Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig y Ddoethuriaeth Broffesiynol i ymarferwyr profiadol allu cael cymhwyster Lefel 8. Dyfernir y cymwysterau wedi i’r ymgeisydd gwblhau cyfres o fodylau a addysgir a phrosiect ymchwil seiliedig ar waith 60,000 o eiriau yn llwyddiannus.

Mae’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn integreiddio astudiaethau rhan-amser ar lefel doethuriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae’n ffordd ddelfrydol o sicrhau doethuriaeth wrth gynnal ymrwymiadau proffesiynol.

Mae’r Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA) yn Ysgol Fusnes Abertawe yn gyfle cyffrous i reolwyr profiadol wella ar eu cymwysterau, gan gyfuno ymchwil a gweithgareddau adfyfyriol ymarferol.

Mae’r DBA yn cynnig doethuriaeth berthnasol a hydrin i reolwyr sydd efallai yn teimlo nad yw’r PhD traddodiadol yn addas i’w hanghenion gyrfa a’u huchelgeisiau. Mae'r elfen adfyfyrio ar arfer proffesiynol yn gwneud y ddoethuriaeth broffesiynol yn wahanol i ddyfarniad PhD.

Mae’r rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol yn cynnig i ymarferwyr proffesiynol yn y Saesneg a llenyddiaeth Saesneg gyfle i ennill cymhwyster ymchwil ar lefel doethurol sy’n gysylltiedig â’u maes gwaith neu arbenigedd proffesiynol.

Mae doethuriaeth broffesiynol yn gyfwerth â PhD trwy Ymchwil traddodiadol o ran y cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth y mae disgwyl i ymgeisydd ei wneud mewn maes penodol, ond mae’n cynnwys rhan a addysgir yn ogystal â’r ymchwil estynedig y bydd pob myfyriwr yn ei gynnal.

Bydd myfyrwyr y rhaglen hon yn cwblhau chwe modwl sy’n cwmpasu meysydd addysg, llenyddiaeth ac ieitheg yn y Saesneg, cyn dechrau ar brosiect ymchwil sy’n gysylltiedig â’u diddordebau a phrofiad proffesiynol. Dyfernir teitl Doethur Addysg yn y Saesneg (DELE) i raddedigion y rhaglen.

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg yn rhaglen hyblyg a fydd yn eich caniatáu i ymgymryd ag ymchwil addysgol uwch, sy’n benodol i’ch maes gwaith a/neu ddiddordebau eich hun.  Cewch eich cefnogi drwy gydol y rhaglen gan dîm uchel eu parch o ymarferwyr a staff academaidd. 

Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgol neu swydd gysylltiedig ag addysg, ac wedi’i anelu’n benodol at y rheiny sy’n rhan o fyd addysg mewn ystod eang o alwedigaethau: athrawon, arweinwyr a rheolwyr ysgolion, darlithwyr mewn sefydliadau AU ac AB, swyddogion y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sefydliadau hyfforddi ac ati. 

Nod y rhaglen yw darparu’r sgiliau a’r wybodaeth ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol, er mwyn iddynt gwestiynu ymchwil, beirniadu damcaniaethau a chynnal ymchwil trylwyr a fydd yn effeithio ar bolisi ac arfer yn eu maes gweithgarwch proffesiynol.

Mae doethuriaeth broffesiynol yn cyfateb i PhD drwy Ymchwil o ran y cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth y disgwylir i ymgeisydd ei wneud, ond mae'n cynnwys rhan a addysgir yn ogystal â'r ymchwil uwch y mae pob myfyriwr yn ei wneud.

Mae'n galluogi canfyddiadau a meddwl strategol ar gyfer rolau proffesiynol ledled y sector.

Drwy gyfuniad o astudiaethau academaidd, damcaniaethau allweddol mewn treftadaeth a hyfforddiant ymarferol (rhan a addysgir) a'r prosiect ymchwil annibynnol doethurol terfynol, mae graddedigion yn creu trosolwg ac arbenigedd trylwyr mewn ystod eang o agweddau ar y sector treftadaeth ddiwylliannol mewn theori ac ymarfer.

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o rolau. Mae pob cam o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol (Prof Doc) wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau lefel uchel o berthnasedd uniongyrchol i’r byd gwaith. Bydd myfyrwyr yn cwestiynu ymchwil, yn beirniadu damcaniaethau ac yn cynnal ymchwil cadarn yn gysylltiedig â’u galwedigaeth.