Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Astudiaethau Hanesyddol (MA, Dip Ôl-radd, Tyst Ôl-radd)

Astudiaethau Hanesyddol (MA, Dip Ôl-radd, Tyst Ôl-radd)

Mae’r Astudiaethau Hanesyddol (MA) yn darparu gradd sy’n addas ar gyfer tirwedd newidiol academia a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o amryw o themâu, pynciau a chyfnodau hanesyddol, a defnyddio sgiliau methodolegol, technolegol ac ymchwil sy’n nodweddiadol o astudio hanes ar lefel ôl-raddedig a thu hwnt.

Mae’r MA yn seiliedig ar ymchwil ac wedi’i gwreiddio yn niddordebau ac arbenigedd proffesiynol y darlithwyr. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y ffyrdd y mae’r gorffennol wedi’i osod ar naratif, ei bortreadu a’i drafod mewn amryw o gyfryngau a lleoliadau (e.e. ffilm, cofebion, amgueddfeydd, gwefannau).  Caiff myfyrwyr y cyfle i astudio modylau sy’n rhychwantu’r hen fyd, a’r cyfnodau canoloesol a modern. Byddant hefyd yn archwilio’r modd y mae datblygiadau technolegol ym maes y dyniaethau digidol yn effeithio ar wybodaeth a dealltwriaeth o’r gorffennol.

Mae’r rhaglen yn cynnig maes llafur diddorol sy’n caniatáu i fyfyrwyr israddedig fynd â’u hastudiaethau i’r lefel nesaf.   

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Astudiaethau Hanesyddol (MA) | 180 Credyd

Astudiaethau Hanesyddol (Dip Ôl-radd) | 120 Credyd

Astudiaethau Hanesyddol (Tyst Ôl-radd) | 60 Credyd

Cewch wybodaeth am wneud cais yn uniongyrchol i’r Drindod Dewi Sant yma


Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu
E-bost Cyswllt: k.zinn@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Katharina Zinn


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000

5 rheswm dros astudio’r cwrs hwn:

  1. Ystod eang o fodylau sy’n canolbwyntio ar lawer o wahanol leoedd, themâu, pynciau a phobl, o fynachlogydd i ffilmiau, a Cesar i Churchill.
  2. Cyfle i astudio rhychwant eang o hanes, yr holl ffordd yn ôl i’r hen fyd, drwy’r Oesoedd Canol a hyd at y presennol.
  3. Cyfleoedd i archwilio technegau arloesol ym maes hanes digidol.
  4. Cyfle i gynhyrchu ymchwil gwreiddiol a datblygu sgiliau trosglwyddadwy  
  5. Dulliau ymarferol ac addysgu trochi arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un i un

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r rhaglen yn tynnu arbenigedd darlithwyr ym meysydd eang hanes yr hen fyd, a hanes canoloesol a modern at ei gilydd. Diddordebau ymchwil y darlithwyr sy’n arwain y rhaglen ond gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu ac archwilio eu diddordebau a’u brwdfrydedd eu hun.  Mae modylau ar ffuglen a hanes, y cof a hanes, a ffilm a hanes yn ddigon penagored i fyfyrwyr allu dewis cwblhau asesiadau sy’n addas at eu diddordebau deallusol unigol.  Er enghraifft, gallai myfyriwr sy’n dymuno arbenigo yn y cyfnodau modern neu ganoloesol ddewis cwblhau asesiadau sy’n ymwneud â ffilmiau, nofelau ac arferion coffaol sy’n gysylltiedig â’r cyfnodau hanesyddol hynny.  Yn yr un modd, gallai myfyriwr â brwdfrydedd penodol am hanes un wlad (e.e. Ffrainc) deilwra ei asesiadau tuag at y diddordeb penodol hwnnw (e.e. ysgrifennu traethodau ar sinema, llenyddiaeth a chofebion Ffrainc).  

Dyluniwyd y maes llafur i annog myfyrwyr i archwilio diddordebau ymchwil annibynnol a chymryd ‘perchnogaeth’ gynyddol dros ddylunio eu hastudiaethau eu hun.  Mae’r rhaglen yn gosod pwyslais arbennig ar roi’r wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr sydd eu hangen i ymgymryd â thraethawd hir 15,000 o eiriau yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol.  At y diben hwn, mae modwl penodol ar fethodoleg ymchwil, gyda dulliau perthnasol eraill (e.e. damcaniaeth lenyddol a ffilm, technegau’r dyniaethau digidol) hefyd wedi’u hymgorffori ar hyd y maes llafur.

Dechrau

Myfyrwyr llawn amser yn dechrau ym mis Hydref, myfyrwyr rhan amser yn dechrau ym mis Hydref a mis Chwefror.  Mae carfan fis Chwefror yn ymuno â charfan fis Hydref ar ganol y semestrau gan ddechrau gyda’r modylau sy’n rhedeg yn yr ail semester, ac eithrio Methodoleg Ymchwil i Haneswyr, sy’n rhedeg yn y ddau semester.

