Skip page header and navigation

Tynnu’n Ôl neu Doriad i’ch Astudiaethau

Yn meddwl am dynnu’n ôl neu gael toriad i’ch astudiaethau?

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu yn eich astudiaethau a sut gallai’ch penderfyniad effeithio ar eich Cyllid Myfyrwyr.

Ydych chi wedi defnyddio’r holl gymorth sydd ar gael yn y Brifysgol?

Cyrchu Cymorth

01
Ydych chi wedi siarad â’ch tiwtor rhaglen?
02
Ydych chi wedi cysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr am gymorth?
03
Ydych chi wedi siarad ag Undeb y Myfyrwyr?

Gwybodaeth a Dolenni

Tiwtoriaid Rhaglen

Os ydych yn cael trafferth gydag agweddau ar eich cwrs, bydd ef/hi yn gallu cynnig cymorth a chyngor ac efallai yn gallu eich cefnogi wrth wneud cais am amser ychwanegol i gwblhau’ch gwaith cwrs.

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae gennym gwnselwyr a chynghorwyr iechyd meddwl proffesiynol i’ch helpu; gall ein cynghorwyr Cyllid Myfyrwyr eich helpu os ydych yn cael anawsterau ariannol; gall y tîm Gyrfaoedd gynnig help a chyngor os ydych yn meddwl yr hoffech newid cwrs neu lwybr gyrfa ac mae gennym sesiynau Sgiliau Astudio mynediad agored sydd ar gael i bawb, gan gynnwys cymorth penodol i fyfyrwyr anabl.

Undeb y Myfyrwyr

Mae gan Undeb y Myfyrwyr dîm cyngor academaidd sy’n gallu eich helpu i ddeall rheoliadau’r Brifysgol a gweithio eich ffordd drwyddynt. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnig ystod o weithgareddau cymdeithasol a rhwydweithio i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch amser yn y Brifysgol.

Tynnu’n Ôl neu Doriad i’ch Astudiaethau

Os hoffech gael toriad neu dynnu’n ôl, gallwch weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn yr adrannau isod.   Darllenwch drwyddynt i gyd am fod pob un yn berthnasol.

Byddwch yn ymwybodol y gall fod effaith ar eich cyllid myfyrwyr os byddwch yn tynnu’n ôl neu’n cael toriad i astudiaethau.

  • Toriad i Astudiaethau

    Mae cael toriad i’ch astudiaethau yn golygu cymryd amser allan neu atal eich astudiaethau dros dro, fel arfer am isafswm cyfnod o dri mis am resymau personol neu iechyd. Fel arfer bydd hyn yn digwydd gyda bwriad i ailafael yn y cwrs yn ddiweddarach (fel arfer y flwyddyn academaidd nesaf).

    Pan gewch doriad i’ch astudiaethau, fel arfer ystyrir hefyd fod eich cyllid myfyrwyr ‘wedi’i atal’ am weddill y flwyddyn academaidd, ond byddwch yn ymwybodol y gall hyn gael effaith fawr ar beth bydd gennych hawl iddo yn y dyfodol.

    Mae’n bwysig eich bod yn trafod hyn gyda’r Tîm Cymorth Arian o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr, a fydd yn eich helpu i ddynodi a deall unrhyw oblygiadau.

    Cewch fwy o wybodaeth ynghylch toriad i’ch astudiaethau yn y Polisi Amgylchiadau Lliniarol.

    Tynnu’n ôl o Astudiaethau

    Tynnu’n ôl yw pan fyddwch yn dod â’ch cofrestriad ar eich rhaglen astudio i ben ac ar bob uned sy’n gysylltiedig â hi heb unrhyw fwriad i ddychwelyd i’w chwblhau yn ddiweddarach.

