Yma gallwch ddarllen ystod o adolygiadau gan benaethiaid, athrawon, cynorthwywyr addysgu ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar eraill sydd wedi mynychu ein hyfforddiant ac sy'n tynnu sylw at yr effaith y mae'n ei wedi'i chael ar eu gwaith.

Derbyniodd yr holl staff yr hyfforddiant Datblygu a Chefnogi Datblygiad Corfforol mewn Plentyndod Cynnar, gan drawsnewid ethos yr ysgol gan fod yr holl staff bellach yn gweld pwysigrwydd symud.   Cafwyd effaith gadarnhaol enfawr ar ddatblygiad echddygol y plant, ond roedd  hyn hefyd yn trosglwyddo i'w brwdfrydedd, eu gallu i ganolbwyntio, eu hymgysylltiad a'u hymddygiad cadarnhaol  mewn  meysydd dysgu eraill.
 Pennaeth, Sir Benfro

Cawsom arolygiad Ofsted, ac arsylwyd fy ngwersi Addysg Gorfforol. Gwnaeth yr ystod o    weithgareddau diddorol a oedd yn darparu ar gyfer holl anghenion y  plant argraff dda ar yr arolygydd arweiniol ac yr oedd ganddi ddiddordeb mewn clywed am fanteision y datblygiad offer priodol ac agweddau eraill ar yr hyfforddiant. Tynnwyd sylw at y sesiwn addysg gorfforol yn adroddiad swyddogol Ofsted; nodwyd ar gyfer datblygu gwybodaeth a sgiliau dwfn.
Athrawes, Lloegr

Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod i wedi mynychu'r cwrs gyda fy nghydweithwyr gan ein bod ni wedi gallu cefnogi ein gilydd a rhannu arfer da.
Athrawes, Casnewydd

Ar ôl dysgu'r un egwyddorion â'r athrawon, rwy'n teimlo'n hyderus i  gefnogi'r plant  gyda'r gweithgareddau a'u haddasu i weddu i wahanol alluoedd.
 Cynorthwyydd addysgu, Abertawe

Harddwch  yr addysgeg gynhwysol a chyfannol hon fu'r rhyddid i addasu pob sesiwn gan gynnwys ffocws a lefel yr her, er mwyn  sicrhau'r  manteision mwyaf posibl i bob disgybl ni waeth beth fo'u  man cychwyn.
Athrawes, Caerfyrddin

Mae  gwenau a chwerthin plant wedi bod yn amlwg o’r dechrau, mae eu diddordeb ac iaith y corff wedi dangos hyder yn eu gweithredoedd a pharodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd sydd wedi bod yn wir gwella eu symud a'u trosglwyddo i bopeth y maent yn ei wneud.
Athrawes, Sir Benfro

Yn wahanol i wersi addysg gorfforol mwy traddodiadol, lle mae'r ffocws ar dechneg chwaraeon benodol sy'n gystadleuol ei natur, mae defnyddio'r gerddi yn lle hynny yn caniatáu dull amlgamp hyblyg sydd wedi galluogi addasiadau hawdd i ddiwallu anghenion a galluoedd pob disgybl a chreu amgylchedd mwy cynhwysol.
Athrawes, Abertawe

Rwy wedi dechrau sylwi’n fwy ar anghenion datblygiadol y plant, a'r ffyrdd y  galla i integreiddio cyfleoedd  iddyn nhw ddatblygu eu gallu i integreiddio synhwyrau sydd wedi gwella eu datblygiad  corfforol.
 Athrawes Feithrin, Casnewydd

Mae athrawes ddosbarth y plant yn teimlo bod y sesiynau'n cael effaith enfawr ar eu lles a bod y plant yn canolbwyntio’n fwy ar yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu ac yn cymryd rhagor o ran yn y broses. 
 Rheolwr Datblygu Chwaraeon, Ynys Môn