Skip page header and navigation

Mae Cefnogaeth Ariannol Ar Gael

Rydyn ni’n deall y gall pryderon ariannol fod yn rhan fawr o fywydau ac o addysg myfyrwyr. Dyna pam rydyn ni wedi ymroi i ddarparu cefnogaeth ariannol gynhwysfawr a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau academaidd heb ddioddef straen ariannol gormodol, gan gynnwys cefnogaeth ar:

  • Fwrsariaethau
  • Cymorth Costau Byw

Mae ein tîm Cymorth Ariannol wrth law i’ch cynorthwyo os teimlwch y byddech yn elwa ar adolygiad o’ch cyllideb.  Cewch drefnu cyfarfod un-i-un gyda Swyddog Cymorth Ariannol drwy e-bostio Cymorth Ariannol

Cronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr PCYDDS

Mae hon yn ffynhonnell gymorth ariannol ychwanegol i unrhyw fyfyriwr cymwys sydd â Benthyciad Myfyrwyr ac sydd dioddef caledi ariannol annisgwyl.

Bydd angen i ymgeiswyr brofi eu bod wedi defnyddio pob ffynhonnell ariannu arall, gan gynnwys eu gorddrafft, cyn y gellir ystyried cais.

Bydd angen i fyfywyr rhyngwladol ddangos pam fod y cyllid yr oeddent ei angen i gael fisa Haen IV bellach wedi’i wario, a pha amgylchiadau eithriadol a achosodd yr anhawster ariannol 

Sylwch na ellir defnyddio’r gronfa i gael cymorth gyda ffioedd dysgu. 

Mae cymorth ariannol ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio o leiaf 40 credyd mewn blwyddyn academaidd. Gall myfyriwr wneud cais am gyllid ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs a gallan nhw ailymgeisio os ydyn nhw mewn anawsterau ariannol. Fel arfer, ni fydd angen ad-dalu’r arian.

Mae’r arian yn cael ei weinyddu gan banel y Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Adran Gyllid, Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae’r panel hwn yn cwrdd bob wythnos yn ystod y tymor. Er nad ydyn nhw’n cwrdd yn ffurfiol yn ystod y cyfnodau gwyliau, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried os bydd staff ar gael. 

Gwnewch gais nawr: Ffurflen gais y Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr

Cysylltwch â’r Tîm Cymorth Ariannol am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

Cymorth gyda Chostau Byw

Mae’r Brifysgol yn deall bod llawer o fyfyrwyr yn byw ac yn astudio mewn amgylchiadau ariannol anodd ar hyn o bryd. Mae’r cynnydd mewn costau tanwydd, bwyd, trafnidiaeth a llety yn enwedig wedi effeithio ar safonau byw. Mae pryder ynghylch arian, cyllidebu a thalu biliau a phrynu hanfodion bywyd yn ffactor sylweddol sy’n cyfrannu at iechyd meddwl gwael.

Dyma eglurhad byr o’r camau y mae’r Brifysgol wedi’u cymryd i gefnogi ein myfyrwyr yn ystod y cyfnod hwn. Pan fo modd, rydyn ni wedi cynnwys dolenni i wybodaeth neu gymorth pellach.

    • Mae’r Brifysgol wedi lansio ein Fframwaith Bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr. Gellir gwneud cais am unrhyw un o’r bwrsariaethau, ac maen nhw’n cynnwys cyllid i helpu gyda Chostau Astudio, Mynd ar Leoliad, Profiad Gwaith a Datblygiad Personol.
    • Mae’r ffurflenni cais ar-lein ar gyfer bwrsariaethau ar gael yma: Bwrsariaethau | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)
    • Mae gan y Brifysgol fwrsariaethau hefyd sy’n cefnogi myfyrwyr a nodwyd fel y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys myfyrwyr sy’n Gadael Gofal, Rhieni a Gofalwyr, Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig a Myfyrwyr Anabl.
    • Mae’r ffurflenni cais ar-lein ar gyfer bwrsariaethau ar gael yma: Bwrsariaethau | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)
    • Mae’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr wedi cael rhagor o fuddsoddiad y flwyddyn academaidd hon, ac mae ar agor i fyfyrwyr sydd mewn trafferthion ariannol. 
    • Mae ffurflen gais y Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr ar gael yma: Ffurflen Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr - Ffurflen Gais Gychwynnol (Tudalen 1 o 7) (office.com)
    • Mae’r Brifysgol yn cynnig Bwrsariaeth Cysylltedd Digidol i helpu myfyrwyr sy’n methu â fforddio band eang neu sydd ddim â dyfais addas.
    • Mae ffurflen gais y Gronfa Cysylltedd Digidol ar gael yma: Ffurflen Gais Bwrsariaeth Cysylltedd Digidol (Tudalen 1 o 8) (office.com)
    • Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r Brifysgol wedi adolygu ei strwythurau cymorth ac wedi ehangu ein tîm Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu y bydd eich ffurflenni cais yn cael eu hystyried a’u prosesu’n gynt. Dyfernir bwrsariaethau’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr a Chysylltedd Digidol yn wythnosol ac mae’r bwrsariaethau eraill bellach yn cael eu dyfarnu ar ddiwedd pob mis.
    • Cofiwch lawrlwytho eich llythyr eithrio’r Dreth Gyngor o’r Hwb Myfyrwyr. Mae gan fyfyrwyr hawl i gael eithriad os ydyn nhw’n byw ar eu pen eu hunain neu’n byw gyda myfyrwyr eraill. Os yw myfyriwr yn byw gydag eraill nad ydyn nhw’n fyfyrwyr, mae’r eiddo yn gymwys i gael gostyngiad.