    Bydd eich cyllid myfyrwyr yn dod i ben am weddill y flwyddyn a chaiff unrhyw flynyddoedd a astudiwyd eu hystyried yn astudiaethau blaenorol os dychwelwch yn y dyfodol. Gallai hyn effeithio ar faint o gyllid a fydd ar gael i chi os penderfynwch ddychwelyd i Addysg Uwch yn y dyfodol.

  • Cysylltwch â’r Tîm Rhaglen i drafod eich bwriad i dynnu’n ôl. Hefyd gall fod goblygiadau ariannol yn sgil tynnu’n ôl o’ch astudiaethau.

    Argymhellwn yn gryf eich bod yn trafod eich opsiynau cyn cyflwyno ffurflen i dynnu’n ôl. Ni ddylech dynnu’n ôl o‘ch astudiaethau os ydych yn bwriadu dychwelyd yn ddiweddarach.

    Hefyd dylech drafod eich bwriad gyda’r tîm Cyllid Myfyrwyr o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr. Gallant eich helpu i ddeall unrhyw oblygiadau ariannol yn sgil eich penderfyniad.

    Rwyf wedi trafod gyda’r Tîm Rhaglen a’r Tîm Cyllid Myfyrwyr

    Os ydych wedi trafod gyda’r Tîm Rhaglen a Swyddogion Cyllid Myfyrwyr ac yn dal i ddymuno tynnu’n ôl, cewch y ffurflen gais i dynnu’n ôl o fewn eich cyfrif MyTSD.

    Nid wyf wedi trafod gyda’r Tîm Rhaglen a’r Tîm Cyllid Myfyrwyr

    Cyn cyflwyno cais i dynnu’n ôl mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch Tîm Rhaglen a Swyddogion Cyllid Myfyrwyr i drafod eich amgylchiadau.  I gael gwybodaeth ynghylch eich Tîm Rhaglen a’r Tîm Cyllid Myfyrwyr cysylltwch â’r Hwb ar 0300 131 3030 neu hwb@pcydds.ac.uk

  • Myfyrwyr a gyllidir gan Gyllid Myfyrwyr

    Wrth i chi dynnu’n ôl, bydd yn ofynnol i’r Brifysgol adrodd ynghylch eich dyddiad mynychu diwethaf wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Bydd swm y benthyciad ffioedd dysgu y bydd y Brifysgol yn gwneud cais amdano yn gyfwerth â’r ffioedd dysgu sy’n ddyledus.  Eich diwrnod mynychu diwethaf a gaiff ei ddefnyddio gan y Brifysgol fel y dyddiad y byddwch yn tynnu’n ôl.

    Yn ddibynnol ar bryd yn union y byddwch yn cwblhau’r dogfennau perthnasol, gallai’r dyddiad hwn wneud gwahaniaeth mawr i’r ffioedd dysgu a gaiff eu codi arnoch a’r benthyciad cynhaliaeth y mae gennych hawl iddo, a gallai arwain at ordaliad y bydd angen ei ad-dalu.

    Pan fyddwch wedi cyflwyno’ch ffurflen i dynnu’n ôl i’r Brifysgol, rhoddwn wybod i Gyllid Myfyrwyr a fydd wedyn yn ail-gyfrifo swm y benthyciadau / cyllid grant y dylech fod wedi’i dderbyn.

    Os bydd y cyfrifo’n barnu eich bod wedi cael gordaliad, bydd Cyllid Myfyrwyr wedyn yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a fydd yn ysgrifennu atoch gan ofyn i chi ad-dalu unrhyw arian y barnwyd ei fod wedi’i ordalu i chi.  Gallai’r broses hon gymryd nifer o wythnosau a bydd angen i chi aros i glywed gan Gyllid Myfyrwyr a/neu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr cyn gallwch dalu unrhyw arian yn ôl iddynt.

     Argymhellir eich bod yn ceisio peidio â defnyddio rhagor o’ch Benthyciad Myfyrwyr tan i chi dderbyn y llythyr gan Gyllid Myfyrwyr.  Peidiwch â rhagdybio nad oes gordaliad am nad ydych wedi clywed o fewn ychydig o wythnosau – gall y broses ail-gyfrifo gymryd 8 wythnos neu ragor i gael ei chwblhau.

