Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  TAR Uwchradd Saesneg gyda SAC

TAR Uwchradd Saesneg gyda SAC

Gwnewch Gais Nawr

Mae’r llwybr TAR Uwchradd Saesneg yn YDDS yn rhaglen gyffrous ac arloesol, sydd wedi ymrwymo’n llawn i baratoi darpar athrawon i fod yn effeithiol iawn wrth gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu hanfodol, yn ogystal â chariad at lenyddiaeth fawr.  

Nod canolog y cwrs yw addysgu athrawon Saesneg hyderus, adfyfyriol a chymwys iawn, sydd â gwybodaeth sicr am ddulliau addysgu effeithiol wedi’i seilio’n gryf ar ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol cadarn. Ceisia hefyd ddatblygu sgiliau a thueddiadau addysgu sy’n arwain at ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion yn eu dysgu, ac sy’n eu cynorthwyo i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd am y Saesneg.  

Mae gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa gysylltiadau sefydledig a chadarn â’i hysgolion partner a fydd, gyda’i gilydd, yn eich cynorthwyo i ddod yn ymarferydd adfyfyriol beirniadol, sy’n ymrwymedig i sefydlu amgylchedd dosbarth creadigol ac arloesol sy’n cynorthwyo, yn herio ac yn ennyn diddordeb ein holl bobl ifanc.   

Bydd rhwydwaith cymorth cyfannol ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnwys Tiwtoriaid Proffesiynol, Cwricwlwm a Phersonol, ynghyd â mentoriaid mewn ysgolion, sydd wedi ymrwymo i wella eu harfer damcaniaethol, addysgegol a phroffesiynol.  

Mae’r cwrs hefyd yn darparu nifer o gyfleoedd gwella, gan gynnwys addysgu mewn gwahanol gyfnodau a chyd-destunau dysgu.  

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

TAR Uwchradd Saesneg gyda SAC
Cod UCAS: 2X5X
Ymgeisio drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am fwy o Wybodawth Sut i Wneud Cais Cymorth ariannol
E-bost Cyswllt: j.holloway@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £9,000
Dramor: £13,500

Pam dewis YDDS | Yr Athrofa i astudio ar gyfer eich TAR?

  • Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA
  • Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol
  • Cyfradd gyflogaeth ardderchog o 99% ar gyfer Graddedigion TAR (DLHE 2016/17)
  • Cewch astudio ar gampws newydd modern Glannau Abertawe (SA1) gwerth £350m a’r campws hanesyddol yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal mae gennym safle bychan yn y Tramshed Tech, Caerdydd
  • Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:

  • Modylau gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil. 

Pynciau Modylau

Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.

Modylau Lefel 6

Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Mae’r modiwl hwn yn gosod y plentyn/disgybl yng nghanol y rhaglen. Mae deall sut mae disgybl yn dysgu, wedi’i seilio ar ddamcaniaethau dysgu, tystiolaeth seiliedig ar arfer a lle iechyd a llesiant, yn hanfodol i addysgu a dysgu effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn herio tybiaethau a chredoau sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth diwylliannol a disgwyliadau model normadol o ddatblygiad plant.

Hefyd, mae’r modiwl hwn yn gosod yr athro fel gweithiwr proffesiynol trwy ystyried diogelu, amddiffyn plant, cytundebol, bugeiliol a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Elfen asesu’r modiwl hwn yw aseiniad ysgrifenedig (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).

Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modwl hwn datblygir yn glir wybodaeth am y pwnc sy’n briodol i gyfnod a gwybodaeth am gynnwys addysgegol sydd eu hangen i addysgu cynnwys cwricwlaidd pob maes dysgu a phrofiad yn effeithiol.

Mae’r modiwl hefyd yn archwilio i natur gymhleth yr amgylchedd dysgu a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli dysgwyr, adnoddau ac oedolion eraill. Bydd egwyddorion cynllunio, addysgu ac asesu ar gyfer dysgu wedi’u diogelu, a’r cymhwyso ymarferol wedi’i werthuso. Yn y modiwl hwn y daw dwy agwedd dysgu ddeallusol a thrwy brofiadau at ei gilydd yn y dosbarth a chefnogir myfyrwyr yn eu profiad addysgu proffesiynol gan athrawon wrth eu gwaith, cymheiriaid a thiwtoriaid prifysgol.

Elfen asesu’r modiwl hwn yw portffolio (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).

Modylau Lefel 7

Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modwl hwn, mae graddedigion yn astudio pwysigrwydd lle a chyd-destun; lleol a chenedlaethol. Mae’r athro trawsnewidiol yn edrych tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned lle mae dysgwyr yn byw eu bywydau ac yn ceisio dylanwadu datblygiad yn y ddau. Golyga hyn deall natur amrywiol cymuned; effaith tlodi ac amddifadedd cymdeithasol a sut i ddefnyddio data i ddeall y materion hyn ymhellach.