    Mae eich llythyr eithrio i’w gael yma: Eithriad Treth Gyngor » Hyb (uwtsd.ac.uk)  

  • Mae’r Brifysgol yn deall mai dim ond hyn a hyn y gall cyllidebu a rheoli arian ei wneud yn yr oes sydd ohoni. Mae ein tîm Cymorth Ariannol wrth law i’ch helpu os ydych yn teimlo y byddech chi’n elwa o adolygu eich cyllideb.

    • Gallwch drefnu cyfarfod ariannol personol gyda Swyddog Cymorth Ariannol trwy anfon e-bost.
    • Mae’r Tîm Cymorth Ariannol wedi casglu cyngor cyllidebu ac wedi cyhoeddi adnoddau defnyddiol sydd ar gael trwy’r porth myfyrwyr. 
    • Gall pob myfyriwr fanteisio ar y cwrs Academy of Money Open Learn a ddatblygwyd gan Martin Lewis, y MoneySavingExpert, a’r Brifysgol Agored.

    Mae’r argyfwng costau byw presennol wedi digwydd oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni, a chyda costau hanfodion eraill wedi codi hefyd, mae’n hynod bwysig eich bod yn cadw rheolaeth dynn ar eich cyllid personol. Rydyn ni’n cynnig cwrs hyfforddi sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ac arweiniad sydd i’w gael ar Hwb.

    • Mae’r Brifysgol wedi lansio ‘Hybiau Bwyd’ ar bob un o’n campysau, sy’n cynnig amrywiaeth o fwydydd ac eitemau bwyd am ddim i fyfyrwyr sydd eu hangen. Mae tegell a microdon ar gael i fyfyrwyr gynhesu’r bwyd a’i fwyta ar unwaith, ac mae bwyd ar gael i’w fynd yn ôl i’w llety, ar neu oddi ar y campws, er mwyn helpu gartref hefyd.
    • Ar gampysau lle mae gan y Brifysgol yn cynnig arlwyo, rydyn ni wedi cymryd camau i sicrhau bod ein prisiau’n aros mor isel â phosibl, gyda phrydau bwyd poeth yn costio £3.60, cynigion pryd brechdan am £3.50, a chawl cartref gyda bara am ddim ond £1. 
    • Llety’r Brifysgol yw’r rhataf o blith brifysgolion Cymru. Mae ein hystafelloedd lleiaf yn costio £100 yr wythnos, ac rydyn mi wedi ymrwymo i rewi’r pris hwn ar gyfer blwyddyn academaidd 23/24. 
  • Mae cefnogi lles emosiynol ein myfyrwyr yn bwysig i’r Brifysgol. Rydyn ni’n deall yr effaith y gall arian ei gael ar les unigol ac ar fyw’n iach. Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi mewn tîm Lles Myfyrwyr newydd ac ar ehangu’r cymorth llesiant sydd ar gael.

    Gallwch weld a defnyddio ein gwasanaethau Llesiant yma.

    Yn ogystal â’n gwasanaethau ein hunain, rydyn ni hefyd yn tanysgrifio i nifer o wasanaethau cymorth allanol ar eich rhan:

    • Mae’r Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr yn bodoli er mwyn rhoi cefnogaeth 24/7 i fyfyrwyr PCYDDS ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cymorth llesiant a materion sy’n ymwneud ag arian a rheoli arian.

    Ffoniwch 0800 028 3766 unrhyw bryd er mwyn siarad â chynghorydd.

    Mae Undeb Myfyrwyr PCYDDS yn cynnig cyfleoedd a chymorth i fyfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys costau byw. Am ragor o wybodaeth am waith Undeb y Myfyrwyr a sut i gymryd rhan, ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr: Undeb Myfyrwyr PCYDDS (uwtsdunion.co.uk)

Offer ac Adnoddau Cyllidebu

Dydy hi ddim yn hawdd byw ar gyllideb myfyriwr a gwneud i’ch benthyciad myfyriwr bara blwyddyn gyfan, p’un ai eich bod yn byw mewn neuadd neu lety myfyrwyr ac yn rheoli eich arian am y tro cyntaf, neu’n fyfyriwr gyda theulu sy’n gorfod adolygu eich cyllideb nawr eich bod yn derbyn Cyllid Myfyrwyr.

Mae’n allweddol gosod cyllideb sy’n ymarferol ac yn realistig yn y man cyntaf.  Gall hyn ei gwneud hi’n haws nodi unrhyw feysydd lle gallech chi dorri’n ôl a gwneud arbedion. 

