Skip page header and navigation

Systemau Electroneg Mewnblanedig (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104 o Bwyntiau UCAS

Wrth i dechnoleg symud yn ei blaen, mae pwysigrwydd peirianneg drydanol ac electronig yn cynyddu’n sylweddol. Drwy astudio ein gradd Systemau Electronig wedi’u Mewnosod, fe gewch ddealltwriaeth hanfodol o brif elfennau a nodweddion systemau cyfrifiadurol a gwybodaeth gadarn am offer dadansoddi cylched a rhwydwaith hanfodol trwy ymddygiad cydrannau yn y byd go iawn. Byddwch hefyd yn dysgu i gymhwyso’r offer hyn mewn amgylchedd ymarferol.

Nod y rhaglen hon yw adeiladu dealltwriaeth systematig o agweddau allweddol ystod o gysyniadau, egwyddorion, a thechnolegau cysylltiedig â systemau wedi’u mewnosod a thechnolegau cyfathrebu, y mae rhai ohonynt ar reng flaen y ddisgyblaeth.

Cewch eich cyflwyno i luniadau meddalwedd, ac i ddatblygiad meddalwedd, gan ddefnyddio iaith rhaglennu C ar gyfer cymwysiadau wedi’u mewnosod a chael dealltwriaeth o gysyniadau sylfaenol ac egwyddorion microbroseswyr, microreolwyr a’r modylau perifferol cysylltiedig a thechnegau rhyngwyneb a ddefnyddir i greu systemau rhaglenadwy sy’n gallu gwneud tasgau fel monitro, cyfathrebu a rheoli.

Yn ystod eich cwrs byddwch yn adeiladu dealltwriaeth fanwl o ddull dylunio a gweithredu systemau microreolwr a ddosberthir a’u cymhwysiad i ddyfeisiau a systemau electronig modern. Byddwch yn datblygu’r sgiliau i ddatrys problemau neu i fodloni cyfres o ofynion. Yn ogystal â gwybodaeth bwnc-benodol, byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen yng nghyd-destun cyflogaeth, gan gynnwys sgiliau gweithdy.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
BES1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i ddylunio i gynhyrchu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn niwydiant systemau cyfrifiadura a gwybodaeth y DU sy’n tyfu’n gyflym.
02
Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant. Bydd myfyrwyr yn cael llawer o brofiad o dechnolegau modern.
03
Dylai’r sawl sy’n gwneud cais i’r rhaglen hon fod yn rifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae’n debygol eu bod cynt wedi astudio peirianneg, gwyddoniaeth, mathemateg neu dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs BEng/DipHE/TystAU Peirianneg Electroneg hwn yn datblygu gwybodaeth o systemau caledwedd a meddalwedd sydd ei angen ar gyfer cyfrifiaduron modern. Hefyd, mae’n canolbwyntio ar electroneg analog, electroneg ddigidol, microbroseswyr a phrosesu signalau digidol a chyfathrebu.

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab, Xilinx, Mentor Graffics a Visual Development Studio Microsoft.

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a datblygu synthesis digidol sy’n bosibl  drwy gyfraniadau offer gan Xilinx a Texas Instruments, mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg orau sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd yn y diwydiant.

Cafwyd newid mewn tueddiad o gwmnïau dylunio a gweithgynhyrchu ar raddfa fawr i FBaChau bach, uchel eu sgil. Felly, gall myfyrwyr yn y cyfryw amgylchedd fod ag agen ystyried dechrau eu busnes eu hunain.

Nod gyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r medrau i weithio yn y diwydiannau systemau cyfrifiadura ac electroneg. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. Caiff yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu wrth greu a rheoli datrysiadau meddalwedd  a chaledwedd fel rhan o dîm eu parchu’n fawr gan gyflogwyr.

Gorfodol 

Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol

(10 credydau)

Microgyfrifiaduron, Perifferolion a Rhyngwynebu

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Signalau a Systemau

(10 credydau)

C Mewnblanedig

(20 credydau)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ar gyfer Electroneg

(10 credydau)

Gorfodol 

Electroneg I

(20 credydau)

Ymbelydredd Electromagnetig

(20 credydau)

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Dosbarthedig

(20 credydau)

Prosesu a Chyfathrebu Signalau Digidol

(20 credydau)

Systemau Amledd Radio

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Electroneg II

(20 credydau)

Dylunio Systemau Electronig

(20 credydau)

Systemau Amledd Radio Uwch

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol:

    104 pwynt tariff UCAS gan gynnwys:

    • Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
    • Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod, Teilyngdod; neu
    • Tystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
    • NVQ Lefel 3 - Pas

    Sylwer y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg. Mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol.

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol cyfrifiadura ac electroneg. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

    • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
    • Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
    • Teithiau astudio (Dewisol) – Ymweliadau â diwydiant a drefnir gan yr Ysgol yn y DU neu Ewrop 
    • (Ar gyfer teithiau yn y DU tua £50 / Ar gyfer teithiau yn Ewrop tua £200)
    • Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddai ymgeiswyr y rhaglen hon yn meddu ar feddwl technegol ac efallai eu bod wedi astudio peirianneg, cyfrifiadura neu’r gwyddorau o’r blaen.

    Byddant yn ceisio dod yn arbenigwyr cyfrifiadurol sy’n deall caledwedd, meddalwedd ac agwedd gyfathrebu systemau cyfrifiadurol ac electronig. Byddai graddedigion HND yn chwilio am swyddi technegydd dylunio rhwydwaith, technegydd dylunio electroneg, technegydd systemau cyfathrebu, ayb.

    Dyma broffiliau rhai o raddedigion y rhaglen hon a lle maen nhw nawr:

    Ceir tystebau gan raddedigion eraill.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau