Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - TAR Uwchradd Ieithoedd Tramor Modern gyda SAC
Ni fu fyth amser pwysicach a chyffrous i addysgu ieithoedd a’n nod yw hyrwyddo ac ymestyn profiadau myfyrwyr fel eu bod yn barod i fod yn ddinasyddion o’n byd sydd wedi’i globaleiddio.
Mae arnom eisiau paratoi ieithyddion brwd a fydd yn annog rhagor o ddisgyblion i ddysgu iaith ac sy’n barod i fodloni’r heriau a amlinellir gan ddogfen strategol Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru.
Mae’r llwybr TAR Ieithoedd Tramor Modern yn eich paratoi at addysgu eich prif iaith darged i ddisgyblion 11-18 oed, a lle bo’n berthnasol, eich iaith ategol, i ddisgyblion 11-14 oed.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn rhyngweithio o ansawdd uchel ad adfyfyrio beirniadol er mwyn datblygu eich arbenigedd mewn addysgu a dysgu.
Bydd ein llwybr uchel ei barch y eich cefnogi wrth ichi ddatblygu lefelau ieithyddol uchel, ymagweddau dychmygus a chreadigol at addysgu mewn ystafell ddosbarth ac fe fydd yn cyfoethogi eich arbenigedd digidol.
Modern Foreign Languages - French with QTS (PGCE)
UCAS Code: 2X6B
Ymgeisio drwy UCAS<
Modern Foreign Languages - French with Spanish with QTS (PGCE)
UCAS Code: 2X69
Ymgeisio drwy UCAS
Modern Foreign Languages - German with French with QTS (PGCE)
UCAS Code: 2X6C
Ymgeisio drwy UCAS
Modern Foreign Languages - Spanish with French with QTS (PGCE)
UCAS Code: 2X6F
Ymgeisio drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Sut i Wneud Cais Cymorth ariannol
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £9,000
Dramor: £13,500
Pam dewis YDDS | Yr Athrofa i astudio ar gyfer eich TAR?
- Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA
- Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol
- Cyfradd gyflogaeth ardderchog o 99% ar gyfer Graddedigion TAR (DLHE 2016/17)
- Cewch astudio ar gampws newydd modern Glannau Abertawe (SA1) gwerth £350m a’r campws hanesyddol yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal mae gennym safle bychan yn y Tramshed Tech, Caerdydd
- Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:
- Modylau gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.
Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil.
Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.
Modylau Lefel 6
Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Mae’r modiwl hwn yn gosod y plentyn/disgybl yng nghanol y rhaglen. Mae deall sut mae disgybl yn dysgu, wedi’i seilio ar ddamcaniaethau dysgu, tystiolaeth seiliedig ar arfer a lle iechyd a llesiant, yn hanfodol i addysgu a dysgu effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn herio tybiaethau a chredoau sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth diwylliannol a disgwyliadau model normadol o ddatblygiad plant.
Hefyd, mae’r modiwl hwn yn gosod yr athro fel gweithiwr proffesiynol trwy ystyried diogelu, amddiffyn plant, cytundebol, bugeiliol a chyfrifoldebau cyfreithiol.
Elfen asesu’r modiwl hwn yw aseiniad ysgrifenedig (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).
Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Yn y modwl hwn datblygir yn glir wybodaeth am y pwnc sy’n briodol i gyfnod a gwybodaeth am gynnwys addysgegol sydd eu hangen i addysgu cynnwys cwricwlaidd pob maes dysgu a phrofiad yn effeithiol.
Mae’r modiwl hefyd yn archwilio i natur gymhleth yr amgylchedd dysgu a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli dysgwyr, adnoddau ac oedolion eraill. Bydd egwyddorion cynllunio, addysgu ac asesu ar gyfer dysgu wedi’u diogelu, a’r cymhwyso ymarferol wedi’i werthuso. Yn y modiwl hwn y daw dwy agwedd dysgu ddeallusol a thrwy brofiadau at ei gilydd yn y dosbarth a chefnogir myfyrwyr yn eu profiad addysgu proffesiynol gan athrawon wrth eu gwaith, cymheiriaid a thiwtoriaid prifysgol.
Elfen asesu’r modiwl hwn yw portffolio (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).
