Mae ymchwil yn gwbl ganolog i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol
- Astudiaeth doethurol hyblyg trwy astudiaethau preswyl neu ddysgu o bell
- Prifysgol hanesyddol, a arweinir gan ymchwil
- Cymorth sgiliau ymchwil
Mae ymchwil ac ysgolheictod yn gwbl ganolog i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rydym yn croesawu ceisiadau i raddau ymchwil ac mae gennym brofiad sylweddol o oruchwylio myfyrwyr preswyl a rhai sy’n astudio o bell wrth iddynt gwblhau eu hastudiaethau.
Ein Graddau Ymchwil
- Meistr Athroniaeth trwy Ymchwil – MPhil
- Meistr Ymchwil - Mhres
- Doctor Athroniaeth trwy Ymchwil – PhD
- Doethuriaeth Broffesiynol - yn cynnwys y DBA
- Doctor trwy Waith Cyhoeddedig – PhD
Ydw i’n gymwys?
Fel arfer, gofynion mynediad ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil yw gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch neu radd Meistri sy’n berthnasol i’r prosiect ymchwil arfaethedig a ddyfarnwyd gan Brifysgol yn y DU neu Brifysgol gydnabyddedig arall neu sefydliad addysg uwch, neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA). Dylid trafod gofynion mynediad ymhellach gyda’r Ysgol.
Beth fydd y gost?
Mae’r ffioedd yn amrywio’n ôl y rhaglen rydych yn gwneud cais amdano, hyd y cwrs a p’un a ydych yn astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser. Ffioedd
Pryd alla’ i ddechrau?
Mae tri phwynt mynediad ar gyfer graddau PhD, MPhil, MA gan Ymchwil / MSc yn ôl Ymchwil, a PhD trwy Waith Cyhoeddedig:
- 1 Hydref
- 1 Chwefror
- 1 Mehefin
Er mwyn gwarantu pwyntiau mynediad penodol, rhaid derbyn cais o leiaf 3 mis cyn y pwynt mynediad perthnasol.
Ble a sut alla’ i astudio?
Naill ai adref neu yn un o’n campysau, yn rhan-amser neu’n amser llawn.