Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Cyfieithu ar y Pryd (Tystysgrif Ȏl-raddedig)
Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, cynigia Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyfle unigryw i gyfieithwyr a darpar gyfieithwyr ennill cymhwyster galwedigaethol, ymarferol mewn cyfieithu ar y pryd.
Prif nodweddion y rhaglen:
- cyfle i ennill cymhwyster galwedigaethol sy’n berthnasol i’r gweithle
- cymhwyster a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru sy’n cwrdd ag anghenion y diwydiant cyfieithu
- hyfforddiant mewn grwpiau bychain yn y brifysgol
- digonedd o gyfle i ymarfer cyfieithu ar y pryd cyn mentro i’r gweithle
- cyfle i ddysgu sut i osod a gofalu am offer cyfieithu ar y pryd
- cyfle i ennill profiad yn y gweithle o dan hyfforddiant
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen
Cais am Wybodaeth Sut i Wneud Cais Cyllid Ôl-raddedig
£2,500
Pam dewis y cwrs hwn?
Os ydych am fentro i fyd cyfiethu neu os hoffech feithrin eich sgiliau cyfieithu / cyfieithu ar y pryd, dyma’r cwrs i chi. Gallwch ddilyn y cwrs tra’ch bod yn gweithio’n llawn amser — fel hyfforddiant mewn swydd neu ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Ni ddisgwylir i chi fynychu darlithiau bob wythnos, ond trefnir nifer o sesiynau dwys sy’n parhau am ddeuddydd drwy’r flwyddyn. Cewch ddigon o gyfle i ddysgu’r grefft ac ymarfer cyfieithu ar y pryd ac os ydych yn gyfieithydd proffesiynol yn barod, cewch adborth adeiladol ar eich cyfieithiadau ac awgrymiadau am wella’ch perfformiad tra’n ennill cymhwyster ôl-raddedig, cydnabyddedig.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn aml mae myfyrwyr wedi ymarfer cyfieithu testun yn ystod eu graddau israddedig, ond nid ydynt wedi cael eu hyfforddi i gyfieithu ar lafar o’r Gymraeg i’r Saesneg. Hefyd yn bur anaml mae cyfieithwyr sy’n cyfieithu ar y pryd yn y gweithle yn derbyn adborth ar eu perfformiadau ac awgrymiadau ynglŷn â sut i wella.
Yn y cwrs hwn cyflwynir unigolion i faes cyfieithu ar y pryd yn benodol a’r offer cyfieithu ar y pryd y disgwylir iddynt eu defnyddio yn y proffesiwn cyfieithu. Rhoddir cyfle i ddatblygu a mireinio’r holl sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfieithydd ar y pryd a darperir digonedd o gyfle i ymarfer y dechneg o gyfieithu ar y pryd cyn mentro i’r byd go iawn a chyfieithu yn y gweithle.
Trafodir yr ystod o sgiliau sy’n angenrheidiol wrth gyfieithu ar y pryd yn effeithiol, e.e. cywair llais, stamina, rheoli goslef y llais, ynganu, gwrando a siarad ar yr un pryd, a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd.
Bydd cyfle i unigolion ddod yn gyfarwydd ag adnoddau perthnasol wrth ymchwilio’n annibynnol i feysydd arbenigol (e.e. ffynonellau electroneg, terminoleg a geirfa arbenigol). Rhoddir cyfle hefyd i ymarfer cyfieithu mewn nifer o gyd-destunau gwahanol a genres gwahanol (e.e. iaith busnes, hamdden, y gyfraith, cyfarfodydd ffurfiol, darlithiau academaidd ayb.).
Cyflwynir unigolion i’r modd y gall cyfieithu ar y pryd ddylanwadu ar sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio mewn cyfarfodydd a chyd-destun cyfieithu ar y pryd wrth gynllunio’n ieithyddol. Trafodir y sgiliau busnes sylfaenol y mae eu hangen ar y cyfieithydd llawrydd a cheir cyfle i dreulio wythnos (neu 35 awr) ar leoliad gyda chwmni cyfieithu neu uned gyfieithu lle y bydd cyfle i ddysgu am ofynion ymarferol a threfniadol y man gwaith proffesiynol.
