Cyfrifiadura Cwmwl - BSc (Anrh), HND, HNC, Mynediad Sylfaen
Mae’r cwrs Cyfrifiadura Cwmwl yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw systemau gwybodaeth a chymwysiadau a yrrir gan ddata o ansawdd uchel.
Byddwch yn dysgu am ddylunio cronfeydd data, creu, gweinyddu a datblygu cymwysiadau a yrrir gan ddata. Yn ogystal, byddwch yn defnyddio dulliau ystadegol i ddadansoddi a delweddu data, datblygu sgiliau mewn cloddio data a’r defnydd o dechnolegau canolfan ddata.
Mae’r cwrs hwn yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth; mae’r arbenigedd a sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatrysiadau rhwydwaith peirianneg yn rhan o dîm yn ddymunol iawn gan gyflogwyr.
Mae Cyfrifiadura Cwmwl yn arbenigedd o rwydweithio cyfrifiadurol sy’n ymwneud â rheolaeth data mawr mewn canolfannau data, delweddu a darparu gwasanaethau cwmwl.
Fel arfer bydd gan y rheiny sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon feddylfryd technegol ac efallai eu bod wedi astudio peirianneg, cyfrifiadura neu’r gwyddorau o’r blaen
Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol ond gan arbenigo mewn meysydd fel delweddu a’r systemau cyfrifiadurol a ddefnyddir mewn canolfannau data sy’n cefnogi gwasanaethau cwmwl.
Bydd hefyd ganddynt ddiddordeb mewn cronfeydd data a datblygu dealltwriaeth o reoli a dadansoddi data mawr, a gweithredu gwasanaethau cwmwl.
Bydd gan y rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon ddiddordeb mewn rhwydweithio cyfrifiadurol a datblygiad cymwysiadau rhwydwaith ac yn debygol o fod â pheth profiad o raglennu gwe.
Bydd myfyrwyr yn astudio cydbwysedd o fodylau seiliedig ar themâu technolegau storio data a gwasanaethau cwmwl yn cynnwys darparu a defnyddio’r gwasanaethau hynny.
Caiff data ar raddfa fawr ei storio mewn canolfannau data a gyda gwasanaethau wedi’u rhwydweithio a ddarperir drwy ddefnyddio technolegau delweddu, av mae “data mawr” yn galw am nifer o wahanol ddulliau cymhwyso penodol o ran storio a dadansoddi.
Hefyd, bydd graddedigion yn gallu gweithredu gwasanaethau i ddarparu data i’w drin a’i drafod a’i ddadansoddi gan amrywiaeth o gymwysiadau y byddant hefyd yn gallu eu datblygu.
Gall graddedigion y rhaglen hon ddisgwyl ceisio cyflogaeth fel dadansoddwr data, datblygwr cymwysiadau, peiriannwr canolfan data, ayb.
Pynciau Modwl
Lefel 4 HNC
- Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiaduron
- Dadansoddi a Delweddu Data
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol
- Hanfodion Rhwydweithiau a Seiberddiogelwch
- Datblygu Meddalwedd
Lefel 5 HND
- Rhwydweithio Uwch
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth
- Pensaernïaeth Cyfrifiadura Cwmwl
- Diogelwch Data, Llywodraethu a Dulliau Ymchwil
- Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith
- Rhaglenadwyedd Rhwydwaith
Lefel 6 BSc
- Seiberddiogelwch Uwch
- Gweinyddiaeth Cyfrifiadura Cwmwl
- Tueddiadau sy’n dod i’r Amlwg
- Prosiect Annibynnol
- Switsio, Llwybro a Diwifr
Asesu
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol cyfrifiadura a datblygiad systemau gwybodaeth . Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i siapio ar gyfer cyflogadwyedd a datblygiad sgiliau diwydiant trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, profion ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad.
Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir a chwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.