Gwasanaeth Cwnsela'r Brifysgol
Mae gan y Brifysgol Wasanaeth Cwnsela proffesiynol a phrofiadol.
Gweithia'r cwnselwyr yn unol â Fframwaith Moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Daeth y Brifysgol yn 1af allan o 45 sefydliad am 'Gwnsela' yn Maromedr Myfyrwyr Hydref 2016.
Mae lefel uchel o gyfrinachedd a gaiff ei esbonio yn y sesiwn gyntaf, ac a amlinellir yn Natganiad Cyfrinachedd y Gwasanaeth a’r ddogfen ategol, o’r enw Contract y Gwasanaeth Cwnsela
Ceisia'r Cwnselwyr greu amgylchedd croesawgar a gwrando heb farnu i'ch galluogi i sôn am eich teimladau a'ch profiadau. Mae’n broses gydweithredol sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Cynhelir y cwnsela ar gyflymder sy'n addas i chi ac yn ôl eich anghenion.
Ar gampws Caerfyrddin a Llambed, mae gwasanaeth cwnsela ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dyma a ddarpara'r Cwnselwyr:
- Sesiynau cwnsela unigol
- Cyflwyniadau i fyfyrwyr newydd ac i staff newydd yn ystod y cyfnod sefydlu
- Gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau
- Cyflwyno sesiynau datblygu staff yn ôl yr angen
- Cyfeiriad, fel y bo'n briodol, at gydweithwyr yn y Brifysgol ac at asiantaethau allanol
- Rôl ymgynghorol i'r staff
- Sesiynau achlysurol i grwpiau o fyfyrwyr
- Mentora a goruchwylio yn ôl y gofyn
- Cynrychiolaeth ar bwyllgorau Prifysgol
- Cysylltu'n effeithiol a'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl, Undeb y Myfyrwyr, y Gaplaniaeth a'r Swyddfa Ryngwladol
Ffynonellau Cymorth Eraill
Caplan
Campws Caerfyrddin
01267 676607
07964 631997
Wardeiniaid Neuadd (5.30 yp – 3.00 yb yn ystod y tymor)
Campws Caerfyrddin
07854 832753
Campws Llambed
07975 640200
Undeb y Myfyrwyr: Lles Is-lywydd
Campws Caerfyrddin
01267 676877
Campws Llambed
01570 422619
Campws Abertawe
01792 655400
Cwnsela, Iechyd Meddwl a Lles Dolenni Defnyddiol
Samaritans Elusen gofrestredig sy’n darparu cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i unrhyw un sy’n ystyried cymryd ei fywyd neu sydd mewn anobaith 116 123
Bipolar UK Mae Bipolar UK yn cynnig cymorth a chyngor, ac mae ganddo wasanaeth ieuenctid penodedig. Gall pobl ifanc alw’r swyddfa ranbarthol ar 01633 244244 neu e-bostio youth@bipolaruk.org.uk
Centre for Clinical Interventions Gwefan hunangymorth ryngweithiol sy'n mynd i'r afael ag ystod eang o broblemau
Chinese Mental Health Association Yn cynrychioli materion iechyd meddwl Tsieineaidd – ffoniwch 0207 613 1008
CISS Canolfan Gwybodaeth a Chymorth Canser
Clinical Research Unit for Anxiety and Depression Gwybodaeth hunangymorth gan uned ymchwil clinigol
Cruse Bereavement Care Cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth
Diverse Cymru Cefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu
Hafal Cefnogaeth i bobl sy’n gwella o afiechyd meddwl difrifol
Hunan-niwed Hunan-niwed: Gwybodaeth am hunan-niwed
Info-Nation Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl 11-25 oed
It's Good to Talk Gwybodaeth yn nodi beth yw cynghori/cwnsela a sut y gall helpu
Live Well (NHS Student Mental Health) Adnodd i fyfyrwyr yn cynnwys gwybodaeth am broblemau a phryderon a wynebir gan fyfyrwyr, a manylion am adnoddau a all helpu
Living life to the full Cwrs hunangymorth ar sgiliau bywyd yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT). Gellir mewngofnodi am ddim
Marie Curie I ffrindiau a pherthnasau rhywun sydd wedi marw o salwch terfynol
Mental Health Foundation Y brif elusen yn y DU sy’n ymwneud ag ymchwil, polisi a gwella iechyd meddwl, gydag adnoddau i’w lawrlwytho a all helpu
MIND Elusen iechyd meddwl sy’n gweithio o blaid bywyd gwell i bawb sy’n dioddef gofid meddyliol
Moodjuice Safle a gynlluniwyd i gynnig gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef meddyliau a theimladau gofidus
National Sleep Foundation Gwybodaeth a chyfarwyddyd i bobl sy'n profi anawsterau cysgu
OCD Awareness Cefnogaeth i bobl y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio gan Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol
PAPYRUS - Prevention of Young Suicide Sefydliad gwirfoddol yn y DU sydd wedi ymrwymo i atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a hyrwyddo iechyd meddwl a lles emosiynol. Mae’n cynnwys adnoddau a chymorth yn y DU i’r rhai sy’n delio â hunanladdiad, iselder neu ofid emosiynol – yn enwedig pobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc
Relate Gwasanaeth cwnsela ynglŷn â pherthnasau
Rethink Mental Illness Gwybodaeth a chefnogaeth i bawb sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl
Students Against Depression Safle a ddatblygwyd ar y cyd â myfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan iselder, hwyliau isel neu feddyliau am hunanladdiad. Mae’n cynnwys storïau gan fyfyrwyr eu hunain ac awgrymiadau
Self Help: Get Self Help Amrywiaeth o adnoddau hunangymorth
Social-anxiety UK Gwybodaeth a chymorth ar gyfer problemau bod yn hunanymwybodol a swildod
Taflenni hunangymorth Taflenni hunangymorth ar amryw bynciau
Time Management Success Syniadau ymarferol ynghylch rheoli'ch amser a gwneud beth sy'n bwysig ichi
Welsh Women's Aid Cefnogaeth i oroeswyr camdriniaeth domestig
Young Minds Gwybodaeth i bobl ifanc am iechyd meddwl