Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) - BSc (Anrh)
Systemau cronfa ddata sydd wrth wraidd systemau gwybodaeth modern.
Bydd graddedigion y rhaglen hon yn defnyddio eu harbenigedd i ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw datrysiadau arloesol seiliedig ar gyfrifiaduron i gefnogi isadeiledd technolegol sefydliadau cyfoes.
Bydd graddedigion y rhaglen hon yn dysgu i ddylunio, creu a gweinyddu cronfeydd data a datblygu rhaglenni i ddatblygu cymwysiadau a yrrir gan ddata. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau yn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r seilwaith sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach a chaniatáu hyblygrwydd i drosglwyddo dros lwybrau ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu rhagor o fanylion ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n rhoi ffocws ar gyfer eich astudiaethau.
Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw systemau gwybodaeth o ansawdd uchel a chymwysiadau a yrrir gan ddata.
Byddwch yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar ddatblygwr a rhaglennydd systemau gwybodaeth i greu atebion i broblemau mawr a chymhleth. Mae’r arbenigedd a sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatrysiadau peirianneg feddalwedd fel rhan o dîm yn ddymunol iawn gan gyflogwyr.
Pynciau Modwl
Modylau Lefel 4 - BSc/HND/HNC
- Pensaernïaeth Cyfrifiadurol a Systemau Gweithredu (20 credyd)
- Dadansoddi Data a Delweddu (20 credyd)
- Cyflwyniad i Gysyniadau’r WE a Chronfeydd Data (20 credyd)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd)
- Hanfodion Rhwydweithiau a Seiberddiogelwch (20 credyd)
- Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
Modylau Lefel 5 - BSc/HND
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd)
- Diogelwch Data a Chydymffurfiaeth (20 credyd)
- Datblygu Cronfeydd Data a Chymwysiadau (20 credydau)
- Systemau Gwybodaeth Daearyddol (20 credydau)
- Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith (20 credydau)
Modylau Lefel 6 - BSc
- Prosiect Annibynnol (40 credyd)
- Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannau (20 credyd)
- Warysu Data a Chloddio Data (20 credyd)
- Tueddiadau sy’n dod i’r Amlwg (20 credyd)
- Peirianneg Defnyddioldeb (20 credyd)
Asesu
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad cyfrifiadura a systemau gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i siapio ar gyfer cyflogadwyedd ac i ddatblygu sgiliau diwydiant trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, profion ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir a chwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.