Menna Pritchard

Menna Pritchard

Nid oedd dychwelyd i’r brifysgol yn 24 oed yn rhan o’m ‘cynllun oes’, yn fam sengl i blentyn 14 mis...eto i gyd, dydw i ddim yn credu y byddai e i lawer o bobl. Ond dyna fi, yn byw yn Sir Gâr, Cymru (wedi gadael swydd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata yn Brighton) er mwyn bod yn agos i gefnogaeth hollbwysig fy nheulu. Roedd yr hyn a oedd yn gyfnod ynysol a brawychus hefyd yn gyfle i ddechrau o’r newydd, yn gyfle i ysgrifennu pennod newydd.

Gan ddychwelyd i gefn gwlad Cymru fy mhlentyndod, dechreuais ysu am gyfeiriad newydd mewn bywyd i fi fy hun a’m merch – awydd â’m hanogodd i edrych ar gyrsiau a graddau lleol a fyddai’n fy ngalluogi i gyfuno gyrfa gyda fy nghariad cynyddol at yr awyr agored, wedi dianc rhag bywyd y ddinas. Ymhen ychydig fisoedd, cefais fy hun yn cerdded yn nerfus i mewn i gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant am fy niwrnod cyntaf ar y radd Addysg Awyr Agored (sydd bellach yn BA Addysg Antur Awyr Agored) gan gychwyn ar daith 4 blynedd y gellir ei ddisgrifio orau fel...heriol!

Roedd y flwyddyn gyntaf gyfan yn antur. Ar ôl 14 mis o ddiffyg cwsg a bywyd a oedd yn cylchdroi o gwmpas bwydo ar y fron, cewynnau a thorri dannedd - am ryddhad oedd cael fy hun yn gwersylla ar ben Cadair Idris, yn dysgu i dywys dringwyr ar glogwyni’r Gŵyr, yn gwneud arforgampau o gwmpas arfordir anhygoel Sir Benfro neu gampio ar ben fy hun ym Mynyddoedd Cambria. Roedd eistedd mewn darlithoedd a defnyddio fy ymennydd yn teimlo’n foeth llwyr ac roedd gwneud gwaith ymchwil ar gyfer traethodau’n bleser pur!

Fodd bynnag, wrth i mi symud drwy’r 2il a’r 3edd flwyddyn, roedd y teimladau hyn o orfoledd yn raddol cael eu disodli gan flinder - wedi blino ceisio cydbwyso rhianta, astudio a gweithio. Ychydig ar ôl dechrau’r 3edd flwyddyn (a ddylai fod y flwyddyn olaf), cyrhaeddais y gwaelod isaf un a phenderfynais roi’r gorau i’r radd. Gyda’m merch ar fin dechrau’r ysgol, daliais ati i weithio mewn siop awyr agored leol gyda rheolwr a oedd yn ddigon caredig i adael i mi gydbwyso fy oriau gwaith gyda bod yn fam. Wedi llwyddo i godi fy hun o’r fagddu gyda chefnogaeth y rheiny o’m cwmpas, yn gweld eisiau anturiaethau a chyfeillach y radd, ac efallai’n bwysicach oll - yn teimlo’n llawn cymhelliant i fod yn ddelfryd ymddwyn da i’m merch, y flwyddyn ddilynol dychwelais i fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol.

Nid oeddwn yn gwybod hyn ar y pryd; ond roedd y daith derfysglyd hon yn rhoi sgiliau llawer cyfoethocach i mi nag y gallwn eu dychmygu – herio fy safbwyntiau a rhoi i mi werthfawrogiad o gael cydbwysedd mewn bywyd (meddyliau sydd hefyd wedi fy annog i ysgrifennu papur a blog o’r enw “Mother or Mountain Guide – is having a career in the outdoors compatible with being a parent?”)

Nôl yn y brifysgol plymiais i mewn i’m hastudiaethau, gan gymryd rhan yn y darlithoedd a throchi fy hun yn y llenyddiaeth – ac ailddarganfod y gorfoledd a’r cymhelliant a fu gen i pan ddechreuais fy astudiaethau. Yr haf wedyn, bu’r gwaith yn werth y drafferth ac, wrth i mi sefyll o flaen fy nheulu a’m merch, dyfarnwyd i mi radd anrhydedd dosbarth 1af  - un o ddiwrnodau balchaf fy mywyd.

