Yma i Helpu
Yr Hwb yw’r unig le y gallwch gael gafael ar yr holl wybodaeth a’r cymorth y bydd arnoch eu hangen i wneud yn fawr o’ch amser yn y Drindod Dewi Sant.
Bydd y tîm Hwb Myfyrwyr ymroddedig, a luniwyd i fod yn bwynt cyswllt cyntaf, yn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bob mater sy’n ymwneud â myfyrwyr a gall eich cyfeirio at gymorth arbenigol. Gallwn hefyd helpu gydag ymholiadau am:
- Cyllid
- Cofrestru
- Modylau
- Moodle
- Amserlen
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- TG
Ar ôl i chi gofrestru, lawrlwythwch yr ap ‘UWTSD Hwb’ i gael yr holl wybodaeth allweddol ar flaenau eich bysedd:
Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost YDDS a’ch cyfrinair.
Gallwch hefyd gyrchu’r platfform pan fyddwch yn agor y porwr ar unrhyw gyfrifiadur ar y campysau neu drwy ymweld â https://hwb.uwtsd.ac.uk
Gallwch gysylltu â’r tîm Hwb Myfyrwyr, drwy:
E-bost: hwb@uwtsd.ac.uk
Ffôn: 0300 131 3030
Oriau agor:
Dydd Llun 8.30 – 5.00
Dydd Mawrth 8.30 - 5.00
Dydd Mercher 8.30 – 5.00
Dydd Iau 8.30 – 5.00
Dydd Gwener 8.30 – 4.30