Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch) - BSc (Anrh)

A figure in a hoody works on a laptop under a dark blue light. Words related to cybercrime visible on his hoody.

Yn y byd rhyng-gysylltiedig sydd ohono, mae Seiberdrosedd yn effeithio ar bob defnyddiwr. I ddeall Seiberddiogelwch yn llawn, dylai bod gan unigolion sgiliau Rhwydweithio cryf.

Mae’r rhwydweithiau’n ein galluogi i fyw, gweithio, cyfathrebu a symud yn rhydd heb ffiniau. Datblygwyd y rhaglen hon i addysgu ichi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa mewn rhwydweithio neu seiberddiogelwch.

Mae’r Drindod wedi bod yn academi Cisco ers 1999 ac yn bartner Academi Cyngor CE ers 2018. Ni yw’r unig brifysgol sy’n cynnig y rhaglen unigryw hon sy’n cwmpasu cwricwlwm CCNA Llwybro a Switsio, CCNA Seiberweithrediadau ac ardystiad Ymchwilydd Fforenseg Hacio Cyfrifiadurol (CHFI) y Cyngor CE o fewn y rhaglen radd. Gennym ni mae labordy rhwydweithio a seiberddiogelwch gorau Cymru.

Nod y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth a sgiliau trylwyr ym maes arbenigol rhwydweithio. Bydd myfyrwyr yn defnyddio eu harbenigedd i ddylunio, gweithredu a chywiro diffygion isadeiledd rhwydwaith. Mae’r Ysgol yn Academi Cisco, yn Ganolfan Cefnogi Academi a Chanolfan Hyfforddi Hyfforddwyr. Mae’r Ysgol wedi bod yn darparu rhaglen Academi Rhwydweithio Cisco ers 1999.

Mae’r rhaglen israddedig yn cael ei chyfuno gyda chwricwlwm Cysylltiol Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA). Cisco yw prif weithgynhyrchwr dyfeisiau rhwydwaith y byd ac mae’r CCNA yn gymhwyster proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant rhwydweithio.

Pynciau’r Modwl

Modylau Lefel 4 - BSc/HND/HNC

  • Pensaernïaeth Cyfrifiadurol a Systemau Gweithredu (20 credyd)
  • Dadansoddi Data a Delweddu  (20 credyd)
  • Cyflwyniad i Gysyniadau’r We a Chronfeydd Data (20 credyd)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd)
  • Hanfodion Rhwydweithiau a Seiberddiogelwch (20 credyd)
  • Datblygu Meddalwedd (20 credyd)

 Modylau Lefel 5 - BSc/HND

  • Rhwydweithio Uwch (20 credyd)
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Gwerth Creu (20 credyd) 
  • Fforenseg Cyfrifiadurol (20 credyd)
  • Diogelwch Data a Chydymffurfiaeth (20 credyd)
  • Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydweithiau (20 credyd)
  • Rhaglenadwyedd Rhwydweithiau (20 credyd)

Modylau Lefel 6 - BSc

  • Prosiect Annibynnol (40 credyd)
  • Seiberddiogelwch Uwch (20 credyd)
  • Tueddiadau sy’n dod i’r Amlwg (20 credyd)
  • Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomatiaeth (20 credyd)
  • Switsio, Llwybro a Diwifr (20 credyd)

Asesu

Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol isadeiledd rhwydweithiau. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i siapio ar gyfer cyflogadwyedd a datblygiad sgiliau diwydiant trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o brofion ymarferol mewn labordai, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir a chwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.