Mae cyfrifiaduron wrth wraidd bywyd modern. Mae peirianwyr meddalwedd yn defnyddio eu harbenigedd i ddylunio a gweithredu cynhyrchion cyfrifiadurol arloesol i gyfoethogi’r ffordd rydym yn byw heddiw ac yfory.
Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yn dysgu i raglennu a sut i ddylunio a datblygu datrysiadau a chymwysiadau cyfrifiadurol newydd.
Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw datrysiadau meddalwedd o ansawdd uchel. Bydd y myfyriwr yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar raglennwr proffesiynol i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth. Mae’r arbenigedd a sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatrysiadau peirianneg feddalwedd fel rhan o dîm yn ddymunol iawn gan gyflogwyr.
Pynciau Modwl
Modylau Lefel 4 – BSc/HND/HNC
- Pensaernïaeth Cyfrifiaduron a Systemau Gweithredu (20 credydau)
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfa Ddata (20 credydau)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd)
- Mathemateg (20 credyd)
- Hanfodion Rhwydweithiau a Seiberddiogelwch (20 credyd)
- Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
Modylau Lefel 5 - BSc/HND
- Datblygu Meddalwedd Uwch (20 credyd)
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd)
- Datblygu Cronfeydd Data a Chymwysiadau
- Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data (20 credyd)
- Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith (20 credyd)
- Egwyddorion Peirianneg Meddalwedd a Phrofi (20 credyd)
Modylau Lefel 6 - BSc
- Prosiect Annibynnol (40 credyd)
- Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannau (20 credyd)
- Gwasanaethau Gwe yn y Cwmwl (20 credyd)
- Tueddiadau sy’n dod i’r Amlwg (20 credyd)
- Rhaglennu a Natur Cydamserol Socedi (20 credyd)
Asesu
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i siapio ar gyfer cyflogadwyedd a datblygiad sgiliau diwydiant trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, profion ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir a chwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.