    1. Costau rhent / llety
    2. Bwyd / Nwyddau ymolchi
    3. Biliau cyfleustodau (nwy / trydan / dŵr / ffôn / rhyngrwyd)
    4. Llyfrau ac offer
    5. Teithio
    6. Argraffu
    7. Gweithgareddau cymdeithasol
    8. Eitemau ar gyfer y cartref
    9. Clybiau Chwaraeon / Cymdeithasol
    10. Profiad gwaith a lleoliadau
    11. Dillad
    12. Digwyddiadau ac anrhegion Pen-blwydd / Nadolig
    13. Costau iechyd, fel triniaeth ddeintyddol / profion llygaid/ meddyginiaeth.
    14. Tanysgrifiadau teledu neu adloniant (e.e. Netflix, Spotify, Disney +)
  • Cam 1: Casglu’r holl ddogfennau perthnasol

    O gyfriflenni banc i’ch Llythyr Cyllid Myfyrwyr; casglwch unrhyw beth a fydd yn rhoi darlun o beth sy’n dod i mewn ac allan o’ch cyfrif.

    Cam 2: Gweithio allan faint rydych chi’n ei gael

    Gweithiwch allan faint o arian sy’n dod i mewn yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys taliadau Cyllid Myfyrwyr yr Hydref, y Gwanwyn a’r Haf, unrhyw incwm o gyflogaeth neu fudd-daliadau ac unrhyw help y gallech fod yn ei gael gan eich teulu. Os ydych chi’n byw gyda phartner, cofiwch gynnwys unrhyw incwm maen nhw’n ei gael o gyflogaeth neu fudd-daliadau. Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os oes gennych chi deulu eich hun, cofiwch y bydd angen i’ch benthyciadau myfyriwr a/neu grantiau ymestyn dros y flwyddyn gyfan, felly dylech rannu’r cyfanswm yr arian rydych chi’n ei gael gan Gyllid Myfyrwyr gyda 12 er mwyn gweithio allan faint fydd gennych chi i’w wario bob mis. (A) 

    Cam 3: Gweithio allan faint rydych chi’n ei wario ar bethau hanfodol

    Gweithiowch allan bob un o’r treuliau hanfodol sy’n dod allan o’ch cyfrif yn ystod y flwyddyn. Dylai hyn gynnwys yr holl bethau hanfodol y mae’n rhaid i chi eu talu, gan gynnwys rhent, bwyd, biliau cyfleustodau, y dreth gyngor (lle bo hynny’n berthnasol), costau ffôn a’r rhyngrwyd, costau cwrs teithio ac ati. (B)

    Cam 4: Cyfrifo faint sydd ar ôl:

    Cyfrifwch faint sydd ar ôl (C) drwy dynnu eich treuliau (B) o’ch incwm (A).

    Cam 5: Ystyred pa bethau sydd ddim yn hanfodol rydych chi’n gwario arnyn nhw bob mis

    Nodwch faint rydych chi’n ei wario ar bethau fel torri gwallt, cymdeithasu, penblwyddi ac ati, yna tynnwch y rhain o’r balans ar ôl costau hanfodol (C)

    Cam 6: Cyfrifo eich lwfans wythnosol

    Mae angen rhannu unrhyw beth sy’n weddill gyda’r nifer o wythnosau y mae angen i’r arian bara (e.e. nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd {38} os ydych chi’n mynd adref i fyw neu i weithio dros y gwyliau, neu nifer yr wythnosau mewn blwyddyn galendr {52} os ydych chi’n byw’n annibynnol). Bydd hyn wedyn yn rhoi lwfans wythnosol sydd ar gael i chi ei wario.

    Dylech gadw rhywfaint o arian wrth gefn rhag ofn bydd argyfwng. Mae’n well goramcangyfrif eich gwariant na rhedeg allan o arian.

Cyfrifiannell Cyllideb UCAS ar ffôn symudol

Offer a Chyfrifianellau Cyllidebu Ar-lein.

Dyma rai o’r apiau a’r adnoddau ar gyfer myfyrwyr sydd ar gael ar hyn o bryd:

  • EMMA
  • MONEYDASHBOARD
  • PLUM
  • SNOOP
Person ar y ffôn ac yn defnyddio gliniadur

Cwrs Cyllidebu Am Ddim

Gall pob myfyriwr fanteisio ar gwrs Academy of Money Open Learn a ddatblygwyd gan Martin Lewis, y MoneySavingExpert, a’r Brifysgol Agored.

“Mae’r argyfwng costau byw presennol wedi digwydd oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni, a chyda costau hanfodion eraill wedi codi hefyd, mae’n hynod bwysig eich bod yn cadw rheolaeth dynn ar eich cyllid personol.Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud hynny.”

Mae’r cyfle hyfforddi hwn yn rhoi hyd at 12 awr o wybodaeth a byddwch yn cael tystysgrif ar ôl ei gwblhau.