Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Doethuriaethau Proffesiynol - Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf)
Mae’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn integreiddio astudiaethau rhan-amser ar lefel doethuriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae’n ffordd ddelfrydol o sicrhau doethuriaeth wrth gynnal ymrwymiadau proffesiynol.
Mae rhaglen Y Drindod Dewi Sant yn un o’r ychydig raglenni DProf generig yn y byd, ac mae mewn sefyllfa unigryw i ddarparu ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol a phynciau ymchwil. Mae’r Rhan 1 a addysgir yn cynnwys astudio mewn amgylchedd grŵp cefnogol, sy’n wedd unigryw a gwerthfawr arall ar y rhaglen.
Mae Rhan 1 y rhaglen yn helpu ymgeiswyr i adolygu eu dysgu proffesiynol ac adeiladu sgiliau ymchwil. Mae Rhan 2 yn darparu cefnogaeth ar gyfer prosiect ymchwil mawr sy'n ffocysu ar agweddau ar arfer proffesiynol ymgeiswyr.
Un llwybr safonol sydd ar gyfer y rhaglen DProf. Fodd bynnag, mae yna 'fannau ymadael' fel Diploma (ar ôl 120 credyd), a gall trosglwyddo o'r rhaglen MProf hefyd fod yn bosibl.
Cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Rhaglen Laura James drwy anfon i laura.james@uwtsd.ac.uk, i drafod manylion y rhaglen a'ch syniadau ymchwil. Bydd y Cyfarwyddwr Rhaglen hefyd yn esbonio sut i wneud cais.
Cais am Wybodaeth ACAPYC
Cartref/tramor: £23,150 ar gyfer y DU/UE (gyda bwrsariaeth hepgor ffioedd o £7000 i ymgeiswyr yng Nghymru)
Tramor: £32,050 (Y cyfanswm costau yw’r rhain. Mae’r ffioedd yn daladwy mewn rhandaliadau. Sylwch y gall benthyciad doethurol fod ar gael i drigolion Cymru a Lloegr)
Pam dewis y cwrs hwn
- Cael statws Doethuriaeth wrth barhau â rôl broffesiynol yn eich gweithle
- Cynnal ymchwil yn eich arfer proffesiynol
- Elwa ar gymorth cymheiriaid
- Datblygu sgiliau ymchwil sylweddol
- Tîm goruchwylio profiadol wedi'i deilwra at eich anghenion.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae'r rhaglen yn cynnwys dwy brif ran. Mae rhan 1 (180 credyd; hyd, tua 2 flynedd, rhan amser) yn cynnwys astudio chwech modwl lefel 7. Mae hyn yn adolygu eich dysgu proffesiynol presennol, yn darparu sgiliau ymchwil ac yn eich paratoi at ymchwil Rhan 2. Mae Rhan 2 y rhaglen (360 credyd; hyd, tua 3-4 blynedd, rhan amser) yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil pwysig seiliedig ar waith, gan arwain at lunio traethawd ymchwil 60,000 o eiriau.
Cynhelir gweithdai preswyl yn Y Drindod Dewi Sant Llambed. Cynhelir pob seminar a thiwtorial arall yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin a/neu ar-lein.
Ffioedd
- Cartref/tramor: £23,150ar gyfer y DU/UE (gyda bwrsari hepgor ffioedd £7000 i ymgeiswyr Cymru)
- Tramor: £32,050 (Rhain yw cyfanswm y costau.) Gellir talu’r ffioedd mewn rhandaliadau. Sylwer y gall benthyciad doethuriaeth fod ar gael i drigolion Cymru a Lloegr)
RHAN I
- Ymagweddau at Ymchwil a Chyfathrebu Academaidd
- Dulliau Ymchwil Ansoddol.
- Dulliau Ymchwil Meintiol
- Adolygu Dysgu Proffesiynol
- Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol
- Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol
- Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol
- Cynnig Ymchwil Ymarferydd
RHAN II
- Prosiect Ymchwil Seiliedig ar Waith
Fel arfer, darperir dau fodwl Rhan 1, mewn gweithdai preswyl deuddydd yn ystod y gwanwyn a’r hydref ar gampws Y Drindod Dewi Sant yn Llambed, ac mae’r rhain yn cynnwys astudio mewn grŵp bach. Astudir modylau eraill trwy gyfuniad a astudio hunangyfeiriol gyda chymorth ar-lein a chymorth tiwtoriaid, ynghyd â seminarau ar gampws Caerfyrddin.
Mae gan bob modwl ei elfen asesu’i hun yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniad, portffolio, ac adroddiadau neu draethawd ysgrifenedig. Ar ddiwedd Rhan 2, disgwylir y bydd ymgeiswyr wedi cynhyrchu traethawd ymchwil 60,000-word gair sy’n seiliedig ar eu prosiect ymchwil a ddylai gyfrannu at arfer proffesiynol unigolion a datblygiad strategol eu sefydliadau. Unwaith y bydd y traethawd ymchwil wedi ei astudio a’i gymeradwyo, bydd ymgeiswyr wedi cyflawni 540 o gredydau a’r cymhwyster DProf, ynghyd â’r teitl ‘Dr’.
Rhaglen Dprof
Gwybodaeth allweddol
- Laura James, Cyfarwyddwr Rhaglen
- Dr Karim Sadeghi
- Dr Louise Emanuel
Mae’r rhaglen yn agored i ymarferwyr sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad o rôl broffesiynol sylweddol, ac sy’n meddu ar radd ail ddosbarth uwch, ac yn ddelfrydol gradd meistr neu gyfwerth yn ogystal.
Gofynion Iaith Saesneg
Mae angen i ymgeiswyr gael sgôr IELTS o 6.0 at ei gilydd, gyda dim llai na 5.5 mewn darllen ac ysgrifennu, a dim llai na 5.5 mewn gwrando neu siarad (neu gyfatebol). Gweler ein Polisi Iaith Saesneg.
Mae pob ymgeisydd DProf mewn swydd yn barod. Yn aml, dilynir y rhaglen am ei fod yn cyfrif fel darn sylweddol o ddatblygiad proffesiynol parhaus, sy'n cyfoethogi eich dilyniant gyrfaol.
Disgwylir i fyfyrwyr fynychu gweithdy preswyl unwaith y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru ar gyfer rhan un y rhaglen, a disgwylir iddynt dalu eu costau teithio eu hunain.
MProf (sy'n rhannu rhai modylau gyda DProf Rhan 1)
"Mae'r rhaglen DProf yn Y Drindod Dewi Sant wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Mae'r amgylchedd academaidd o'r ansawdd uchaf ac mae'r arweiniad unigol wir yn eich cymell, rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi'n dda wrth geisio fy nghymhwyster Doethuriaeth." - Dyfyniad gan fyfyriwr rhyngwladol sydd ar y rhaglen ar hyn o bryd
Mae ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru yn gymwys i gael bwrsari hepgor ffioedd gwerth £7000.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.