Datblygiad Corfforol yn ystod Plentyndod Cynnar
Darganfyddwch sut mae symud o safon yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol er mwyn gosod sylfeini gweithgarwch corfforol, iechyd, llesiant a chanlyniadau academaidd.
Ynglŷn â’n hyfforddiant SKIP-Cymru sy’n seiliedig ar dystiolaeth:
- Mae’r hyfforddiant achrededig wedi’i deilwra ar gyfer pob ymarferydd sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.
- Mae’n datblygu dealltwriaeth fanwl o symud o safon.
- Mae’n grymuso ymarferwyr i ddadansoddi symud a chreu amgylcheddau sy’n cefnogi datblygiad corfforol plant mewn dull cynhwysol sy’n seiliedig ar chwarae.
- Mae’r hyfforddiant yn ddull cyfunol o ymwneud â dysgu ar-lein a gweithdai wyneb yn wyneb.
- Mae SKIP-Cymru (Successful Kinaesthetic Instruction for Pre-schoolers / Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant dan oed Ysgol) yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru.
- Mae SKIP-Cymru wedi’i gynnwys fel astudiaeth achos o arfer da ar gyfer datblygiad proffesiynol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ‘Taith tuag at Gymru Iachach’.
Dylai rhaglenni megis SKIP Cymru gael eu rhoi ar waith ledled y wlad i sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’r Sgiliau Echddygol Sylfaenol hanfodol y mae eu hangen arnynt i’w harfogi ar gyfer blynyddoedd yn ddiweddarach yn eu hoes. (Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, t.53)
Pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig?
Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o anweithgarwch, gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant, dirywiad mewn iechyd a chanlyniadau academaidd gwael.
Gall ymarferwyr o sefydliadau addysg, iechyd, cymunedol a theuluol gefnogi iechyd a llesiant plant drwy ddeall sut...
- Mae angen symud o safon yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygiad corfforol
- Mae symud yn ystod plentyndod cynnar yn creu cysylltiadau yn yr ymennydd ac yn cefnogi lleferydd, iaith a llythrennedd.
- Mae sgiliau symud hanfodol yn sail i weithgarwch corfforol ac iechyd yn ddiweddarach
- Ni chaiff pob sgil ei datblygu drwy chwarae’n unig ac mae angen eu haddysgu mewn ffordd ddatblygiadol briodol i fodloni anghenion penodol pob plentyn
- Mae datblygiad corfforol plant yn hanfodol i hunan-barch, hyder a gwydnwch, gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Pynciau a drafodir ar ein cyrsiau
- Llythrennedd Corfforol
- Arfer Cynhwysol
- Iechyd a Llesiant
- Datblygiad Cynnar
- Integreiddio Synhwyraidd
- Cysyniadau symud
- Egwyddorion SKIP-Cymru
- Datblygiad Echddygol
- Camau Sgiliau Echddygol
- Strategaethau Ymarferol
- Tasgau ac Offer
Ar ein hyfforddiant byddwch yn datblygu dealltwriaeth o:
- Ddatblygiad corfforol o enedigaeth i blentyndod canol gan gynnwys datblygiad plentyndod cynnar, integreiddio echddygol synhwyraidd a cherrig milltir datblygiadol
- Cyfraniad symud i ddatblygiad ehangach plant, gan gynnwys datblygiad gwybyddol, sgiliau cymdeithasol, iaith a chyfathrebu, hunan-barch, hyder a gwydnwch
- Amrywiaeth o ddulliau ar gyfer datblygu geirfa symud eang sy’n cefnogi amrywiaeth ac ansawdd mewn gweithgarwch corfforol
- Damcaniaethau datblygiad echddygol a sut y gallwch gymhwyso’r rhain drwy amrywiaeth o strategaethau yn eich arfer
- Arsylwi a dadansoddi camau datblygiadol sgiliau echddygol plant a llunio barn am yr offer a’r tasgau priodol i gefnogi datblygiad plentyn mewn dull sy’n seiliedig ar chwarae
- Strwythurau a strategaethau clir ar gyfer rheoli grwpiau o blant mewn gweithgarwch corfforol gydag arfer cynhwysol
- Sut i werthuso amrywiaeth o adnoddau a dulliau a’u defnyddio mewn ffordd ddatblygiadol briodol
- Amrywiaeth o strategaethau ar gyfer gweithio gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi datblygiad eu plant gartref.
Holi am ein hyfforddiant
Cliciwch y ddolen hon i gofrestru diddordeb mewn cymryd rhan yn ein hyfforddiant.