Mae angen cwblhau 60 credyd yn llwyddiannus ar gyfer y Dystysgrif Ôl-radd mewn Cyfieithu ar y Pryd, sef:
- (i) CYCY7001C Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd (10 credyd; gorfodol)
- (ii) CYCY7002C Cyfieithu ar y Pryd: Arfer ac Ymarfer (20 credyd; gorfodol)
- (iii) CYCY7003C Cyfieithu ar y Pryd Proffesiynol (30 credyd; gorfodol).
Anogir unigolion i gwblhau’r tri modwl, ond mewn rhai achosion os oes cryn brofiad blaenorol o gyfieithu ar y pryd gan rywun, gellid gwneud cais i gael ei eithrio o’r modwl cyntaf (Cyflwyniad i Gyfieithiad ar y Pryd).
Byddai’n rhaid i’r ymgeisydd lunio traethawd byr yn adfyfyrio ar ei gyfrifoldebau yn y maes fel y gallai staff y Ganolfan ystyried a fyddai’n bosibl mapio ei brofiad i ddeilliannau dysgu CYCY7001C a chefnogi cais i’r Bwrdd RPEL a fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol. Y mae pob modwl yn adeiladu ar yr un blaenorol ac oherwydd hynny bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddilyn y modylau’n gronolegol yn y drefn a nodir uchod.
Tystysgrif alwedigaethol, ymarferol yw hon; felly rhoddir y prif bwyslais ar asesu sgiliau ymarferol unigolion wrth iddynt gyfieithu ar y pryd. Recordir y profion cyfieithu ar y pryd trwy ddefnyddio offer recordio symudol. Yn ogystal, gofynnir i unigolion gwblhau gwaith ysgrifenedig ar eu cynnydd a’u profiad ar y cwrs ac yn y gweithle.
- Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd: dau brawf CAP 5 munud yr un (80%), Adroddiad 1,000 o eiriau (20%)
- Cyfieithu ar y Pryd: Arfer ac Ymarfer: dau brawf CAP 10 munud yr un (80%) cyflwyniad llafar (20%)
- Cyfieithu ar y Pryd Proffesiynol: dau brawf CAP 10 munud yr un (60%), traethawd adfyfyriol 3,000 o eiriau yn seiliedig ar brofiad gwaith 35 awr (40%)
Gwybodaeth allweddol
- Mrs Lynwen Davies
- Dr Hanna Hopwood Griffiths
- Sicrheir bod cyfieithwyr ar y pryd profiadol yn cyfrannu at yr hyfforddiant yn ôl y galw.
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn rhugl ar lafar yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel rheol gofynnir am radd BA, ond mae modd trafod eich cymwysterau a’ch profiad proffesiynol â Chyfarwyddwr y Rhaglen os ydych yn ansicr.
- Cyfieithu
- Cyfieithu ar y pryd
- Gweithio i’r llywodraeth, cynghorau sir, unedau cyfieithu, mentrau iaith, cwmnïau cyfieithu
Mae nifer o’r unigolion sy’n dilyn y rhaglen yn gyfieithwyr profiadol sy’n awyddus i fireinio’u sgiliau cyfieithu a chyfiethu ar y pryd a dilyn hyfforddiant mewn swydd. Ar y llaw arall, mae rhai yn ddwyieithog a chanddynt ddiddordeb mewn cyfieithu, ond yn dod o feysydd eraill megis dysgu neu isdeitlo.
Mae rhai o’n cynfyfyrwyr wedi ennill dyrchafiad yn y gweithle a mynd yn uwch-gyfieithwyr ar ôl ennill y cymhwyster hwn; mae eraill wedi mentro i gyfieithu ar y pryd am y tro cyntaf a dechrau gweithio gyda chmwni cyfieithu; mae eraill wedi cychwyn eu busnesau eu hunain yn arbenigo ar gyfieithu ar y pryd.
Datblygwyd y cymhwyster hwn mewn cydweithrediad agos â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru a chyfieithwyr ar y pryd profiadol. Cynigia’r rhaglen alwedigaethol hon brofiad gwaith 35 awr i fyfyrwyr.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.