Datblygu Meddalwedd Cwmwl - BSc (Anrh), HND, HNC, Mynediad Sylfaen
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dod yn beirianwyr meddalwedd gyda ffocws penodol ar gymwysiadau sy’n rhedeg yn yr isadeiledd Cyfrifiadura Cwmwl.
Bydd gan fyfyrwyr y rhaglen hon ddiddordeb mewn datblygu cymhwysiad dibynadwy a all ehangu’n gyflym ar gyfer mentrau. Mae’r cysyniadau craidd yn cynnwys delweddu ac amlwytholi.
Mae Datblygu Meddalwedd Cwmwl yn arbenigedd o beirianneg meddalwedd sy’n ymwneud â rheoli data mawr mewn canolfannau data, delweddu a darparu gwasanaethau cwmwl.
Fel arfer bydd gan y rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon feddylfryd technegol, ac efallai y byddant wedi astudio peirianneg, cyfrifiadura neu’r gwyddorau o’r blaen.
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn peirianneg meddalwedd ond gan arbenigo mewn meysydd fel delweddu a’r systemau cyfrifiadura a ddefnyddio mewn canolfannau data sy’n cefnogi gwasanaethau yn y cwmwl.
Byddai hefyd ganddynt ddiddordeb mewn cronfeydd data a datblygu dealltwriaeth o reoli a dadansoddi data mawr, a gweithredu gwasanaethau cwmwl.
Bydd gan y rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon ddiddordeb mewn peirianneg meddalwedd a datblygu cymwysiadau wedi’u rhwydweithio ac yn debygol o fod â pheth profiad o raglennu.
Bydd myfyrwyr yn astudio cydbwysedd o fodylau seiliedig ar themâu technolegau storio data a gwasanaethau cwmwl yn cynnwys darparu a defnyddio’r gwasanaethau hynny.
Caiff data ar raddfa fawr ei storio mewn canolfannau data a gyda gwasanaethau wedi’u rhwydweithio a ddarperir drwy ddefnyddio technolegau delweddu, ac mae “data mawr” yn galw am nifer o wahanol ddulliau cymhwyso penodol ar gyfer storio a dadansoddi.
Bydd graddedigion hefyd yn gallu gweithredu gwasanaethau i ddarparu’r data hwn i’w drin a thrafod a’i ddadansoddi gan amrywiaeth o gymwysiadau y byddant hefyd yn gallu ei ddatblygu.
Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon geisio cyflogaeth fel datblygwr cymwysiadau, peiriannwr canolfan data, peiriannwr meddalwedd, ayb.
Pynciau Modwl
Lefel 4 (BSc/HND/HNC)
- Pensaernïaeth Cyfrifiadurol a Systemau Gweithredu
- Dadansoddi Data a Delweddu
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol
- Hanfodion Rhwydweithiau a Seiberddiogelwch
- Datblygu Meddalwedd
Lefel 5 (BSc/HND)
- Pensaernïaeth Cyfrifiadura Cwmwl
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth
- Diogelwch Data, Llywodraethu a Dulliau Ymchwil
- Cronfeydd Data a Datblygu Cymwysiadau
- Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith
- Rhaglenni ac Algorithmau seiliedig ar Wrthrychau
Lefel 6 (BSc)
- Gwasanaethau Gwe yn y Cwmwl
- Tueddiadau sy’n dod i’r Amlwg
- Prosiect Annibynnol
- Egwyddorion ac Arfer Peirianneg Meddalwedd
- Rhaglennu a Natur Cydamseru Socedi
Asesu
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad cyfrifiadura a systemau gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i siapio ar gyfer cyflogadwyedd trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, profion ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad.
Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir a chwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.