwblhau’r rhaglen addysg uwch hon yn ennill cynnig diamod awtomatig i chi ar:

Mae ein portffolio unigryw o raglenni wedi’u cynllunio i gynnig dysgu hyblyg ar gyfer bywydau hyblyg. Maent yn gweithio o’ch cwmpas chi, a’ch gwaith a’ch ymrwymiadau gofal. Mae ein holl gyrsiau ar gael yn opsiynau rhan amser. Rydym yn cynnig cymorth lefel uchel a ffocws ar fyfyrwyr i sicrhau y gallwch ffynnu mewn amgylchedd addysg uwch. Rydym hefyd yn cynnig modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Gofal (CertHE) (1 flwyddyn)
Cod UCAS: 156S
Gwnewch Gais drwy UCAS

Dylai ymgeiswyr llawn amser sy'n dymuno dechrau ym mis Medi wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser, neu ymgeiswyr sy'n dymuno dechrau ym mis Ionawr, wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
E-bost Cyswllt: j.fender@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

  • Rydym yn ymrwymedig i ofal
  • Rydym yn darparu cyfleoedd i chi ddatblygu a gwneud cynnydd
  • Mae gennym gysylltiadau â’r diwydiant a Byrddau Iechyd Lleol i’ch galluogi i arbenigo yn eich dewis faes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Byddwn yn eich helpu a’ch cefnogi i wireddu eich dyheadau gyrfaol
  • Rydym yn cynnig opsiynau hyblyg a chyffrous ar gyfer y dyfodol.

 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Dyluniwyd y rhaglen unigryw hon i ‘fwydo’ i mewn i unrhyw un o’r rhaglenni gradd yn y Portffolio Iechyd. Gall hefyd eich galluogi i gael lle ar raddau eraill sydd ar gael gan Y Drindod. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu eich gwybodaeth a’ch gallu yn y cysyniadau craidd, y damcaniaethau a’r wybodaeth sy’n sail i iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’ch uwchsgilio yn y sgiliau a’r trylwyredd academaidd sydd eu hangen i gyflawni mewn addysg uwch.

Cynigir y Dystysgrif Gofal fel cymhwyster llwybr hyblyg UN FLWYDDYN. Golyga hyn, unwaith y byddwch yn pasio’r cwrs hwn, y gallwch ddechrau blwyddyn gyntaf BSc neu DipAU eich dewis (naill ai mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheolaeth Iechyd, Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc neu Nyrsio).

Mae’r rhaglenni Portffolio Iechyd wedi’u hintegreiddio’n bwrpasol i ganiatáu mynediad ac ymadawiad hyblyg rhwng llwybrau a chyrsiau. Ar ddiwedd pob blwyddyn gallwch symud ymlaen i wahanol raglen os bydd eich dewisiadau gyrfa neu gyfleoedd cyflogaeth yn newid.

Rydym hefyd yn darparu lefel uchel o gymorth academaidd ar draws y brifysgol gyfan i helpu cryfhau eich sgiliau academaidd. 

Pynciau Modylau

Mae’r cwrs yn gyflwyniad i’r prif bynciau a gewch chi yn y sector iechyd a gofal yn ogystal â’r pynciau modwl y bydd arnoch eu hangen i lwyddo yn y brifysgol — er enghraifft, sgiliau astudio ac ymchwil.

Asesiad

Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, a phortffolios proffesiynol.

Cewch chi gymorth i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Staff
  • Amanda Owens
  • Donna Morgan
  • Jaymie Phillips
  • Joanna Fender
  • Karen Hudson
Meini Prawf Mynediad

O ganlyniad i natur y cwrs gallwn ystyried ymgeiswyr ni waeth beth fo’ch cefndir academaidd, profiad gwaith neu angen a gymorth.

Mae’r penderfyniad wedi’i seilio ar eich rôl bresennol yn y gwaith neu waith blaenorol a phrofiad bywyd, yn ogystal â’ch goliau addysgol ac uchelgeisiau gyrfaol.

Gall eich cais a’ch cynnig fod yn amodol ar gyfweliad a phrawf ysgrifenedig.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae gennym gymorth cyflogaeth cryf iawn a system profiad gwaith yn y Portffolio Iechyd.

Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.  

Costau Ychwanegol

Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ar gyfer gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Llety

Gweler ein tudalennau llety i gael rhagor o wybodaeth Llety

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.