Hafan YDDS - Bywyd Myfyrwyr - Hwb Myfyrwyr - Cwrdd â’r tîm
Marlene Tobias
Helo, Marlene Tobias ydw i a fi yw Prif Swyddog Gweinyddol yr Hwb Myfyrwyr, ac rwy'n gweithio'n bennaf ar gampws Caerdydd. Rwy wedi bod yn gweithio i'r Brifysgol am amser hir, a'r hyn sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i mi yw helpu myfyrwyr â'u hymholiadau.
Cysylltwch â ni am unrhyw agwedd ar eich astudiaethau, ac fe wnawn ein gorau glas i'ch helpu i wneud eich amser yn y Brifysgol yn un hapus a llwyddiannus.
Rwy'n siarad Cymraeg yn rhugl felly mae croeso i chi siarad â mi yn Gymraeg!
Joanne Price
Helo, Jo ydw i, rwy'n aelod o'r tîm Hwb Myfyrwyr ac rwy wedi bod yn gweithio yn YDDS er chwe blynedd. Rwy'n gweithio wrth ddesg Hwb ar gampws Caerfyrddin ble rwy bob amser yn hapus i helpu, cynnig cymorth neu gael sgwrs (rwy wrth fy modd yn siarad!). Fel nifer o bobl, rwy newydd gwblhau fy astudiaethau fy hun yn YDDS, gan raddio eleni. Y tu allan i'r gwaith rwy'n mwynhau cadw'n heini, cymdeithasu a theithio gan wrando ar The 1975 a'r Noisettes.
Haf James
Fy enw i yw Haf ac rwy'n gweithio ar gampws Llambed yn Adeilad Caergaint.
Yn ogystal â gweithio yn yr Hwb, fi yw'r derbynnydd a'r cynorthwyydd gweinyddol i'r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar Gampws Llambed.
Dewch i'm gweld os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, neu os mai cyfarwyddiadau neu gyngor cyffredinol yn unig sydd ei angen arnoch. Peidiwch byth â meddwl 'Alla i ddim gofyn hynny'. Wrth gwrs y gallwch 😊. Fi hefyd yw'r un i'w gweld os oes angen i chi wneud apwyntiadau gyda'r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr, i weld y Cynghorydd Anabledd, Cwnselydd, Cynghorydd Iechyd Meddwl, Gyrfaoedd neu'r Swyddog Cyllid Myfyrwyr. Gallaf eich rhoi mewn cysylltiad hefyd â Thîm Go Wales.
Galwch mewn i ddweud helo wrth fynd heibio, neu godi llaw y tu allan i'r ffenest, oherwydd byddwn bob amser yn gwenu ac yn chwifio llaw yn ôl arnoch!
Bruce Mcsloy
Helo, Bruce ydw i ac rwy'n gweithio yn Abertawe ar Gampws SA1. Rwy wedi bod yn gweithio i'r Drindod Dewi Sant am gwpwl o flynyddoedd erbyn hyn, ac rwy'n mwynhau gwylio'r morloi yn dringo'r ysgol bysgod ar ôl yr eog a'r brithyll ym Mae Abertawe nesaf at Adeilad IQ - profiad arbennig!