P’un a ydych wedi gorffen gradd israddedig yn ddiweddar, rydych yn dilyn diddordeb oes, neu’n ceisio newid gyrfa neu gael dyrchafiad, gallwch ddewis o’n hystod o wahanol gymwysterau ôl-raddedig, a gallwch astudio llawer ohonynt yn rhan-amser, yn llawn amser neu ar-lein/o bell.
Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed, felly beth bynnag bo’ch cefndir neu gymhelliant, bydd astudiaethau ôl-raddedig yn Y Drindod yn cynnig boddhad a mwynhad deallusol a phersonol i chi. Mae ein portffolio cryf o raglenni ôl-raddedig, proffesiynol a TAR yn golygu bod pob rheswm i chi aros. Archwiliwch eich dewisiadau yn ein canllaw byr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.
Mae yna ddwy ffordd y gallwch gael eich gradd ôl-raddedig; drwy ymchwil neu drwy raglen ôl-raddedig a addysgir. Am ragor o wybodaeth ar y gwahanol lwybrau hyn, dilynwch y dolenni isod.