Dyma gyfres newydd sbon o gyrsiau astudio gartref ar bynciau cyffrous i unrhyw fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 eu harchwilio yn eu hamser eu hunain.
Gyda deunyddiau wedi'u dewis a'u hysgrifennu gan ddarlithwyr PCDDS mae pob un o'r cyrsiau byr hyn yn cymryd tua chwe wythnos i'w cwblhau gydag awr o astudio yr wythnos.
Mae myfyrwyr yn dilyn cynnwys y cwrs ar-lein, gyda dolenni diogel i ddeunyddiau ymchwil pellach, sgyrsiau fideo byr a thasgau bach diddorol. Mae aseiniad terfynol i fyfyrwyr ei gwblhau ar ddiwedd y chwe wythnos.
Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu profiad dysgu pleserus, di-straen sy'n rhoi blas ar waith ar lefel prifysgol.
Rydym ni’n argymell bod myfyrwyr yn dewis un cwrs i’w ddilyn a chymryd y chwe wythnos lawn i ddatblygu eu gwybodaeth a'u syniadau.