Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Cyn-Brifysgol   -  Cyfnod Allweddol 3  -  Cyflwyniad i Adrodd Straeon: dod yn Wneuthurwr Ffilmiau

Cyflwyniad i Adrodd Straeon: dod yn Wneuthurwr Ffilmiau

Gyda Timi O'Neil, Darlithydd Gwyddoniaeth a Chelf mewn Ffilm a Theledu PCYDDS

Mae'r cwrs yn gyflwyniad i fyd adrodd straeon a'i ddefnydd wrth wneud ffilmiau. Mae deall sut mae stori'n gweithio nid yn unig yn hanfodol i greu ffilmiau, mae’n ddechrau, canol a diwedd. Heb stori, nid oes ffilm. Yn hytrach, mae casgliad o ddelweddau a seiniau sydd heb yr elfen bwysicaf honno... ystyr.

Yn ystod y 6 gwers, byddwn yn eich cyflwyno i fyd adrodd straeon gyda'r nod o'ch gwneud yn hyderus wrth wneud eich ffilm fer eich hun. Byddwch yn dysgu sut i greu cymeriadau, cynhyrchu iaith weledol a golygu'r rhain i lefel broffesiynol.