Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster cysylltiedig â chyflogaeth ar lefel addysg uwch. Fe'i ddyluniwyd i roi i unigolion sgiliau a gwybodaeth lefel uwch sydd nid yn unig yn bodloni anghenion y cyflogwr, ond sydd hefyd yn rhoi'r cyfle i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.

Mae'n seiliedig yn rhannol ar waith ac mae prosiectau ac aseiniadau'n perthyn i rôl unigolion yn y gweithle. I gael y cymhwyster, mae'n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd. Gall cwblhau Gradd Sylfaen arwain at drydedd flwyddyn rhaglen radd anrhydedd priodol.

Gradd Sylfaen (FdA / FdSc) - Lefel 4 & 5