    Gall y Swyddogion Cyllid Myfyrwyr yn y Brifysgol eich helpu i gyfrifo a ydy’n bosibl eich bod wedi cael gordaliad a faint o arian y gellid gofyn i chi ei ad-dalu i Gyllid Myfyrwyr.  Os na allwch ad-dalu’r holl arian ar unwaith, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm ad-daliadau Benthyciadau Myfyrwyr i drefnu cynllun talu.  Gall y Swyddogion Cyllid Myfyrwyr yn y Brifysgol eich helpu i baratoi am hyn.

    Gall tynnu’n ôl effeithio ar y cyllid a gewch os dychwelwch i’r brifysgol.

    Myfyrwyr sy’n Hunangyllido

    Wrth i chi dynnu’n ôl, bydd eich Athrofa yn cyhoeddi dyddiad mynychu diwethaf swyddogol (dyddiad tynnu’n ôl) gan ei gadarnhau ar eich cofnod myfyriwr er mwyn i staff yr Adran Gyllid allu ei weld.  Nid yw’n bosibl gwneud ad-daliad tan i’r Athrofa gofnodi’r dyddiad tynnu’n ôl hwn ar eich cofnod myfyriwr.

    Yn achos israddedigion sy’n hunangyllido, os ydy’r swm a dalwyd yn fwy na’r ffioedd dysgu yr ail-gyfrifwyd eu bod yn ddyledus, gwneir ad-daliad drwy ddychwelyd yr arian i’r un talai neu gyfrif a wnaeth y taliad.  Os nad yw’r myfyriwr wedi talu digon o ffioedd erbyn amser y toriad i astudiaethau/tynnu’n ôl, rhoddir gwybod iddo/iddi drwy e-bost er mwyn trefnu talu.

    Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ad-daliad, cysylltwch â’r Adran Gyllid drwy e-bost yn fees@pcydds.ac.uk

  • Os penderfynwch gymryd toriad i astudiaethau, rydym yn disgwyl y byddwch yn dychwelyd i gwblhau’ch cwrs yn ddiweddarach, felly mae’r broses ychydig yn wahanol yn ddibynnol ar bryd byddwch yn cymryd y toriad. Os cymeradwyir hynny, fel arfer bydd y toriad yn cael ei gymhwyso o’r dyddiad y derbyniwyd y ffurflen wedi’i chwblhau gan y Rheolwr Rhaglen (neu enwebai).

    Fel arfer bydd gofyn i chi alinio’ch dyddiad dychwelyd i astudio gyda’ch dyddiad derbyn gwreiddiol.

    Hefyd rhaid i chi drafod eich bwriad i gymryd toriad i astudiaethau gyda’r tîm Cymorth Arian o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr. Gallant eich helpu i ddeall unrhyw oblygiadau ariannol yn sgil eich penderfyniad.

  • Os tynnwch yn ôl o’ch cwrs, bydd swm y ffioedd dysgu a dalwch yn dibynnu ar y dyddiad y cwblhewch y ffurflen i dynnu’n ôl ar MyTSD.

    Ar ôl cyfnod cychwynnol o bythefnos pryd byddai tynnu’n ôl yn arwain at beidio â chodi unrhyw ffioedd, bydd y meini prawf yn y tabl canlynol yn berthnasol:

    Taliadau Ffioedd
    Ffioedd yn Ddyledus Meini Prawf
    25% o’r ffioedd blynyddol Yn achos tynnu’n ôl neu gael eich gwahardd yn y tymor cyntaf
    50% o’r ffioedd blynyddol Yn achos tynnu’n ôl neu gael eich gwahardd yn yr ail dymor
    100% o’r ffioedd blynyddol IYn achos tynnu’n ôl neu gael eich gwahardd yn y trydydd tymor

    Myfyrwyr a gyllidir gan Gyllid Myfyrwyr

    Rhaid i fyfyrwyr lenwi Ffurflen Gais Myfyriwr i Dynnu’n Ôl, neu gyflwyno cais ar MyTSD, os dymunant dynnu’n ôl o’u hastudiaethau.  Os na fydd myfyriwr yn hysbysu’r Brifysgol ei fod yn tynnu’n ôl, ac os ydy’r dyddiad mynychu diwethaf yn aneglur, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddefnyddio dyddiad y Bwrdd Arholi pryd tynnwyd ei ymgeisyddiaeth yn ôl at ddibenion cyfrifo ffioedd.  Gallai hyn arwain at 25% ychwanegol o ffioedd yn ddyledus, yn ddibynnol ar ddyddiad y bwrdd arholi.

    Cyllid Cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr 

    Cyfrifir swm y cyllid cynhaliaeth y mae gennych hawl iddo mewn blwyddyn anghyflawn ar sail pro rata gan ddefnyddio’ch diwrnod mynychu diwethaf.   Er enghraifft, os ydych wedi derbyn cyllid cynhaliaeth o £1000 am dymor ac mae’ch dyddiad mynychu diwethaf yn union hanner ffordd drwy’r tymor, byddai’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cyfrifo eich gorwariant yn £500.   

    Os hysbysir myfyriwr ei fod wedi cael gordaliad ac ni all ei ad-dalu, argymhellir ei fod yn gwneud fel a ganlyn, yn ddibynnol ar ei amgylchiadau:

    Tynnu’n ôl – Pan dderbyniwch y llythyr sy’n eich hysbysu am ordaliad, ffoniwch y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar y rhif a geir yn y llythyr i drefnu ad-daliad misol fforddiadwy (neu i atal y cyfrif dros dro nes bod hyn yn bosibl).  Byddwch yn ymwybodol os dechreuwch gwrs arall cyn ad-dalu’r holl ordaliad, tynnir y balans sy’n ddyledus o’ch hawl i Gyllid Myfyrwyr yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs newydd.

    Toriad i astudiaethau – Fel yr uchod, ond mae angen i fyfyrwyr sydd wedi cael toriad i astudiaethau fod yn ymwybodol y caiff unrhyw ordaliad nad yw wedi’i ad-dalu erbyn iddynt ddychwelyd i’w hastudiaethau, ei dynnu o unrhyw hawl i gyllid yn y dyfodol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru / Lloegr / Gogledd Iwerddon / SAAS

    Golyga hyn os oedd gennych hawl i gyllid cynhaliaeth o £1,000 ond eich bod wedi cael gordaliad blaenorol o £500, byddech yn derbyn £500 yn unig wrth ddychwelyd.

  • Os ydych yn atal eich astudiaethau dros dro oherwydd rhesymau meddygol sydd wedi effeithio ar eich gallu i astudio, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ar gyfer y Brifysgol er mwyn iddi allu cofnodi’r toriad i astudiaethau fel sail feddygol.

    Dan yr amgylchiadau hyn caniateir i chi gadw gwerth 60 diwrnod pellach o Gyllid Myfyrwyr (ar ôl dyddiad y toriad).  Bydd angen i chi gysylltu â Chyllid Myfyrwyr i wirio bod hyn wedi’i gymhwyso.

  • Mae cyllid ffioedd dysgu gan Gyllid Myfyrwyr wedi’i gyfyngu i hyd eich cwrs ynghyd ag un flwyddyn ychwanegol

    Os ydych wedi astudio o’r blaen ac mae gennych radd Anrhydedd gan brifysgol neu goleg yn y DG:

    • efallai na fyddwch yn gymwys am unrhyw gymorth; neu
    • gallai eich hawl fod yn gyfyngedig i flynyddoedd penodol.

