Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Doethuriaethau Proffesiynol - Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA)
Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Profiad DBA newydd. Dysgwch gyda meddylwyr, academyddion ac ymarferwyr sy’n newid y byd.
Ydych chi’n barod am DBA Y Drindod Dewi Sant?
Cymhlethdod | Hunaniaeth | Ymdeimlad o le
- Partneriaeth ar y cyd rhwng ymarferwyr ac academyddion o’r radd flaenaf
- Profiadau dysgu cymdeithasol grymus sydd wedi ennill gwobrau
- Digwyddiadau darganfod byw
- Canolfan ymchwil un pwrpas i gefnogi eich traethawd hir
- Nifer cyfyngedig o leoedd i hwyluso ymgysylltu
Dim darlithoedd | Dim seminarau | Dewch â’ch chwilfrydedd.
Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA)
A oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais? Anfonwch e-bost datganiad o ddiddordeb ynghyd â’ch CV i ni.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni
Pam dewis y cwrs hwn
- Cyfle i wneud cyfraniadau o’r radd flaenaf at wybodaeth ac arfer.
- Agor eich potensial gyrfaol, yn y diwydiant a’r byd academaidd.
- Cyfle i fod yn arbenigwr yn eich maes.
- Cyfoethogi eich dulliau meddwl beirniadol a’ch sgiliau gwneud penderfyniadau.
- Cyfle i weithio gyda chymheiriaid ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan ymestyn eich rhwydwaith proffesiynol wrth ddod yn rhan o gymuned ymchwil fywiog.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA) yn Ysgol Fusnes Abertawe yn gyfle cyffrous i reolwyr profiadol wella ar eu cymwysterau, gan gyfuno ymchwil a gweithgareddau adfyfyriol ymarferol.
Mae’r DBA yn cynnig doethuriaeth berthnasol a hydrin i reolwyr sydd efallai yn teimlo nad yw’r PhD traddodiadol yn addas i’w hanghenion gyrfa a’u huchelgeisiau. Mae'r elfen adfyfyrio ar arfer proffesiynol yn gwneud y ddoethuriaeth broffesiynol yn wahanol i ddyfarniad PhD.
Mae’r DBA yn ddoethuriaeth broffesiynol sy’n darparu rhaglen astudio strwythuredig trwy fodylau a addysgir, wedi'u hintegreiddio'n agos gyda datblygiad gyrfa broffesiynol unigolion. Yn gyffredinol, caiff ei adnabod fel pinacl cymwysterau'r byd busnes a rheolaeth. Lluniwyd y rhaglen DBA hon i fodloni anghenion gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn meysydd cysylltiedig â Gweinyddiaeth a Rheolaeth Busnes ym marchnad y DU a rhai rhyngwladol.
Nod y rhaglen yw rhoi i fyfyrwyr sylfaen drylwyr mewn athroniaeth, egwyddorion ac arfer ymchwil gweinyddiaeth a rheolaeth busnes, a dealltwriaeth feirniadol o faterion cyfoes a byd-eang allweddol sy’n effeithio ar holl sectorau busnes. Defnyddir y term busnes yn ei ystyr ehangaf oherwydd gall y rheiny sy’n gweithio mewn mentrau cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol a di-elw hefyd ymgymryd â'r radd.
Mae gan y rhaglen ddwy ran, ac mae’n cynnwys modylau a addysgir a phrosiect ymchwil seiliedig ar waith ar lefel doethuriaeth.
Rhan Un – Modylau a Addysgir
- Ymchwil Busnes Ansoddol Cymhwysol
- Ymchwil Busnes Meintiol Cymhwysol
- Hunaniaeth ac Ymagweddau at Ymchwil Busnes Cymhwysol
- Arweinyddiaeth a Gwneud Penderfyniadau mewn Amgylcheddau Cymhleth
- Gwydnwch, Talent a Thechnoleg
- Busnes a Moeseg Cymdeithasol yr 21ain Ganrif
Rhan Dau – Traethawd Hir
Mae rhan dau’r rhaglen yn cynnwys cynnal prosiect ymchwil, sy’n dod i’w anterth mewn traethawd hir doethurol 60,000 o eiriau sy’n gwneud cyfraniad at wybodaeth ac arfer.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Dr Gareth Hughes
- Professor Jill Venus
- Dr Caroline Jawad
- Dr Antje Cockrill
Mae’r rhaglen ar agor i ymgeiswyr sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad rheoli diweddar a pherthnasol. O leiaf gradd Meistr neu gyfwerth. Mae angen i Feistri gael teilyngdod cyffredinol (60%).
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol mae yna ofyniad am sgôr IELTS cyfartalog (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall) o 6.0 heb ddim llai na 5.5 mewn unrhyw gydran unigol.
Bwrsari ar gyfer Alumni (gostyngiad o 20% yn y ffioedd) – dim ond ar gyfer modylau a addysgir rhan 1.
Y myfyrwyr i dalu unrhyw gostau ychwanegol
Fel sefydliad ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir y costau ar gyfer teithiau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio. Byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau visa ychwanegol yn daladwy i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu bedair wythnos cyn i deithiau maes gael eu cynnal, a chostau teithio a fisa ar gyfer lleoliadau tramor, dri mis cyn gadael.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.