Skip page header and navigation

Mae ein rhaglenni Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol wedi’u cynllunio i feithrin awduron creadigol a hwyluso’r gwaith o greu gweithiau newydd mewn cymuned gefnogol ond beirniadol. Byddwch yn cael eich annog i archwilio grym a phrydferthwch iaith. P’un ai ysgrifennu barddoniaeth, nofelau, sgriptiau ffilm neu ddadansoddi llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau sy’n mynd â’ch bryd, byddwch yn mwynhau dod gyda ni ar daith i fyd geiriau.

Archwiliwch amrywiaeth o gyfnodau a genres llenyddol mewn llenyddiaeth Saesneg a defnyddio’r wybodaeth hon wrth fynd ati i ysgrifennu’n greadigol. Byddwch yn cael eich annog i holi â meddwl agored am y ffyrdd amryfal o greu gwahanol gysyniadau a gwerthoedd o fewn y ddisgyblaeth, er mwyn llywio eich addysg eich hun.

Pwrpas ein cyrsiau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yw astudio rhaglenni sydd wedi’u cynllunio i godi ymwybyddiaeth greadigol a beirniadol o elfennau a thechnegau ysgrifennu effeithiol. Drwy fynd i’r afael â’r rhaglenni a digwyddiadau llenyddol eraill, y chi fydd awdur eich addysg. 

Byddwch yn cael y cyfle i astudio awduron canonaidd, testunau sefydledig a llenyddiaeth gydnabyddedig wrth gael eich annog i ddefnyddio’r sgiliau iaith a llenyddiaeth a ddysgwyd i fyfyrio’n feirniadol ac yn llawn dychymyg ar yr hyn yr ydych yn ei ddysgu a’ch ffordd o feddwl ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau y byddwch yn eu meithrin o fudd i chi wrth chwilio am waith mewn meysydd amrywiol o hysbysebu, ysgrifennu sgriptiau, llenyddiaeth a llawer mwy ym maes y diwydiannau creadigol.

Byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, deallusol, trin a thrafod ac ymarferol trwy ymgysylltu a throchi dwfn ac estynedig yn arferion, dulliau a deunydd y rhaglenni. Daw’r ystod eang hon o wybodaeth a sgiliau wrth weithio ar y cyd â chyfoedion mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.

Pam astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn PCYDDS?

01
Ein nod yw meithrin eich dawn greadigol drwy ein rhaglen sy’n heriol yn academaidd ac yn greadigol.
02
Datblygwch ddealltwriaeth o fyd y cyhoeddwyr gan ganolbwyntio ar eich sgiliau ymchwil a golygu ac archwilio agweddau allweddol ar fyd cyhoeddi.
03
Rydym yn Aelodau o Gymdeithas Genedlaethol Awduron mewn Addysg (NAWE) sy’n eirioli dros ysgrifennu creadigol wrth gefnogi awduron mewn addysg.

Spotlights

Tri yn trafod o gwmpas bwrdd

Cyfleusterau

Cewch eich addysgu mewn dosbarthiadau o grwpiau bach lle bydd eich llais a’ch barn yn cael eu clywed. Cewch ymgysylltu ar gampws lle caiff trafodaethau diwylliannol pellach eu hannog. Byddwch yn cael mynediad i ystod helaeth o lenyddiaeth o’r brif lyfrgell, Llyfrgell Roderic Bowen a’r Archifau ar gampws Llambed.  

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.