    Er mwyn deall sut mae hyn yn effeithio arnoch chi, y rheol gyffredinol yw eich bod yn gymwys am gymorth myfyrwyr am hyd eich cwrs addysg uwch ynghyd ag un flwyddyn lle na chyflawnwyd cymhwyster.  Fodd bynnag, caiff y cymorth ei leihau yn ôl nifer y blynyddoedd rydych wedi astudio’n flaenorol.

    Dangosir hyn yn y fformwla isod:

    Parhad y cwrs newydd + 1 flwyddyn – nifer o flynyddoedd ar y cwrs blaenorol = x blwyddyn o hawl

    Er enghraifft:

    Dechreuodd Jane gwrs amser llawn ym mlwyddyn academaidd 2013/14 ond dim ond 2 flynedd o astudiaeth a gwblhawyd ganddi.  Mae hi bellach yn dymuno dychwelyd i astudiaethau amser llawn. Mae ei chwrs newydd yn 3 blynedd o hyd.

    Parhad cwrs newydd Jane (3) +1 flwyddyn – astudiaeth flaenorol Jane (2) = 2 flynedd

    Mae hyn yn golygu y gall Jane gael 2 flynedd o gyllid am ei chwrs addysg uwch newydd.  Bydd angen iddi ariannu un flwyddyn ei hun.

    Gan fod cyllid yn cael ei ddyfarnu ym mlwyddyn olaf cwrs newydd a phob blwyddyn flaenorol a gyllidir, bydd angen i Jane hunangyllido blwyddyn gyntaf ei chwrs.  Golyga hyn na fydd yn gallu ceisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu na Grant Dysgu Llywodraeth Cymru /Grant Cymorth Arbennig; fe fyddai, er hynny, yn gallu parhau i wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth a grantiau ategol megis Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn ei blwyddyn o hunangyllido.

  • Os teimlwch fod rhywbeth y tu hwnt i’ch rheolaeth wedi cael effaith niweidiol sylweddol ar eich perfformiad academaidd neu eich gallu i astudio a bu’n rhaid i chi gymryd toriad i astudiaethau neu ail-wneud y flwyddyn, gallwch wneud cais am gyllid ychwanegol ar sail Rhesymau Personol Anorchfygol.

    Mae Rhesymau Personol Anorchfygol yn gallu cynnwys materion yn gysylltiedig ag iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth ond nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

    Os ydych o’r farn bod hyn yn berthnasol i chi ac yr hoffech gyflwyno achos i Gyllid Myfyrwyr am Resymau Personol Anorchfygol, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr yn StudentServices@pcydds.ac.uk i’ch helpu.

    Fel arfer, os byddwch yn cyflwyno cais am gyllid ychwanegol ar sail rhesymau personol anorchfygol bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch amgylchiadau a /neu sut maent wedi effeithio ar eich gallu i gwblhau’ch astudiaethau. Gallai hyn fod yn llythyr gan eich meddyg teulu os oeddech yn sâl, llythyr ategol gan eich tiwtor neu gwnselydd (pan fo’n berthnasol) os oeddech wedi rhannu gwybodaeth am eich amgylchiadau â nhw ar y pryd.  

    Os cawsoch brofedigaeth yn y teulu agos efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o’r dystysgrif marwolaeth.  Mae’n gallu bod yn anodd coladu’r dystiolaeth hon os oes nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio cyn i chi ddychwelyd i Addysg Uwch felly os penderfynwch dynnu’n ôl o’ch astudiaethau ar y sail hon, mae’n werth casglu cymaint o dystiolaeth â phosibl nawr rhag ofn y bydd ei hangen arnoch yn y dyfodol.

    Nid oes sicrwydd y darperir cyllid ychwanegol, am fod hyn ar ddisgresiwn Cyllid Myfyrwyr.