Elfennau asesu’r modiwl hwn yw fideo unigol (50%; 10 munud) ac adroddiad ysgrifenedig (50%; 2,500 gair)

Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modiwl hwn, caiff pedair nodwedd yr athro parod at ymchwil eu harchwilio’n fanwl: bod yn sgeptigol; bod yn foesol; bod yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn sy’n ymholi.  Mae darpar athrawon yn ymuno ag athrawon wrth eu gwaith i lunio cymunedau sy’n ymholi lle caiff problemau bywyd go iawn eu hadnabod yn y dosbarth a’u hymchwilio trwy ymagwedd agos-at-arfer. Archwilir gwahanol fethodoleg yn cynnwys astudiaeth gwers, astudiaeth achos ac ymchwil gweithredol ar raddfa fach.

Elfen asesu ‘r modiwl hwn yw prosiect ymchwil (100%; 5000 o eiriau gyda’r hyn sy’n gyfwerth â 1000 o eiriau wedi’i neilltuo i’r Ffurflen Foeseg).

Asesiad

Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:

  • Astudiaethau achos
  • Portffolios
  • Cyflwyniad fideo
  • Prosiect Ymchwil

Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.

Dolenni Diddorol

Athrofa Partneriaeth Dysgu Proffesiynol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Gradd Israddedig

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

Cymwysterau TGAU

Gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg NEU Lenyddiaeth Saesneg a TGAU Mathemateg.

Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg NEU Lenyddiaeth Gymraeg (iaith gyntaf).

Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

Profiad Gwaith

Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@uwtsd.ac.uk

Am beth ydym ni’n chwilio?

  • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
  • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
  • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
  • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
  • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
  • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
  • Gwydnwch a dibynadwyedd
  • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
  • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

  • Ansawdd y datganiad personol
  • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
  • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
  • Ansawdd y cyfweliad unigol
  • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
Cyfleoedd Gyrfa

Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.

Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.

Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen.  Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Costau Ychwanegol

Costau Ychwanegol

Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

Costau gorfodol:

  • Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
  • Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
  • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
  • Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
  • Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1

Costau Angenrheidiol:

  • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
  • Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
  • Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’

Dewisol:

  • Costau argraffu
  • Teithiau astudio dewisol
Dyfyniadau Myfyrwyr

“Gwnaeth y profiad a gefais yn ystod cyfnodau mewn ysgolion a’r berthynas a ffurfiwyd rhyngof i a’m hathrawon fy helpu i ddatblygu i fod y person rydw i heddiw. Mae cael y cyfle i ddatblygu pobl eraill yn academaidd ac yn bersonol yn rhywbeth na chewch mewn unrhyw broffesiwn arall.”     

Emily Timpson 


 “Mae dod yn athro yn gyfle mor gyffrous, gyda dyfodol Addysg yng Nghymru yn edrych yn ddisglair. Mae addysgu Saesneg yn gyfle gwych i greu amgylchedd dysgu difyr a chreadigol i ddysgwyr ifanc. Drwy gydol y cwrs TAR rydym yn trafod ac yn ymarfer y ffyrdd hyn o ddysgu, gan gael trafodaeth fywiog, a datblygu gyda’n gilydd fel darpar athrawon.”   

Olivia Selby 


 “Mae’r wybodaeth, y cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i ni ar y cwrs Saesneg Uwchradd heb eu hail! Rydyn ni wedi gallu teilwra cynnwys y cwrs i’r hyn roedden ni’n teimlo oedd ei angen arnom fwyaf ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr.”           

Georgia Theodoulou  


 “Ar ôl cwblhau gradd Meistr es i weithio ym maes gwerthiant, oedd ddim yn f’ ysgogi o gwbl, a theimlwn fod popeth roeddwn i wedi’i ddysgu yn y Brifysgol yn treiddio i ffwrdd. Roeddwn i eisiau cadw fy meddwl i weithio a dysgu ac rydw i wir yn mwynhau Saesneg fel pwnc. Mae athrawon yn gyfrifol am greu dinasyddion cytbwys a chyflawn y byd ac mae’r iaith Saesneg yn ffurfio blociau adeiladu cymdeithas ac yn sail i bob pwnc arall – ym mhob maes.” 

Liam Finan 


Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Disgrifiad y Rhaglen

Strwythur y Rhaglen

Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:

  • Modylau Gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Darpariaeth prifysgol

Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.

Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.   

Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol

Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.

Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.

Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.

Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.

Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.

Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Llety

Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.