Wedi fy nghymell gan yr hyn roeddwn wedi’i gyflawni, ac wedi cyffroi am y posibilrwydd o ymchwilio i fy syniadau a’m meddyliau ymhellach, penderfynais barhau â’m hastudiaethau ôl-raddedig yn Y Drindod Dewi Sant. Yn ystod yr amser hwn, gweithiais am gyfnod byr fel darlithydd cynorthwyol gyda myfyrwyr y flwyddyn gyntaf ar y rhaglen Addysg Awyr Agored – rhywbeth roeddwn yn ei garu...hyd yn oed y marcio!

Ond eto, blwyddyn yn ddiweddarach, newidiodd fy “nghynllun bywyd” a chefais gyfle i ddechrau pennod newydd. Nid yn unig roedd y bennod hon yn cynnwys swydd newydd a pherthynas newydd, ond gwlad newydd hefyd.

Bellach, rwyf yn byw yn Chamonix hyfryd, wedi swatio wrth droed Mont Blanc yn Alpau Ffrainc - “prifddinas chwaraeon eithafol y byd”, sydd hefyd yn cael ei adnabod gan yr enw mwy ingol “prifddinas chwaraeon marwolaeth y byd” - rhywbeth y cefais fy atgoffa ohono’n ddiweddar wrth ffilmio yn y fynwent leol yn ddiweddar yng nghanol beddau a cherrig goffa dynion a merched yn eu 20au a 30au, dringwyr, mynyddwyr, darpar dywyswyr.

Rwy’n gweithio yma fel cynhyrchydd ffilm antur annibynnol yn mwynhau amrywiaeth gyfoethog o waith, sydd wedi fy ngalluogi i deithio ar draws y DU ac Ewrop ac mor bell â Thasmania. Un diwrnod, byddaf yn eistedd tu ôl i gyfrifiadur yn gweithio ar ddarn ôl-gynhyrchu neu’n ysgrifennu erthygl, a diwrnod arall byddaf tu ôl i gamera yn ffilmio cyfweliad gydag athronydd ar y moeseg tu ôl i ‘chwaraeon antur’ – ond mae’n rhaid dweud, mae’r diwrnodau gwaith gorau’n cynnwys sgi 10km i fyny rhewlif i osod gwersyll cychwyn ein criw ffilmio wrth droed wyneb gogleddol alpaidd.

Bydd y gwaith presennol hwn yn dod i’r amlwg mewn rhaglen ddogfen o’r enw Magnetic Mountains – sy’n archwilio i pam bod y mynyddoedd yn ein denu, er gwaetha’r risg ac weithiau’r canlyniadau trychinebus – gan ofyn y cwestiwn, a ydy hi’n werth y drafferth? (Gan fy atgoffa o un o’r modylau gradd a astudiais “Antur: risg werth ei chymryd”).

Mae fy merch (nawr yn 7!) hefyd wedi setlo mewn ysgol Montessori leol (penderfyniad a ddylanwadwyd hefyd gan fy amser ar y radd) ac mae gennym fabi ar y ffordd, ym mis Gorffennaf...antur fwyaf un bywyd, efallai!

 “A’r drafferth yw, os na fentrwch chi unrhyw beth, byddwch yn mentro mwy fyth” (Jong, 1973). Er bod mentro nôl i astudio yn risg, yn y pen draw, roedd yn risg werth ei gymryd. Rwy’n edrych nôl yn annwyl ar fy amser yn Y Drindod Dewi Sant: am y ffordd y heriodd a’m gwthiodd i’r eithaf, am garedigrwydd a derbyniad fy nghyd-fyfyrwyr a’m tiwtoriaid – cymuned glos y bu i’w hanogaeth tyner fy ngwthio ymlaen ar rai o’m isafbwyntiau, ac am y ffordd yr agorodd fy llygaid. Nid oes dim amheuaeth gen i bod fy ngwaith yn cael ei ddylanwadu’n gyson gan fy amser ar y radd – wedi mewnosod awydd ynof i fynd ychydig yn ddyfnach, i fod yn ymwybodol yn feirniadol ac yn adfyfyriol yn fy ffordd o feddwl a’m hymagwedd, ac i weithredu gyda phwyll – yn fy mywyd proffesiynol a phersonol.