Mae’r brifysgol yn cynnig y graddau ymchwil a ganlyn:
- Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)
- Meistr mewn Ymchwil (Mhres)
- Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
- Doethur Athroniaeth drwy Waith Cyhoeddedig
- Doethuriaethau Proffesiynol
Am fanylion meysydd diddordeb, arbenigedd a chyhoeddiadau aelodau’r staff, ewch i'r dudalen meysydd diddordeb neu dudalennau’r Ysgol Academaidd
Rydym yn argymell bod darpar fyfyrwyr yn cysylltu ag Ysgol neu Gyfadran berthnasol eu maes pwnc am drafodaeth anffurfiol ynghylch eu cynnig ymchwil cyn gwneud cais ffurfiol. Drwy hyn, byddwn y gallu gweld a oes aelod o staff ar gael a fyddai'n gallu goruchwylio eich ymchwil.
Cwblhewch y ffurflen gais isod neu cysylltwch ag RegistryPGR@uwtsd.ac.uk.
Cais i astudio ar gyfer Gradd Ymchwil Ôl-raddedig
Rhaid cefnogi pob ffurflen gais gan y dogfennau perthnasol, gan gynnwys geirdaon, pasbort a thystysgrifau cymwysterau, i sicrhau y gellir ei phrosesu mewn da bryd ar gyfer y dyddiad cofrestru gofynnol. Efallai y bydd oedi yn y broses ymgeisio os nad yw’r holl ddogfennau wedi’u cynnwys.
Mae yna 3 phwynt derbyn y flwyddyn ar gyfer ymgeiswyr ymchwil ac fe ddylech gyflwyno’ch cais i’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig cyn y dyddiad cau perthnasol. Rydym yn argymell bod pob ymgeisydd yn cysylltu â’r Ysgol neu Gyfadran cyn gwneud cais i drafod eu cynnig ymchwil a sicrhau bod yna arbenigedd academaidd priodol ar gyfer eich maes pwnc.
- Dyddiad dechrau: 01 Hydref - Gwnewch gais cyn: 01 August
- Dyddiad dechrau: 01 Chwefror - Gwnewch gais cyn: 01 Tachwedd
- Dyddiad dechrau: 01 Mehefin - Gwnewch gais cyn: 01 Ebrill
Ar hyn o bryd cynigir y Rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes ar gampws Llundain fel rhaglen lawn amser. Mae hon yn rhaglen boblogaidd â nifer cyfyngedig o leoedd ac felly dylech wneud eich cais cyn gynted â phosibl i’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig os hoffech wneud cais am ddyddiad cychwyn penodol.
Cynigir y DBA yn rhan amser hefyd yn Abertawe. Sylwer nad yw’r opsiwn rhan amser ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Mae’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn integreiddio astudiaethau lefel ddoethuriaeth rhan amser gydag arfer proffesiynol parhaus. Mae’n rhaglen rhan amser ar gyfer y rheiny sydd mewn gwaith, ac yn ffordd ddelfrydol o astudio ar lefel doethuriaeth wrth gynnal ymrwymiadau proffesiynol. Mae’r rhaglen ar agor i ymarferwyr a chanddynt o leiaf pum mlynedd o brofiad mewn rôl broffesiynol sylweddol, ac sy’n meddu ar radd ail ddosbarth uwch, yn ogystal â gradd meistr neu gyfwerth hefyd, yn ddelfrydol.
Cydrannau Rhaglenni
Rhan 1 (hyd tua 2 flynedd, rhan amser):
Dyma ran y rhaglen a addysgir, ac fe’i cyflwynir drwy weithdai preswyl (fel arfer, 3 gweithdy pedwar diwrnod y flwyddyn, a gynhelir ar gampws Llambed), wedi’i gefnogi gan ddysgu.
Mae Rhan 1 yn cynnwys dau fodwl Lefel 7 30 credyd:
- ‘Ymagweddau at Ymchwil a Chyfathrebu Academaidd’
- ‘Adolygiad o Ddysgu Proffesiynol’
Mae modylau dewisol pellach sydd ar gael yn caniatáu ichi astudio agweddau ansoddol a meintiol mwy manwl o fethodoleg ymchwil, ynghyd ag agweddau ar ddysgu proffesiynol. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr a chanddynt hyfforddiant helaeth mewn dulliau ymchwil wneud cais i ymuno â'r rhaglen ar lefel uwch a gall hyn gwtogi ar y cyfnod astudio cyffredinol, a lleihau costau.
Rhan 2 (hyd tua 4 blynedd, rhan amser):
Dyma ran allweddol y rhaglen sy'n ffocysu ar ymchwil, ac mae cymorth academaidd wedi'i seilio ar gyswllt goruchwylio misol, naill ai mewn person, neu dros y ffôn neu ddulliau cyfathrebu ar-lein.
Mae hyn yn cynnwys dau fodwl Lefel 8 gorfodol:
- ‘Cynnig Ymchwil Ymarferydd Uwch' (30 credyd)
- ‘Prosiect ymchwil seiliedig ar waith’ (330 credyd; 60,000 o eiriau)
Hyd yma, mae pob grŵp DProf wedi dechrau’r rhaglen ym mis Chwefror/Mawrth, a chynhelir gweithdai preswyl fel arfer ar ddechrau mis Mawrth, dechrau Mehefin, canol mis Hydref.
Ffioedd
Mae ffioedd y radd yn amodol ar nifer y credydau safon uwch y gellir eu derbyn. Bydd y ffioedd yn cael eu trafod gydag ymgeiswyr yn unigol.
Sut i Wneud Cais
- Trafodwch eich cais a'ch syniadau prosiect gydag Athrofa Dysgu Seiliedig ar Waith Cymru
- Ewch i'r ffurflen gais ar-lein, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r rhaglen, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn Athrofa Academi Cymru ar Gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol:
Dr Christine Davies
e-bost: Christine.davies@uwtsd.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1267 225148
Mae’r manylion uchod ar gael i’w lawrlwytho fel ffeil PDF
Mae’r ddoethuriaeth hon yn canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, ecwiti, amrywiaeth, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Gellir archwilio materion o’r fath, wrth gwrs, o fewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, gan gynnwys, er enghraifft, gwaith/ cyflogaeth, cyd-destun cymdeithasol a theuluol a’r gymuned ehangach. Croesawn fynegiannau o ddiddordeb a byddem yn hapus i drafod eich syniadau cyn i chi gyflwyno’ch cais.