  • Toriad i Astudiaethau

    Os ydych yn bwriadu cymryd toriad i astudiaethau ac rydych eisoes wedi cael uchafswm y Cyllid Ôl-raddedig, ni fydd gennych hawl i unrhyw daliadau pellach gan Gyllid Myfyrwyr Cymru na SFE pan ddychwelwch i astudio, hyd yn oed pe bai’r ataliad oherwydd Rhesymau Personol Anorchfygol megis materion yn gysylltiedig ag iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth.

    Os ydych wedi cael rhan yn unig o’ch hawl i Gyllid Ôl-raddedig, bydd eich taliadau’n dod i ben pryd cymerwch y toriad i astudiaethau ond byddwch yn gymwys am y swm sy’n weddill pan fyddwch yn ailafael yn eich astudiaethau.  Os cewch daliad tra byddwch yn cymryd y toriad i astudiaethau mae’n bosibl y gofynnir i chi ei ad-dalu’n syth.

    Tynnu’n ôl

    Os ydych wedi penderfynu tynnu’n ôl o’ch cwrs Meistr ac rydych wedi cael Cyllid Ôl-raddedig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu SFE, ni fyddwch yn gymwys am Gyllid Ôl-raddedig ychwanegol am gwrs Meistr yn y dyfodol, hyd yn oed os nad ydych wedi cael yr uchafswm am y cwrs cyfredol.

    Fodd bynnag, os ydych yn tynnu’n ôl o’r cwrs oherwydd Rhesymau Personol Anorchfygol, gallwch gyflwyno cais am gyllid yn ôl disgresiwn am gwrs newydd.  Unwaith yn unig y cewch wneud hyn.  Darllenwch y wybodaeth yn yr adran Rhesymau Personol Anorchfygol os ydych o’r farn y bydd angen i chi wneud cais am y cyllid yn ôl disgresiwn.

    Ail-wneud rhan neu’r cyfan o’ch cwrs

    Os oes angen i chi ail-wneud unrhyw ran o’ch cwrs, neu os caiff eich cwrs ei ymestyn, ni fydd gennych hawl i unrhyw daliadau Cyllid Ôl-raddedig pellach, oni bai nad ydych wedi defnyddio’r uchafswm sydd ar gael.  Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes angen ail-wneud neu ymestyn yr astudiaethau oherwydd Rhesymau Personol Anorchfygol megis materion yn gysylltiedig ag iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth.

    Trosglwyddo i gwrs gwahanol

    Os byddwch yn trosglwyddo i gwrs ôl-raddedig Meistr neu Ddoethurol arall rhwng blynyddoedd academaidd, ac nid ydych wedi defnyddio uchafswm y Cyllid Ôl-raddedig, byddwch yn parhau i fod yn gymwys am weddill eich Cyllid Ôl-raddedig Meistr neu Fenthyciad Ôl-raddedig Doethurol.

    Fodd bynnag os byddwch yn trosglwyddo i gwrs arall ac rydych eisoes wedi defnyddio uchafswm y Cyllid Ôl-raddedig, ni fydd gennych hawl i unrhyw daliadau pellach gan Gyllid Myfyrwyr Cymru na SFE, hyd yn oed pe bai’r trosglwyddo oherwydd Rhesymau Personol Anorchfygol megis materion yn gysylltiedig ag iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth.

    Gordaliadau

    Yn ddibynnol ar eich Diwrnod Mynychu Diwethaf, ail-gyfrifir y cyllid rydych wedi’i gael ar sail pro rata.  Bydd angen ad-dalu i‘r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr unrhyw swm rydych wedi’i gael sy’n ordaliad.  Pan dderbyniwch y llythyr sy’n eich hysbysu am ordaliad, ffoniwch y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar y rhif a geir yn y llythyr i drefnu ad-daliad misol fforddiadwy (neu i atal y cyfrif dros dro nes bod hyn yn bosibl).

    Ffioedd Dysgu

    Gweler yr adran am ffioedd dysgu i’ch helpu i ddeall sut bydd y Brifysgol yn cyfrifo faint sydd arnoch o ran ffioedd dysgu ac a oes gennych hawl i unrhyw ad-daliad.