Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Ymarfer Gofal Iechyd (Dip AU, Tyst AU)

Ymarfer Gofal Iechyd (Dip AU, Tyst AU)(2024)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Yn amodol ar ddilysu

Mae Tyst AU a Dip AU Ymarfer Gofal Iechyd wedi'u cynllunio i alluogi unigolion sy'n dyheu am weithio mewn proffesiwn sy'n ymwneud â gofal iechyd, i gwblhau cymhwyster ffurfiol cydnabyddedig ar lefel pedwar (TystAU) neu lefel pump (DipAU). 

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gofal tosturiol a datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen yn sail i ymarfer effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Cewch chi gipolwg ar agweddau allweddol ar ymarfer gofal iechyd gan gynnwys gweithio integredig, ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a datblygiad proffesiynol, wrth archwilio hefyd gysyniadau a damcaniaethau biolegol, cymdeithasol a seicolegol sylfaenol. 

Mae'r rhaglenni'n darparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwyster sy'n cynyddu tebygolrwydd ymgeiswyr gradd o gael mynediad i'w gradd dewis cyntaf. Wrth astudio mae myfyrwyr yn parhau i wneud cais i'w rhaglen gradd ddewisol ac yn gadael cwrs Y Drindod Dewi Sant ar ddiwedd blwyddyn un neu ddau yn dibynnu ar bryd y byddan nhw'n ennill eu lle.

O 2024 ymlaen, bydd y cwrs hwn yn disodli ein cyrsiau Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd presennol (yn amodol ar ei ddilysu) 

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Tyst AU Ymarfer Gofal Iechyd 
Cod UCAS – HCP6

Dip AU Ymarfer Gofal Iechyd 
Cod UCAS – HCP5

Cynigir pob rhaglen yn llawn amser a rhan amser.

Rydym hefyd yn cynnig dau opsiwn ar gyfer astudio dros dwy a thair blynedd – mae hyn yn amodol ar lefel cyfredol eich cymwysterau a phrofiad cyflogaeth.

Mae cwblhau rhaglen dwy flynedd yn llwyddiannus yn arwain at flwyddyn astudio ‘atodol’ diamod er mwyn i chi ennill eich BSc.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: donna.morgan@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Cyflogadwyedd wrth wraidd ein rhaglen, o ystyried ein ffocws ar ddatblygu ymarferwyr gofal iechyd tosturiol ac arloesol.

  • Mae'r strategaeth dysgu ac addysgu ar gyfer y rhaglen yn un sy'n cael ei llywio gan waith ymchwil ac wedi'i seilio ar ymarfer ac mae wedi'i mapio i ystod o gymwyseddau a sgiliau proffesiynol perthnasol

  • Mae gan yr holl staff addysgu gysylltiadau agos gyda diwydiant, maent yn neu wedi bod yn ymarferwyr wrth eu gwaith a/neu yn meddu ar ddyfarniadau cyrff proffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o brofiad diwydiant nyrsys cymwys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n dysgu ar y rhaglen. Mae cyfuniad o’u canfyddiadau proffesiynol a’u trylwyredd academaidd yn sicrhau bod yr hyn a ddysgwch bob amser wedi’i yrru gan ymarfer a’i lywio gan ymchwil. 

Bydd cwblhau’r Dystiolaeth Addysg Uwch/Diploma Addysg mewn Ymarfer Gofal Iechyd, yn eich galluogi i ddilyn gyrfa sy’n gysylltiedig ag iechyd; gwnewch gais am raglenni hyfforddiant proffesiynol pellach megis nyrsio cyn-gofrestru, bydwreigiaeth, gofal iechyd perthynol, gwyddor barafeddygol neu ewch ymlaen i astudiaethau pellach yn un o’n rhaglenni gradd (BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc, BSc Rheolaeth Iechyd a Gofal).