Pynciau Modylau

Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr gymryd modwl methodoleg ymchwil arbenigol a chwblhau traethawd hir 15,000 (MA) / 30,000 (MRes) o eiriau.  Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd modylau thematig sy’n canolbwyntio ar y dyniaethau digidol, ffilm a hanes a llenyddiaeth a hanes. Maent hefyd yn cael cyfle i ddewis modylau mwy penodol ar amryw o bynciau o’r hen fyd, a’r cyfnodau canoloesol a modern.

  • MA: Cyfanswm o 180 credyd
  • Diploma Ôl-raddedig: Cyfanswm o 120 credyd
  • Tystysgrif Ôl-raddedig:  Cyfanswm o 60 credyd
Asesiad

Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod eang o dechnegau asesu, gyda’r nod o greu haneswyr sydd â set sgiliau a gwybodaeth amlochrog. Mae’r modylau’n canolbwyntio’n benodol ar ysgrifennu traethodau, ond maent hefyd yn cynnwys yr asesiadau canlynol: adolygiadau llyfrau; dyddlyfrau adfyfyriol; posteri; cyflwyniadau grŵp ac unigol; ymarfer rhaglennu a dylunio i’r we; esboniadau ar ffynonellau a dadansoddiadau ffilm.

Yr asesiad craidd yw’r traethawd hir terfynol 15,000 (MA) / 30,000 (MRes) o eiriau.  Mae’r traethawd hir yn gosod premiwm ar wreiddioldeb ac ymchwil annibynnol.  Er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r technegau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer gwaith y traethawd hir, mae’n ofynnol iddynt gymryd modwl methodoleg ymchwil yn gynnar yn eu gradd.  Mae hyn yn rhoi sylfaen o’r sgiliau angenrheidiol i’r myfyrwyr sydd wedyn yn cael eu mireinio mewn modylau eraill, gan orffen gyda’r traethawd hir ei hun.  

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch) er ei bod yn bosibl y derbynnir ymgeiswyr â gradd o ddosbarth is ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd boddhaol.

Caiff pob cais ei ystyried ar ei deilyngdod, felly gellir cynnig lleoedd yn seiliedig ar gymwysterau a meini prawf mynediad ansafonol, gan gynnwys aeddfedrwydd, cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol. Awgrymwn fod ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau safonol yn cyflwyno curriculum vitae byr gyda'u ffurflen gais.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan aelodau’r Lluoedd Arfog ac yn cydnabod yr hyfforddiant a’r addysg a gânt wrth hyfforddi.  

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r MA Astudiaethau Hanesyddol yn cyfoethogi cyflogadwyedd myfyrwyr drwy gynnig iddynt wybodaeth fanwl am hanes ac am berthnasedd pobl, digwyddiadau a ffenomena hanesyddol i gymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant cyfoes.  Mae’n datblygu sgiliau meddwl beirniadol myfyrwyr a’u dealltwriaeth o faterion moesegol, yn arbennig o ran gwleidyddiaeth cofnodi a choffáu’r gorffennol.  Mae’n cyfoethogi sgiliau cyfathrebu myfyrwyr, ar lafar ac yn ysgrifenedig.  Mae’r rhain oll yn sgiliau hanfodol o fewn nifer o sectorau cyflogaeth, yn benodol amgueddfeydd, diwydiannau treftadaeth, addysgu ac ymchwil academaidd.  Mae’r radd MA hefyd yn ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer amgylchedd newidiol academia. Mae’n gosod pwyslais ar y modd y mae technolegau gwybodaeth yn effeithio ar astudio hanes, yn bennaf drwy’r modwl ar y dyniaethau digidol.  Mae’r modwl hwn yn ehangu’r maes llafur hanes o ganolbwyntio ar ddoniau academaidd ‘traddodiadol’ i ymgorffori sgiliau megis rhaglennu ar gyfer y we, codio, dylunio gwefannau a’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Mae sgiliau o’r fath yn cyfoethogi CV myfyrwyr ac yn adlewyrchu pwysleisiau newidiol o fewn addysg uwch yn fwy cyffredinol.

Mae’r radd Astudiaethau Hanesyddol yn paratoi myfyrwyr at swyddi mewn meysydd fel gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.  Mae’r rhaglen MA hefyd yn rhoi’r sylfaen angenrheidiol i fyfyrwyr astudio ar gyfer PhD neu MPhil, gyda bwriad i ddilyn gyrfa yn y byd academaidd a/neu feysydd cyflogaeth cytras. Paratoir darpar fyfyrwyr doethurol am astudiaethau PhD drwy eu hannog i fynychu a chymryd rhan yn seminarau ymchwil y gyfadran ynghyd â symposia a chynadleddau academaidd.

Costau Ychwanegol

Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
  • Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith Maes ddewisol:

Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500

Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50

Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.