Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Cyn-Brifysgol   -  Cyfnod Allweddol 3  -  Josef Herman: Cymru mewn Darluniau a Geiriau

Josef Herman: Cymru mewn Darluniau a Geiriau

Gyda Gwenllian Beynon, Uwch Ddarlithydd Gwyddoniaeth a Chelf PCYDDS

Mae cyfres o gyrsiau PCDDS ar gyfer dysgwyr o dan 16 oed yn gyfres newydd sbon o bynciau cyffrous i fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 eu harchwilio yn hamddenol.

Er mai celf yw thema ganolog y cwrs hwn, cewch eich gwahodd i ymateb i waith yr artist Josef Herman mewn sawl ffordd ac ar draws disgyblaethau, er enghraifft ysgrifennu, archwilio arlliwiau, graddfa a chyfansoddiad. Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cynhyrchu darn byr o waith yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu, ac yn olaf byddwch yn dod â'ch holl waith at ei gilydd mewn portffolio digidol.

Cyflwynir y cwrs hwn mewn 6 sesiwn

  1. Cyflwyniad: Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno'r cwrs a'r artist Josef Herman. Byddwch yn arbrofi gyda gwneud marciau darlunio a mapio syniadau.
  2. Gwaith Josef Herman yn Ystradgynlais: Bydd y sesiwn hon yn archwilio pwysigrwydd lle i Josef Herman, gan ganolbwyntio ar ei luniau o Ystradgynlais, De Cymru.
  3. Cofio a Siwrnai: Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r siwrnai y bu’n rhaid i Josef Herman ei chymryd i adael Gwlad Pwyl, gan gyrraedd De Cymru yn y pen draw. Byddwch yn ystyried siwrnai yn ddychmygus ac yn ffeithiol.
  4. Roedd ‘na ofod: Yn y sesiwn hon byddwch yn arbrofi gyda thonau ac yn archwilio gofod, siâp, raddfa a chyfansoddiad.
  5. Nodiadau o Gymru: Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o waith Herman mewn casgliadau a byddwch yn ystyried ei luniau a'i ysgrifennu.
  6. Gwneud eich gwaith eich hun: Yn y sesiwn hon byddwch yn datblygu eich syniadau i gynhyrchu darn o waith a hefyd byddwch yn Casglu'ch holl waith mewn Portffolio.