Pynciau Modylau

Blwyddyn 1 – Lefel 4 – Tyst AU

  • Cyfathrebu a Chwnsela (20 credyd)
  • Cyflwyniad i Ymchwil Iechyd (20 credyd)
  • Cyflwyniad i Ffisioleg y Corff (20 credyd)
  • Rheoli Sefydliadau ym maes Nyrsio (20 credyd)
  • Datblygiad Personol ac Academaidd ym maes Nyrsio (20 credyd)
  • Ymgysylltu â Diwydiant a Phroffesiynoldeb (20 credyd)
  • Cymraeg yn y gweithle (yn amodol ar ei ddilysu) 

Blwyddyn 2 – Lefel 5 - Dip AU

  • Dysgu Cydweithredol ar Waith (20 credyd)
  • Gofal Cymunedol (20 credyd)
  • Byw’n Dda: Yr Unigolyn Hŷn mewn Cyd-destun (20 credyd)
  • Ffisioleg y Corf fyn cynnwys Maetheg (20 credyd)
  • Seicopatholeg ac Ymatebion Therapiwtig mewn Iechyd (20 credyd)
  • Hybu Iechyd Cyhoeddus (20 credyd)
  • Ymarfer Gofal Iechyd yng Nghymru (yn amodol ar ei ddilysu) 

Mae pob modwl yn orfodol.

Asesiad

Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.

Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.

Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.

  • Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
  • Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
  • Cyflwyniadau
  • Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
  • Prosiectau ymchwil
  • Blogiau adfyfyriol
  • Mentora gan gymheiriaid
  • Beirniadaeth fideo
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Profiad gwaith/lleoliadau.

Dolenni perthnasol

Campws Busnes Abertawe


Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?

Gwybodaeth allweddol

Staff
  • Tania Davies
  • Karen Hudson
  • Neil Hapgood
  • Joanna Fender
  • Ben Duxbury
Meini Prawf Mynediad

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.

Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.

  • Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
  • Os ydych chi’n siarad Cymraeg
  • Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
  • Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
  • Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.

Angen DBS Manwl Plant ac Oedolion  

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.

Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.

I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.

Costau Ychwanegol

Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Dyfyniadau Myfyrwyr

“Mae’r cwrs wedi helpu i gyrraedd fy nodau addysgol ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i mi ddod o hyd i’m lle ar fy ngradd. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel.”

Nanteos Phillips


“Mae wedi fy helpu i gael y graddau yr oedd arna i eu hangen i ddechrau fy ngradd nyrsio. Roeddwn i wrth fy modd â chwnsela, anatomi a’r cyfle i wneud ymarfer gweithle. Os oes awydd didwyll arnoch i wireddu’r amcanion sydd wrth eich calon, bydd y cwrs hwn yn ddigon i’ch gwthio chi ymhellach.”

Sharde Dovaston


“Cwrs anhygoel gyda’r grŵp gorau o ddarlithwyr y mae pob un yn gyfeillgar, agos atoch, cefnogol a hynod ddeallus a gwybodus. Ni fyddwn i yn y sefyllfa’r ydw i ynddi ar hyn o bryd, gan ddechrau fy ngradd ym mis Medi, heb y cwrs hwn. Mwynheais bob agwedd, a’m hoff fodylau oedd y rhai ar arweinyddiaeth a threfnu, cyfathrebu a chwnsela a ffisioleg/anatomi.”

Eleise Evans


“Diolch i’m darlithwyr a’r staff. Roedd bob amser yn hawdd mynd atyn nhw ac roedden nhw’n gefnogol iawn. Rwy wedi cyfarfod â phobl arbennig a gwneud ffrindiau arbennig gydol fy amser ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. “

Eva Castro Jara


“Rwy wedi cael blas ar y cwrs hwn, heb os gwnaeth i mi ddeall mwy amdana i fy hun ac eraill o’n cwmpas.”

Kirsty Briscoe


“PEIDIWCH Â CHEFNU AR EICH DYHEADAU!”

Sally Gordon


“Bydd y cwrs hwn yn arwain at fwy o gyfle a gwybodaeth ynghylch eich dyfodol.”

Sophie Webb


Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth Pellach