Modylau Lefel 7
Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Yn y modwl hwn, mae graddedigion yn astudio pwysigrwydd lle a chyd-destun; lleol a chenedlaethol. Mae’r athro trawsnewidiol yn edrych tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned lle mae dysgwyr yn byw eu bywydau ac yn ceisio dylanwadu datblygiad yn y ddau. Golyga hyn deall natur amrywiol cymuned; effaith tlodi ac amddifadedd cymdeithasol a sut i ddefnyddio data i ddeall y materion hyn ymhellach.
Elfennau asesu’r modiwl hwn yw fideo unigol (50%; 10 munud) ac adroddiad ysgrifenedig (50%; 2,500 gair)
Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Yn y modiwl hwn, caiff pedair nodwedd yr athro parod at ymchwil eu harchwilio’n fanwl: bod yn sgeptigol; bod yn foesol; bod yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn sy’n ymholi. Mae darpar athrawon yn ymuno ag athrawon wrth eu gwaith i lunio cymunedau sy’n ymholi lle caiff problemau bywyd go iawn eu hadnabod yn y dosbarth a’u hymchwilio trwy ymagwedd agos-at-arfer. Archwilir gwahanol fethodoleg yn cynnwys astudiaeth gwers, astudiaeth achos ac ymchwil gweithredol ar raddfa fach.
Elfen asesu ‘r modiwl hwn yw prosiect ymchwil (100%; 5000 o eiriau gyda’r hyn sy’n gyfwerth â 1000 o eiriau wedi’i neilltuo i’r Ffurflen Foeseg).
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:
- Astudiaethau achos
- Portffolios
- Cyflwyniad fideo
- Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.
Dolenni Diddorol
Athrofa Partneriaeth Dysgu Proffesiynol
Gwybodaeth allweddol
- JingJing Ruan
Gradd Israddedig
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.
Cymwysterau TGAU
Gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg NEU Lenyddiaeth Saesneg a TGAU Mathemateg.
Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg NEU Lenyddiaeth Gymraeg (iaith gyntaf).
Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3
Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.
Profiad Gwaith
Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.
Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@uwtsd.ac.uk
Am beth ydym ni’n chwilio?
- Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
- Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
- Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
- Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
- Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
- Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
- Gwydnwch a dibynadwyedd
- Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
- Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?
- Ansawdd y datganiad personol
- Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
- Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
- Ansawdd y cyfweliad unigol
- Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad.
Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.
Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.
Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen. Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.
Costau Ychwanegol
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau gorfodol:
- Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
- Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
- Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
- Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
- Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1
Costau Angenrheidiol:
- Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
- Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
- Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’
Dewisol:
- Costau argraffu
- Teithiau astudio dewisol
Ieithoedd Tramor Modern - Ffrangeg gyda SAC (TAR)
Cod UCAS: 2X6B
Ymgeisio drwy UCAS
Ieithoedd Tramor Modern - Ffrangeg gyda Sbaeneg gyda SAC (TAR)
Cod UCAS: 2X69
Ymgeisio drwy UCAS
Ieithoedd Tramor Modern - Almaeneg gyda Ffrangeg gyda SAC (TAR)
Cod UCAS: 2X6C
Ymgeisio drwy UCAS
Ieithoedd Tramor Modern - Sbaeneg gyda Ffrangeg gyda SAC (TAR)
Cod UCAS: 2X6F
Ymgeisio drwy UCAS
Caroline Mort
"Penderfynais rannu fy mhrofiadau o dramor ac ieithoedd ac i annog mwy o bobl i ddysgu iaith. Digwyddodd pethau yn fy mywyd oherwydd fy mod yn siarad gwahanol ieithoedd ac fe helpodd fy ngyrfa oherwydd fy mod yn gallu negodi a meithrin parch, a theimlo’n hyderus, a’m rhoddodd mewn sefyllfa cryfach."
Guillermo Hidalgo
"Roeddwn yn fargyfreithiwr o Farcelona lle agorodd ieithoedd lawer o ddrysau. Penderfynais bod arna’i eisiau hyfforddi i addysgu yng Nghymru i roi rhywbeth yn ôl ac rwy’n mwynhau gallu rhannu fy ngwybodaeth."
Rob John
"Addysgais TEFL yn Sbaen a Gwlad Pwyl ac roedd arna’i eisiau symud nôl i’r DU a wnaeth i mi edrych ar hyfforddi i addysgu. Rwy’n hoffi ieithoedd oherwydd bod gen i ddiddordeb yn niwylliant gwahanol wledydd. Mae’r byd yn fach ac mae ieithoedd yn ei wneud yn hygyrch. Mae’r cwrs yn ardderchog, trylwyr gyda thiwtor gwych."
