a person holding an ipad with graphics branching out of it

Mae galw cyfredol yn y diwydiant Logisteg a’r Gadwyn Gyflenwi i fuddsoddi mewn talent o fewn y busnes, i’w helpu i groesawu technolegau presennol a newydd, i wneud y gorau o weithrediadau’r gadwyn gyflenwi a logisteg, a’u grymuso i fynd i’r afael â heriau o’r fath yn amgylchedd y gadwyn gyflenwi fodern, megis cynaliadwyedd a datgarboneiddio.

Lluniwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y diwydiant i baratoi unigolion ar gyfer yr heriau hyn ac i sicrhau ein bod yn datblygu cadwyni cyflenwi ystwyth, proffidiol ac ymatebol i gwsmeriaid.

Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon yn cael ei rhedeg ar-lein yn bennaf. Dros gyfnod o 4 blynedd, bydd prentisiaid yn cwblhau prosiectau seiliedig ar waith sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r sefydliad y maen nhw’n gweithio iddo. Byddwn yn eich cynghori chi, y cyflogwr, ar y pwnt mynediad gorau ar gyfer y prentis unigol yn seiliedig ar ei gymwysterau a’i brofiad presennol.

Ar gyfer prentisiaid o Loegr, rydym wedi mapio gradd integredig Lefel 6 y Gweithiwr Proffesiynol sy’n Arwain y Gadwyn Gyflenwi i’r llwybr hwn.

Pynciau Modylau

Level 4

  • Sgiliau Astudio ac Ymchwil | 10 credyd
  • Cyflwyniad i Gaffael| 10 credyd
  • Egwyddorion Dadansoddeg Data | 10 credyd
  • Gwybodeg y Gadwyn Gyflenwi | 10 credyd
  • Gweithrediadau Warysau a Rhestrau Cynnwys | 20 credyd
  • Cynllunio Busnes | 10 credyd
  • Rheoli Cyllid | 10 Credyd
  • Rheolaeth Sefydliadol | 20 credyd
  • Cynaliadwyedd | 10 credyd
  • Syniadaeth ddarbodus | 10 credyd

Level 5

  • Gweithrediadau’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg | 20 credyd
  • Prosiect Grŵp | 20 credyd
  • Cynllunio Capasiti | 10 credyd
  • Strategaethau Caffael | 10 credyd
  • Moeseg a’r Gyfraith | 10 credyd
  • Dadansoddi Data | 10 credyd
  • Technolegau Logisteg | 10 credyd
  • Rheoli Newid | 10 credyd
  • Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy | 10 credyd
  • Modelu ac Efelychu | 10 credyd

Lefel 6

  • Cadwyni Cyflenwi Byd-eang Strategol | 20 credyd
  • Bregusrwydd a Rheoli Risg | 20 credyd
  • Technolegau’r Gadwyn Gyflenwi | 10 credyd
  • Cadwyni Cyflenwi Darbodus| 10 credyd
  • Prosiect seiliedig ar Waith | 60 credyd

Asesu

Trwy gwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, dyfernir BSc mewn Logisteg a Rheolaeth y Gadwyn Gyflenwi i chi, a byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif prentisiaeth.

Addysgir myfyrwyr trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol ar-lein. Asesir cynnydd drwy gyfuniad o aseiniadau, cyflwyniadau, gwaith grŵp, arholiadau a phrosiectau unigol.

Asesir modylau yn aml drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau gwaith cwrs a osodir ac  a gwblheir yn ystod y modwl. Asesir gwaith prosiect drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

Anogir myfyrwyr i gymhwyso’r wybodaeth maent yn ei chaffael i’r gweithle a’i defnyddio i gefnogi eu hasesiadau.

Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth maent wedi’i datblygu drwy’r cwrs i ddatrys problem go iawn yn y gweithle.

Bydd gofyn i brentisiaid o Loegr greu portffolio o dystiolaeth hefyd i arddangos y datblygiad personol a phroffesiynol drwy gydol y radd-brentisiaeth. Daw’r brentisiaeth i ben ag asesiad diweddbwynt. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o’ch prosiect terfynol, i’w ddilyn gan drafodaeth i ddangos eich bod wedi bodloni gofynion safon y radd-brentisiaeth.

Os mai’r cwrs hwn yw’r un i chi neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r cwrs, ewch i gofrestru eich diddordeb a bydd aelod o’r uned brentisiaethau yn cysylltu â chi.