Johanne Defay
"Rwy’n Ffrangeg a bues yn gynorthwyydd iaith Ffrangeg i fyfyrwyr Cymraeg oedd yn paratoi at eu arholiadau Lefel A. Roeddwn i eisiau addysgu Ffrangeg i fyfyrwyr Saesneg a chwblheais TEFL a’m cyflwynodd i addysgu. Rwyf eisiau addysgu ynganiad a bod yn fodel da i annog myfyrwyr i ddysgu iaith. Mae’n eich gwneud yn fwy meddwl-agored ac yn fwy parchus at eraill ac mae’n dod â phobl at ei gilydd. Buaswn yn argymell y cwrs ac rwyf wedi dysgu llawer yn barod gan fentor gwych. Mae awyrgylch gwych yma."
Alicia Bodman
"Cefais brofiad drwy waith gwirfoddol yn y gorffennol mewn colegau ac ysgolion a chlwb ar ôl ysgol cynradd. Hoffwn addysgu Ffrangeg ar lefel Uwchradd gan mai dyna’r cam mwyaf at ddysgu iaith. Rwy’n caru’r syniad o addysgu – nid dim ond swydd ydyw, mae’n ffordd o fyw. Ym mhopeth rwy’n ei wneud rwy’n dod o hyd i wers a meddwl ‘Gallwn ddefnyddio hynny yn y dosbarth’. Mae ieithoedd yn ymgorffori popeth, nid dim ond geiriau gwag rydych yn eu defnyddio – mae’n wledydd, diwylliant, ac yn edrych ar bopeth o draddodiadau i gredoau. Rydym yn byw mewn byd aml-ddiwylliant lle dylai pawb wneud ymdrech u ddysgu iaith arall."
Angharad Thomas
"Rwy’n athrawes Gymraeg iaith gyntaf sy’n dymuno addysgu ieithoedd tramor modern drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o blant yn straffaglu gyda’r Gymraeg yn yr ysgol a gall ieithoedd eraill helpu gyda hynny a meithrin hyder llythrennedd."
Sian Phillips
"Astudiais Ffrangeg yn y Brifysgol ac yna es i fyw ym Mharis fel au pair yn gweithio gydag efeilliaid a gwneud gofal plant yn Ffrangeg. Roeddwn i’n gwybod bod arna’i eisiau mynd i addysgu, felly galluogodd byw yn Ffrainc i mi wella fy Ffrangeg a dysgu am y diwylliant a’r ffordd o fyw. Yna, deuais yn ‘assisstante’ Saesneg i blant Ffrangeg eu hiaith. Rwy’n caru bod yn y dosbarth a rhannu fy mrwdfrydedd am ieithoedd. Mae meddu ar iaith arall yn eich gwneud yn llawer mwy cyflogadwy ac maen bwysig ym myd busnes. Rwy’n wirioneddol caru’r cwrs hyd yma, mae’n hwyl ac mae’r grŵp yn hyfryd. Mae dysgu am brofiadau fy nghyfoedion ac am beth â’u harweiniodd at addysgu wedi bod yn wych."
Sian Brooks (athrawes)
"Mae ieithoedd yn eich cymryd allan o’r lleol ac i’r byd-eang. Mae astudio ieithoedd yn agor y byd o’ch cwmpas ac yn addysgu sgiliau trosglwyddadwy, hyder a chyfathrebu i chi. Golyga ‘Brexit’ bod mwy fyth o angen i ddysgu ieithoedd eraill; pan rydych yn gwneud bargeinion byd-eang, mae angen sgiliau iaith arnoch i wneud y bargeinion. Rwy’n gyffrous iawn am y darpar athrawon talentog sydd gennym ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n mynd i ysgolion a chodi uchelgais, annog pobl ifanc i wneud TGAU a Safon Uwch ieithoedd a rhannu eu cariad atynt.
Mae gan ddarpar athrawon heddiw sgiliau technegol cryf y gellir eu defnyddio i ddatblygu gallu digidol disgyblion trwy’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF). Mae llawer yn defnyddio gemeiddio sy’n cofnodi deilliannau dysgu ac yn cynhyrchu addysgeg cryf i ddefnyddio data’n effeithiol yn sail i gynllunio a hwyluso’r addysgu."
Strwythur y Rhaglen
Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:
- Modylau Gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Darpariaeth prifysgol
Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.
Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.
Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.
Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol
Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.
Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.
Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.
Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.
Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.
Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Ewch i’r adran llety i ddysgu rhagor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.